Decision details

Local Government (Miscellaneous Provisions) Act 1976 Section 65 Power to Fix Fares for Hackney Carriages; Application to Vary the Hackney Carriage Fares Tariff

Statws: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Adroddodd Pennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ar gais a dderbyniwyd gan Gymdeithas Hacni Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gynyddu cyfradd prisiau cerbydau Hacni Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir wrth y Cabinet y gallai’r Cyngor bennu neu amrywio’r gyfradd prisiau ar gyfer llogi cerbyd Hacni o dan ddarpariaethau Adran 65 y Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. Mae’n rhaid i unrhyw newid i’r pris gael ei hysbysebu mewn papur lleol a bod cyfnod o rybudd o 14 diwrnod o leiaf yn cael ei roi i alluogi unrhyw un i wrthwynebu. Dywedodd fod y tariff prisiau presennol wedi bodoli ers mis Ionawr 2019.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir fod y cais yn cynnig cynnydd ar draws yr holl dariffau ynghyd â’r tâl am amser aros, gan amlygu effaith economaidd y pandemig Covid-19 ar y fasnach dacsis ynghyd â’r argyfwng costau byw presennol. Yn ogystal, roedd yr Adain Drwyddedu wedi derbyn nifer o ymholiadau gan ddeiliaid trwydded unigol yn gofyn a fyddai’r Cyngor yn ystyried codiad pris oherwydd costau byw/argyfwng tanwydd. Ar hyn o bryd mae Pen-y-bont ar Ogwr yn safle 230 o’r 349 o Gynghorau sy’n pennu prisiau. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir wrth y Cabinet y byddai’n symud i’r un amrediad prisiau â Chynghorau Bro Morgannwg a Sir Gaerfyrddin, pe bai’n dymuno cymeradwyo’r cynnydd. Tynnodd sylw at y cynnydd yng nghostau tanwydd ers Ebrill 2019 ynghyd â’r cynnydd yn y gyfradd chwyddiant ac ers 2019, bu gostyngiad o flwyddyn i flwyddyn yn nifer y trwyddedau gyrwyr a cherbydau a roddwyd gan y Cyngor, yn ystod y pandemig. Bu cynnydd yn nifer y gyrwyr trwyddedig ond nid oedd hyn wedi dychwelyd i’r lefelau cyn-bandemig.

 

Wrth gymeradwyo’r cynnig i gynyddu prisiau cerbydau Hacni, soniodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol am bwysigrwydd tacsis yn seilwaith trafnidiaeth y Fwrdeistref Sirol, gan gydbwyso hynny ag anghenion trigolion i gyrraedd apwyntiadau, lle nad oes digon o lwybrau bysiau neu rai sy’n cael eu canslo. Roedd hefyd yn bwysig ystyried y cynnydd mewn prisiau sy’n atal gyrwyr rhag gwneud cais am drwyddedau mewn awdurdodau cyfagos pan welwyd gostyngiad yn y trwyddedau a roddir yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr eisoes yn 2021 a 2022.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd bwysigrwydd cydnabod y costau a wynebir gan yrwyr tacsi trwyddedig a phe na bai’r Cyngor yn cynyddu prisiau fe allai arwain at ostyngiad yn nifer y gyrwyr, gan effeithio ar wasanaethau lleol. Gofynnodd i Bennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ddiolch i’r Tîm Trwyddedu a phawb sy’n gysylltiedig â’r Pwyllgor Trwyddedu am eu gwaith.

 

PENDERFYNWYD:     Bod y Cabinet wedi:

 

1.   Cydnabod y materion a’r effeithiau ar brisiau tacsis a nodir yn yr adroddiad.

2.   Cymeradwyo’r cais a gyflwynwyd gan Gymdeithas Hacni Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyda dyddiad gweithredu o 26 Medi 2022 ymlaen (ar yr amod nad oes unrhyw wrthwynebiadau).

Awdurdodi hysbysebu’r newid prisiau mewn papur newydd lleol.   

Dyddiad cyhoeddi: 19/05/2023

Dyddiad y penderfyniad: 19/07/2022

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/07/2022 - Cabinet

Dogfennau Cefnogol: