Decision details

Programme of Meetings 2023-24

Statws: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y rhaglen arfaethedig gogyfer 2023-24.

 

Dywedodd fod memorandwm cytundeb yr amlosgfa yn nodi y dylai’r Cyd-bwyllgor gynnal dau gyfarfod fan leiaf yn ystod unrhyw un o flynyddoedd y Cyngor, a bod yn rhaid i un o’r cyfarfodydd hyn fod yn gyfarfod cyffredinol blynyddol.

 

Y cyfarfod cyntaf a gynhelir gan y Cyd-bwyllgor ar ôl cynnal cyfarfodydd blynyddol y Cynghorau fydd cyfarfod cyffredinol blynyddol y Cyd-bwyllgor. Yn y cyfarfod hwn, bydd y Cyd-bwyllgor yn ethol cadeirydd ac is-gadeirydd ar gyfer y flwyddyn. Dywedodd y caiff y Cyd-bwyllgor gynnal cynifer o gyfarfodydd ag y bo angen neu y bo’n gyfleus, pa bryd bynnag y bo angen neu y bo’n gyfleus, ac aeth yn ei blaen i gynnig cyfres o ddyddiadau.

 

Holodd y Cadeirydd yngl?n â’r posibilrwydd o ymweld â’r safle, er mwyn i’r pwyllgor allu edrych ar y cynigion a gweld y gweithrediadau a’r gwaith adnewyddu ar y gweill.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth eu bod fel arfer yn ceisio cynnal ymweliad safle cyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan un o’r aelodau ynghylch a fyddai modd cynnal yr ymweliad ar ôl cwblhau’r cwrt blodau, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth na ddisgwylir i’r estyniad gael ei gwblhau cyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ac na fyddai, yn ôl pob tebyg, yn cael ei gwblhau tan oddeutu mis Medi 2023. Ond dywedodd ei bod o’r farn y byddai’n fuddiol ymweld â’r safle, yn enwedig gan fod y Cyd-bwyllgor yn cynnwys aelodau newydd nad oeddynt wedi cael eu tywys o amgylch y cyfleusterau o’r blaen.

 

PENDERFYNIAD: Cymeradwyodd y Cyd-bwyllgor y rhaglen ar gyfer cyfarfodydd 2023-24.

 

Dyddiad cyhoeddi: 12/06/2023

Dyddiad y penderfyniad: 03/03/2023

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/03/2023 - Cyd Bwyllgor Amlosgfa Llangrallo

Dogfennau Cefnogol: