Decision details

Foster Carer Allowances Uplift

Statws: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ar gynnig i gynyddu lwfansau gofalwyr maeth, yn gysylltiedig â’r cynnydd sylweddol mewn costau byw a gofynnodd am gytundeb i gynnig pythefnos o seibiant y flwyddyn â thâl i bob gofalwr maeth, a chynyddu’r lwfans gofal maeth ar gyfer 2022/23.

 

Dywedodd wrth y Cabinet fod gofalwyr maeth yn chwarae rhan arwyddocaol yn y Cyngor, gan ddarparu gofal o fewn teulu i blant a phobl ifanc na allant fyw gartref gyda’u teuluoedd biolegol. Dywedodd nad oes digon o ofalwyr maeth ac un o’r “themâu allweddol” a nodwyd yn y Strategaeth Comisiynu Lleoliadau a gwblhawyd ym mis Ebrill 2021 oedd nifer annigonol o ofalwyr maeth mewnol. Er mwyn mynd i’r afael â’r maes hwn sy’n peri pryder, roedd Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymgysylltu â chydweithwyr rhanbarthol i gefnogi recriwtio gofalwyr maeth ac ym mis Ebrill 2022 ymrwymodd i’r ‘Drws Ffrynt’ Rhanbarthol gyda Chynghorau Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Merthyr i gefnogi un pwynt cyswllt ar gyfer pob ymholiad gofal maeth ac ymweliad cychwynnol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y lansiwyd Maethu Cymru/Foster Wales ym mis Medi 2021 i gefnogi dull cenedlaethol o recriwtio gofalwyr maeth newydd ar draws pob un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru, ond nid oedd hyn wedi arwain at y cynnydd a ragwelwyd. Dywedodd fod angen recriwtio gofalwyr maeth newydd, gan gadw’r rhai sydd gan y Cyngor ar hyn o bryd, i sicrhau bod digon o leoliadau i ddiogelu plant a phobl ifanc. Roedd Gofalwyr Maeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn cynnydd o 3% i’w lwfans sylfaenol eleni, a rhagwelir y bydd costau byw yn codi 10% dros y misoedd nesaf.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y bwriedir cynyddu Lwfansau Maethu 7% (yn ychwanegol at y 3% a dalwyd eisoes) i 10% ar gyfer 2022/23 yn unig, yn amodol ar unrhyw argymhellion gan Lywodraeth Cymru neu adolygiad pellach gan y gwasanaeth mewn perthynas â newid mewn amgylchiadau. Byddai angen i’r Cyngor ystyried unrhyw barhad o’r cynnydd hwn y tu hwnt i’r flwyddyn ariannol hon wrth osod cyllideb ar gyfer 2023/24 ac ar ôl hynny. Cynigiwyd hefyd gynnig pythefnos (14 diwrnod) o seibiant y flwyddyn i bob gofalwr maeth. Byddai’r lwfansau ychwanegol o 7% arfaethedig yn golygu cynnydd o £201k yn y gyllideb, tra byddai cyflwyno pythefnos o seibiant â thâl i bob gofalwr maeth yn costio £80,186 i’r Cyngor.

 

Wrth gymeradwyo’r cynigion, dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod rôl gofalwyr maeth yn hynod bwysig a chydnabu ei bod yn rôl 24 awr 7 diwrnod yr wythnos. Dywedodd hefyd ei bod yn hanfodol bod gofalwyr maeth yn cael pythefnos o seibiant gyda thâl. Dywedodd yr Arweinydd fod yr Aelod Cabinet a’r Cyfarwyddwr yn edrych ar ffyrdd ychwanegol o gefnogi gofalwyr maeth.

 

PENDERFYNWYD:      Bod y Cabinet wedi:

· Cymeradwyo’r cynnig i gynnig pythefnos o seibiant y flwyddyn gyda thâl i bob gofalwr maeth, wedi’i ariannu fel y nodir o’r gyllideb bresennol.

· Cymeradwyo’r cynnig i gynyddu lwfansau gofalwyr maeth fel y nodir yn 8.2 yn yr adroddiad.     

Dyddiad cyhoeddi: 19/05/2023

Dyddiad y penderfyniad: 19/07/2022

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/07/2022 - Cabinet

Dogfennau Cefnogol: