Decision details

Grants Financial Management Policy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i'r Polisi Rheolaeth Ariannol Grantiau wedi ei ddiweddaru yn Atodiad A, ac i gadarnhau llofnodwyr awdurdodedig cyllid ar gyfer cymeradwyo derbyn grant ar ran y Cyngor. Esboniodd fod Polisi Rheolaeth Ariannol Grantiau cyfredol y Cyngor, oedd yn ei le, wedi cael ei gymeradwyo gan y Cabinet yn 2019.

 

Tynnodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid sylw at gymwysiadau allweddol y Polisi Rheolaeth Ariannol Grantiau, a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad. Rhoddodd grynodeb o ganfyddiadau’r adroddiad Archwilio a’r gwersi o ddatganiad perfformiad blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru, a nodwyd yn adran 11 o Atodiad 1.

 

Croesawodd Aelod y Cabinet dros Adnoddau yr adroddiad a dywedodd ei fod yn rhoi tryloywder i'r Polisi. Nodai’r adroddiad archwilio risgiau isel ond roedd y rhain wedi cael eu hadlewyrchu yn y polisi pan gafodd ei ddiweddaru. Ategodd yr Arweinydd y sylwadau hyn ac ychwanegodd ei fod yn falch o weld bod ein blaenoriaethau corfforaethol diweddaraf yn cael eu hadlewyrchu yn hyn.

 

Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd am sicrwydd bod ein prosesau’n gymesur â lefelau’r cyllid yr oedd cais yn cael ei wneud amdano, gan roi enghraifft o swm bach o arian oedd yn gofyn am lofnodi contract. Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid sicrwydd ynghylch hyn.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd bwysigrwydd hyn a rhoddodd enghraifft o arian grant a ddarparwyd gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr i sefydliad a oedd â phrosesau a gweithdrefnau priodol ar waith i sicrhau tryloywder ac atebolrwydd tra hefyd mor ddi-dor â phosibl.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r Polisi Rheolaeth Ariannol Grantiau yn Atodiad A a'r rhestr o swyddogion cyllid yn unol â pharagraff 4.3.

Dyddiad cyhoeddi: 16/05/2023

Dyddiad y penderfyniad: 09/05/2023

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/05/2023 - Cabinet

Dogfennau Cefnogol: