Statws: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Cyflwynodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i'r Polisi Rheoli Risg Corfforaethol wedi ei ddiweddaru.
Eglurodd fod y polisi wedi ei ddiweddaru yn Atodiad A yr adroddiad yn nodi'r archwaeth am risg, neu’r graddau o risg yr oedd y Cyngor yn barod i'w oddef ar draws ystod eang ei weithgareddau.
Dywedodd nad oedd unrhyw newidiadau sylweddol i'r Polisi Rheoli Risg, ond bod y polisi wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu cyflwyno rhaglen feddalwedd rheoli risg fyddai'n cael ei rhoi ar waith yn chwarter 2 blwyddyn ariannol 2023-24.
Croesawodd Aelod y Cabinet dros Adnoddau yr adroddiad a’r tryloywder yr oedd yn ei gynnig. Ychwanegodd fod y polisi yn galluogi Aelodau i ddeall proses rheoli risg y Cyngor ac y byddai'r feddalwedd newydd yn darparu rhywfaint o ddata defnyddiol i gyfrannu at reoli risg.
Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd sut yr oedd y gofrestr risg ranbarthol yn cael ei hymgorffori yn y polisi hwn. Eglurodd y Prif Swyddog pan fyddai’r asesiad risg corfforaethol wedi cael ei ddiweddaru, y byddai’r Swyddogion yn sicrhau bod y materion allweddol yn eu maes gwasanaeth yn cael eu hadlewyrchu yn yr asesiad risg corfforaethol ac y byddai hyn yn cynnwys y materion a godwyd ar lefel ranbarthol. Rhoddodd sicrwydd y câi risgiau rhanbarthol eu hadlewyrchu yn yr Asesiad Risg Corfforaethol pe baent yn effeithio ar CBSP.
Ychwanegodd yr Arweinydd fod hyn yn bwysig o ystyried pwysigrwydd cynyddol rôl y trefniadau partneriaeth rhanbarthol. Gofynnodd gyda golwg ar yr amserlen a oeddem yn cadw at yr amser. Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid ein bod ar amser a bod yr Asesiad Risg Corfforaethol i gael ei dderbyn yn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ym mis Mehefin. Bydd y Pwyllgor yn edrych ar hyd at ddwy risg yn fanwl a bydd y Brif Swyddfa berthnasol yn amlinellu’r risg a’r camau lliniaru i fynd i’r afael â’r risg honno.
PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Polisi Rheoli Risg Corfforaethol wedi ei ddiweddaru.
Dyddiad cyhoeddi: 16/05/2023
Dyddiad y penderfyniad: 09/05/2023
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/05/2023 - Cabinet
Dogfennau Cefnogol: