Decision details

Update on the Care Inspectorate Wales Inspection of Bridgend County Borough Council's Children's Residential Homes in 2022

Statws: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yr adroddiad a gwahodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant i gyflwyno canfyddiadau'r Arolygiad.

 

Aeth drwy ganlyniadau'r arolygiadau a gynhaliwyd yn:

 

·Maple Tree House ar 28 Mehefin 2022

·Sunny Bank ar 04 Awst 2022

·Harwood House ar 13 Medi 2022

·Bakers Way ar 29 Medi 2022

 

Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant fod y staff wedi ymrwymo i ddarparu gofal o’r radd flaenaf cyn i’r canfyddiadau gael eu rhannu â'r Arolygiaeth. Soniodd am yr anawsterau wrth recriwtio a chadw staff, a nododd na fyddai Maple Tree House yn weithredol eto nes i holl argymhellion yr Arolygiad gael eu gweithredu.

 

Holodd Aelod beth oedd y cynlluniau ar gyfer staffio'r gwahanol leoliadau, a chyfeirio at bryderon mai staffio a phroblemau parhaus yn gysylltiedig â staffio oedd wrth wraidd y penderfyniad i gau. Mynegodd bryder hefyd ynghylch llesiant parhaus y plant yn y lleoliadau preswyl.

 

Atebodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant fod proses recriwtio barhaus ar y gweill yn y lleoliadau, gyda phwyslais ar wneud y swyddi'n ddeniadol i ddarpar weithwyr. Dywedodd hefyd fod dull o greu cronfa o staff achlysurol o dan ystyriaeth, yn hytrach na defnyddio gwasanaethau staff asiantaeth.

 

Gofynnodd i'r Rheolwr Gr?p - Lleoliadau a Gwasanaethau Darparu ymhelaethu ar hyn.

 

Dywedodd y Rheolwr fod arwyddion cadarnhaol i'w gweld wrth recriwtio staff, gyda rheolwyr yn gweithio'n agos gyda'r tîm cyfathrebu i hyrwyddo'r gwaith recriwtio hwnnw.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd eu bod yn ymwybodol o'r anawsterau a wynebir gan blant a oedd wedi cael eu symud i leoliad tebyg a redir gan weithwyr cymdeithasol. Sicrhaodd y pwyllgor ei bod wedi cael gwybod eu bod yn ymdopi'n dda, ac y bu'r symud yn benderfyniad cadarnhaol. Dywedodd mai ffocws y gwaith recriwtio oedd ansawdd y cymorth, yn hytrach na nifer y cyflogeion.

 

Ategodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant y datganiadau uchod ac ailbwysleisio na fyddai cartref preswyl Maple Tree ond yn ailagor pe bai'r gofynion a nodwyd gan yr arolygiaeth yn cael eu bodloni'n llawn. Dywedodd y byddai cyfleuster mewn adeilad newydd ym Mrynmenyn yn agor i gynnal asesiadau a chynnig darpariaeth frys.

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant eu bod yn ystyried ymateb aml-asiantaeth ac yn gweithio tuag at sicrhau Model Therapiwtig.

 

Mynegodd yr Arweinydd ddiolch i'r staff a gofyn am sicrwydd bod y gofynion a osodwyd er mwyn gwella wedi'u gweithredu.

 

Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant fod rheolwyr uned breswyl Sunnybank wedi ymateb i'r argymhellion a wnaed gan yr Arolygiaeth, a sicrhaodd na chafwyd unrhyw arolygiadau ers hynny.

 

PENDERFYNWYD : Bod Pwyllgor y Cabinet yn nodi'r adroddiad.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 31/01/2023

Dyddiad y penderfyniad: 12/01/2023

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 12/01/2023 - Pwyllgor Y Cabinet Dros Faterion Rhieni Corfforaethol

Dogfennau Cefnogol: