Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Datblygiad a Rheoli
Statws: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
PENDERFYNWYD: (1) Nodi’r apeliadau a dderbyniwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor fel y’u dangoswyd yn Adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau
(2) Bod yr Arolygwr a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar yr apeliadau canlynol wedi rhoi cyfarwyddyd i’w gwrthod:-
Rhif yr Apêl. - CAS-02086-N7G7S9 (1942)
Testun yr Apêl – Estyniad Dau Lawr i ochr yr Annedd ac Estyniad Un Llawr i Gefn yr Annedd, 8 Heol y Priordy,Pen-y-bont ar Ogwr.
Rhif yr Apêl. - CAS-02006-Q7B8M6 (1953)
Testun yr Apêl - Hysbysfwrdd annibynnol (48 Dalen) 6 metr x 3 metr ar Dir gyferbyn â 65 Stryd Bethania, (i'r de o Neuadd y Sgowtiaid), Maesteg.
Rhif yr Apêl. CAS-02071-B9C1R9 (1960)
Testun yr Apêl - Cael Gwared ar y To Presennol; Cylchdroi Goleddf y To; Cynyddu Goleddf y To; Dau Ddormer Newydd gyda Tho ar Oleddf yn y tu blaen a Dormer gyda Tho Gwastad yn y Cefn, 15 Ffordd Ynys Môn, Porthcawl
(3) Bod yr Arolygwr a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar yr apêl ganlynol wedi rhoi cyfarwyddyd i’w Chaniatáu ar yr Amodau:-
Rhif yr Apêl. CAS-01997-N2P6M0 (1955)
Testun yr Apêl – Adeiladu Ystafell Gardd yn yr Ardd Gefn, 16 Shelley Drive Pen-y-bont ar Ogwr
(4) Bod yr Arolygwr a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar yr apêl ganlynol wedi gwneud y penderfyniad canlynol:-
**Gwrthodwyd yr apêl i’r graddau y mae’n ymwneud â newid y dormer ar y tu blaen a darparu balconi.
**Caniatawyd yr apêl i’r graddau y mae’n ymwneud â chael gwared ar yr estyniad yn y cefn ac adeiladu estyniad un llawr yn y cefn gyda balconi
Rhif yr Apêl. CAS-02083-H6T1M9 (1963)
Testun yr Apêl - Cael Gwared ar yr Estyniad yn y Cefn; Adeiladu Estyniad Un Llawr yn y Cefn gyda Balconi drosodd; Newid y Dormer yn y Tu Blaen a Darparu Balconi, 7 Heol Gordon, Porthcawl
(5) Gwrthodwyd yr apêl ganlynol am y rheswm oedd wedi ei gynnwys yn Adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau:-
Rhif yr Apêl. CAS-02190-V5X2C2 (1972)
Testun yr Apêl – Adeiladu Estyniad ar Ben To yn 11 Rest Bay Close,
Porthcawl
Sylwer: Ers i’r apêl hon gael ei chyflwyno, mae PEDW wedi cynghori:
Gan na dderbyniwyd yr apêl uchod o fewn 12 wythnos i ddyddiad y gwrthodiad, canfuwyd bod yr apêl yn annilys ac ni all PEDW gymryd unrhyw gamau pellach ar yr apêl
Dyddiad cyhoeddi: 07/06/2023
Dyddiad y penderfyniad: 17/11/2022
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/11/2022 - Pwyllgor Datblygiad a Rheoli
Dogfennau Cefnogol: