Decision details

Allocations Under Town and Community Council Capital Grant Scheme 2022-23

Statws: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Gofynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau am gymeradwyaeth i ddyrannu cyllid cyfalaf i Gynghorau Tref a Chymuned i ddatblygu prosiectau o gynllun Grant Cyfalaf Cynghorau Tref a Chymuned ar gyfer 2022-23.

 

Dywedodd fod y Cyngor wedi dyrannu £50,000 ar gyfer 2022-23 ac ar gyfer blynyddoedd dilynol y Rhaglen Gyfalaf i gefnogi ceisiadau gan Gynghorau Tref a Chymuned ar gyfer prosiectau cyfalaf. Gyda dadneilltuo prosiect Coety Uchaf, y gyllideb sydd ar gael ar gyfer 2022-23 yw £65,002.57. Amlinellodd gynigion a dderbyniwyd gan Gynghorau Tref a Chymuned a oedd yn ceisio alinio ag agenda Datgarboneiddio a Sero-Net 2030 y Cyngor. Cynigiwyd cymeradwyo ceisiadau am gyllid gan Gyngor Cymuned Corneli (£9,583) a Chyngor Cymuned Llangrallo Uchaf (£5,000) a bod Rheolwr y Rhaglen Datgarboneiddio yn cysylltu â Chyngor Tref Maesteg i gefnogi adolygiad o’r dewisiadau sydd ar gael gyda’r potensial i ailymweld â chais yn y blynyddoedd i ddod.

 

Nododd yr Aelod Cabinet Addysg bwysigrwydd cyflwyno cynlluniau gan Gynghorau Tref a Chymuned i wneud cais am arian o ddyraniad y flwyddyn nesaf. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y gellid cyflwyno adroddiad i’r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned nesaf i gynnig cefnogaeth a chyngor i Gynghorau Tref a Chymuned er mwyn iddynt gyflwyno bidiau am arian o dan y Cynllun Grant Cyfalaf yn 2023-24.

 

PENDERFYNWYD:     Bod y Cabinet wedi:

1.  Cymeradwyo i ddyrannu cyllid cyfalaf o fewn y Rhaglen Gyfalaf bresennol o £14,583.00 i Gynghorau Tref a Chymuned i ddatblygu prosiectau yn unol â’r dyraniadau penodol a nodir yn 8.2 o’r Cynllun Grant Cyfalaf Cynghorau Tref a Chymuned;

2.  Nodi y bydd cyllid o £50,419.57 yn cael ei ddwyn ymlaen i gefnogi prosiectau yn 2023-24;

3. Rhoi awdurdod i swyddogion gyfathrebu â’r CTaCh a restrir yn Nhabl 3, adran 8.4, i ofyn am ddiweddariad ar ddarpariaeth a gwariant arfaethedig. Cynigiwyd pe bai Cynghorau Tref a Chymuned yn ymateb yn nodi nad yw prosiectau bellach yn cael eu cynnal neu nad oes modd eu cyflawni o fewn blwyddyn ariannol 2022-23, bod cynigion cyllid yn cael eu tynnu’n ôl ar gyfer y ceisiadau penodol a restrir uchod. Os bydd hyn yn digwydd yna bydd cyllid cysylltiedig yn cael ei ddychwelyd i Gynllun Grant Cyfalaf y Cynghorau Tref a Chymuned a bydd ar gael ar gyfer rowndiau ceisiadau cynigion newydd yn y dyfodol;

4. Argymell cyflwyno adroddiad i’r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned nesaf i gynnig cefnogaeth a chyngor i Gynghorau Tref a Chymuned er mwyn iddynt gyflwyno bidiau am arian o dan y Cynllun Grant Cyfalaf yn 2023-24.   

Dyddiad cyhoeddi: 19/05/2023

Dyddiad y penderfyniad: 19/07/2022

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/07/2022 - Cabinet

Dogfennau Cefnogol: