Decision details

Revenue Monitoring Statement 1 April to 30 September 2022 and Annual Accounting Statement 2021-22 update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd Bwyllgor Amlosgfa Llangrallo

Statws: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Trysorydd adroddiad, a phwrpas hwn oedd hysbysu’r Cyd-Bwyllgor am fanylion yr incwm a’r gwariant ar gyfer chwe mis cyntaf blwyddyn ariannol 2022-23 a rhoi rhagamcan o’r alldro terfynol, yn ogystal â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cyd-bwyllgor mewn perthynas â Datganiad Cyfrifon Blynyddol 2021-22.

Fel gwybodaeth gefndir, cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid, Rheolaeth Ariannol, Systemau Cau a Chyfrifyddu, fod Cyllideb Refeniw 2022-23 wedi'i chymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor yn ei gyfarfod ar 4 Mawrth 2022. Roedd sefyllfa gyfredol y gyllideb a'r alldro rhagamcanol ar gyfer 2022- 23 i’w weld ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

Tynnodd sylw’r Aelodau at baragraff 4.1 o'r adroddiad a Thabl 1, oedd yn cynnwys manylion incwm a gwariant ar gyfer y cyfnod Ebrill i Fedi 2022, ynghyd â'r alldro a ragwelid ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Dangosai’r Tabl hwn ddiffyg rhagamcanol o £941,000 ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23, sy’n unol â’r diffyg a gymeradwywyd gan y Cyd-bwyllgor ar 4 Mawrth 2022 ac sy’n ganlyniad i gyllideb ychwanegol a gymeradwywyd ar gyfer gwaith cyfalaf ar estyniad y Llys Blodau. Roedd esboniad pellach o'r amrywiadau rhwng y gyllideb a'r alldro a ragwelid yn yr adran hon o'r adroddiad.

Rhoddai Tabl 2 ym mharagraff 4.2 ddadansoddiad o’r gyllideb Ariannu Cyfalaf ar gyfer 2022-23, ynghyd â’r gwariant ar gyfer y cyfnod Ebrill i Fedi 2022 a’r alldro a ragwelid ar gyfer y flwyddyn ariannol. Ychwanegodd y Rheolwr Cyllid – Systemau Rheolaeth Ariannol, Cau a Chyfrifyddu y cytunwyd ar gyllideb ychwanegol o £719,957 i ariannu’r costau uwch am estyniad y Llys Blodau yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor ar 15 Gorffennaf 2022, gan gynyddu’r gyllideb hon i £1.270 miliwn.

Cyflwynwyd y Ffurflen Flynyddol ar gyfer 2021-22 (yn Atodiad 1 yr adroddiad) i Archwilio Cymru ar ddiwedd Gorffennaf 2022, yn dangos gwarged o £280,724 am y flwyddyn a balans cronedig o £3,179,607 ar 31 Mawrth 2022.

Dywedodd fod Archwilio Cymru bellach wedi cadarnhau bod y Ffurflen wedi'i harchwilio ac nad oedd angen newidiadau (Atodiad 2).

Ychwanegodd y Rheolwr Cyllid – Systemau Rheolaeth Ariannol, Cau a Chyfrifyddu yn olaf, y byddai copi o’r Ffurflen Dreth ardystiedig ar gael yn yr Amlosgfa ac yn electronig ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Cyfeiriodd Aelod at frig tudalen 29 yr adroddiad, lle ceid cyfeiriad at gynnydd rhagamcanol yng Nghyfraniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o £3,000 yn ymwneud â chostau staffio uwch a ailgodwyd ar wasanaeth Mynwentydd y Cyngor. Gofynnodd am ychydig o eglurhad beth oedd hyn.

Cadarnhaodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth fod hwn yn ganran o gyflog aelod o staff oedd wedi ei symud o Adran Mynwentydd y Gyfadran Cymunedau i’r Amlosgfa, ac felly bod peth o gyflog y swydd yn cael ei ail godi ar yr Adran honno.

PENDERFYNWYD:                  Bod y Cyd-bwyllgor yn nodi'r Datganiad Monitro Refeniw o fis Ebrill i fis Medi ar gyfer 2022-23 a'r sefyllfa mewn perthynas â Datganiad Cyfrifon

Dyddiad cyhoeddi: 28/10/2022

Dyddiad y penderfyniad: 28/10/2022

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/10/2022 - Cyd Bwyllgor Amlosgfa Llangrallo

Dogfennau Cefnogol: