Statws: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
PENDERFYNWYD: (1) Nodi’r apeliadau a ddaeth i law ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor fel y’u dangoswyd yn adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau.
(2) Bod yr Arolygydd, a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar yr apeliadau canlynol, wedi rhoi cyfarwyddyd i’w Gwrthod:-
a. Rhif yr Apêl – CAS-02102-T9M5R1 (1961)
Testun yr Apêl – Datblygiad preswyl gyda maes parcio, tirlunio a gwaith atodol – Tir i’r gogledd ac i’r dwyrain o Cypress Gardens, Porthcawl.
b. Rhif yr Apêl - CAS-02058-H2T2R2 (1959)
Testun yr Apêl – Newid defnydd o Ddosbarth Defnydd B1/B2 i Ddosbarth Defnydd D1 (Clinig Iechyd), Uned 1A a 2A Heol Ffaldau, Ystad Ddiwydiannol Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr
c. Rhif yr Apêl - CAS-02071-B9C1R9 (1970)
Testun yr Apêl – Tir blêr, Hen D? Pwmpio, Heol Faen, Maesteg
d. Rhif yr Apêl - CAS-02346-D9Y3L9 (1976)
Testun yr Apêl - Garej ar wahân o flaen yr eiddo, Stryd Fawr, Trelales
e. Rhif yr Apêl - CAS-02392-C5M3H6 (1980)
Testun yr Apêl – Cadw sied a ffens yn yr ardd flaen, 5 Clevis Crescent, Porthcawl.
f. Rhif yr Apêl - CAS-02421-S3S7F6 (1981)
Testun yr Apêl – Ailfodelu annedd, llawr 1af gyda dormer a tho brig a ffryntiad gwydr deulawr; addasiadau ac estyniadau i'r llawr gwaelod, 1 The Whimbrels, Porthcawl
(3) Bod yr Arolygydd, a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar yr apeliadau canlynol, wedi rhoi cyfarwyddyd iddynt gael eu Caniatáu, yn ddarostyngedig i’r Amodau oedd wedi eu cynnwys yn adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau:-
a. Rhif yr Apêl - CAS-02159-S2N0T9 (1971)
Testun yr Apêl – Estyniad i’r ystafell fwyta, 9 Dyffryn Oaks Drive, Pencoed.
b. Rhif yr Apêl - CAS-02051-R7H6K0 (1958)
Testun yr Apêl – Amrywio Amod 1 o P/21/420/FUL – Dyluniad diwygiedig rhandy Nain, 15 Rhodfa’r Gorllewin, Porthcawl.
c. Rhif yr Apêl - CAS-02130-Q2Z4J5 (1965)
Testun yr Apêl - Amrywio Amod 1 a dileu Amod 4 o
P/19/371/FUL (Addasu arfaethedig (gan gynnwys estyniadau) 2 ysgubor cerrig a thir cysylltiedig yn 2 annedd gyda gardd breifat a iard ar gyfer lleoedd parcio cysylltiedig) tir rhwng Heol y Pîl a Heol Fulmar, Notais, Porthcawl.
(4) Bod yr Arolygydd, a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar yr apêl ganlynol, wedi rhoi cyfarwyddyd iddi gael ei Chaniatáu ar sail G, yn ddarostyngedig i’r Amodau oedd wedi eu cynnwys yn adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau. Cafodd yr orfodaeth ei chadarnhau:
Rhif yr Apêl - CAS-02021-G5L2F4 (1957)
Testun yr Apêl – Adeiladu anawdurdodedig honedig, 3 Clevis Crescent, Porthcawl.
(5) Bod yr Aelodau'n gofyn am gael ystadegau yn ymwneud â pherfformiad apeliadau, fel rhan o'r wybodaeth am apeliadau yn y dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 05/09/2024
Dyddiad y penderfyniad: 23/03/2023
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 23/03/2023 - Pwyllgor Datblygiad a Rheoli
Dogfennau Cefnogol: