Decision details

Community Safety Partnership

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am ganfyddiadau’r adolygiad o drefniadau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol yn rhanbarth Cwm Taf Morgannwg (Atodiad A) a’u goblygiadau ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wrth i ni geisio dod yn un Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Cwm Taf Morgannwg a chymeradwyo mewn egwyddor uno Bwrdd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Cwm Taf a Bwrdd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr. Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid gefndir i'r adroddiad fel y nodir yn adran 3. Ychwanegodd fod 9 argymhelliad penodol wedi cael eu nodi yn yr adolygiad a bod y rhain wedi cael eu cynnwys yn 4.1 o'r adroddiad.

 

Croesawodd Aelod y Cabinet dros Adfywio yr adroddiad ond roedd yn bryderus ein bod yn ymestyn yn rhy eang. Mae'r trefniadau presennol yn canolbwyntio ar Ben-y-bont ar Ogwr yn unig ac yn gweithio'n dda ac ofnai y gallem golli’r cysylltiad personol/lleol gyda'r preswylwyr. Dywedodd hefyd ein bod wedi derbyn grant o £750,000 i'w ddefnyddio tuag at gamerâu teledu cylch cyfyng a chymorth ar gyfer hyfforddiant i fenywod. A ydym yn mynd i wanhau hynny hefyd drwy ehangu i'r rhanbarth ehangach.

 

Sicrhaodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid y Cabinet fod gennym nifer o drefniadau partneriaeth rhanbarthol eraill fel y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol a bod gan y rhain strategaethau cyffredin oedd yn canolbwyntio ar faterion ac anghenion lleol ac y byddai hyn yn parhau gyda threfniadau’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol hon hefyd. Yn dilyn trafodaethau pellach, gofynnodd Aelodau’r Cabinet i adroddiad pellach gael ei gyflwyno i’r Cabinet maes o law, fyddai’n cynnwys trefniadau craffu a chynlluniau ar gyfer delio ag eithafiaeth a gwrthderfysgaeth.

 

PENDERFYNWYD: bod y Cabinet:

 

  1. yn nodi'r adolygiad o drefniadau’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ac yn cymeradwyo mewn egwyddor uno Bwrdd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Cwm Taf a Bwrdd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr;

 

  1. yn nodi y caiff adroddiad pellach ei gyflwyno i'r Cabinet i ystyried cefnogaeth a threfniadau strwythur;

 

3.    yn cytuno i dderbyn adroddiad diweddaru fyddai’n edrych ar drefniadau craffu yn ogystal â threfniadau lleol a chynlluniau ar gyfer delio ag eithafiaeth a gwrthderfysgaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 16/05/2023

Dyddiad y penderfyniad: 09/05/2023

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/05/2023 - Cabinet

Dogfennau Cefnogol: