Decision details

Financial Performance 2022-23 and Proposed Revenue Budget 2023-24

Statws: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfrifydd – Rheolaeth Ariannol a Chau. Pwrpas yr adroddiad hwn oedd rhoi gwybod i’r Cyd-bwyllgor am berfformiad ariannol rhagamcanol yr Amlosgfa ar gyfer 2022-23, a chael cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor ar gyfer y Gyllideb Arfaethedig a’r Ffioedd a’r Taliadau ar gyfer 2023-24.

 

Dywedodd fod y Cyd-bwyllgor wedi cymeradwyo Cyllideb Refeniw 2022-23 mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2022 ac aeth yn ei flaen i gyflwyno’r holl adrannau dan yr adroddiad a oedd yn cynnwys y sefyllfa/cynnig presennol a’r gyllideb arfaethedig ar gyfer 2023-24.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys manylion am Ofynion Gwariant Cynnal a Chadw Cyfalaf Arfaethedig, Ffioedd a Thaliadau a’r Balans Cronedig.

 

Holodd un o’r aelodau am y cynnydd yn y ffi ar gyfer gwasanaethau coffa a gofynnodd faint o refeniw y disgwylid ei gael yn sgil y cynnydd hwn dros y flwyddyn sydd i ddod. Dywedodd y Cyfrifydd – Rheolaeth Ariannol a Chau nad oedd yn si?r a oedd manylion penodol i’w cael, ond bod y rhagolygon ar gyfer y cynnydd cyffredinol yn amrywio o 1.55 miliwn i 1.62 miliwn yn ystod 2023-24. Dywedodd y byddai’n ceisio cael gafael ar ragor o fanylion yngl?n â’r ffigurau.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth a Chofrestrydd Amlosgfa Llangrallo nad oedd yr union gynnydd mewn refeniw yn sgil cynyddu ffioedd gwasanaethau coffa wedi cael ei gyfrifo. Eglurodd fod mwy o drefnwyr angladdau lleol yn defnyddio’r Capel mawr yn amlach ar gyfer cynnal gwasanaethau coffa (yn arbennig cyn claddu mewn mynwentydd), cyn i’r holl wasanaethau angladd gael eu symud i’r ail gapel tra byddai’r gwaith adeiladu’n cael ei wneud – a hynny gan fod y ffi’n is o lawer na’r ffi a godir mewn eglwysi lleol. Dywedodd ei bod yn bwysig i’r Amlosgfa ddiogelu amlosgiadau ac osgoi bod yn rhywle lle gellir llogi’r Capel gan ei fod yn ddewis cost-effeithiol.

 

PENDERFYNIAD:

 

·         Nododd y Cyd-bwyllgor y perfformiad ariannol rhagamcanol ar gyfer 2022-23

 

·         Cadarnhaodd a chymeradwyodd y Cyd-bwyllgor y dylid mabwysiadu’r gyllideb refeniw ar gyfer 2023-24

 

·         Cymeradwyodd y Cyd-bwyllgor y cynnydd mewn ffioedd a thaliadau, fel y nodir yn Atodiad 1. Bydd y cynnydd yn cael ei roi mewn grym o 1 Ebrill 2023.

 

Dyddiad cyhoeddi: 12/06/2023

Dyddiad y penderfyniad: 03/03/2023

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/03/2023 - Cyd Bwyllgor Amlosgfa Llangrallo

Dogfennau Cefnogol: