Decision details

Community Governance Review

Statws: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Rheolwr y Gr?p Cymorth Busnes adroddiad, a’i ddiben oedd rhoi amlinelliad i’r Cynghorau Tref a Chymuned o’r broses ar gyfer Adolygiad Llywodraethu Cymunedol llawn ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i’w gyflawni ar gyfer Etholiadau Lleol Mai 2027.

 

Fel rhywfaint o wybodaeth gefndir, dywedodd fod ffiniau wardiau a threfniadau etholiadol Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu hadolygu a’u gweithredu gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (y Comisiwn) ar gyfer Etholiadau Lleol Mai 2022.

 

Roedd adolygiad y Comisiwn hefyd yn cynnwys rhai newidiadau o bwys mewn dau Gyngor Cymuned: Cyngor Cymuned Bracla a Chyngor Tref Porthcawl; a gweithredwyd y rhain hefyd ar gyfer Etholiadau Lleol Mai 2022.

 

Ychwanegodd Rheolwr y Gr?p Cymorth Busnes, fod y Cyngor hefyd wedi cynnal adolygiad o drefniadau etholiadol Cyngor Cymuned Coety Uchaf yn dilyn cais ffurfiol gan y Cyngor Cymuned, oedd hefyd wedi cael ei weithredu mewn pryd ar gyfer Etholiadau Lleol Mai 2022.

 

Cwblhawyd yr Adolygiad Llywodraethu Cymunedol llawn diwethaf yn 2009 a byddai fel arfer yn dilyn cylch 10 mlynedd. Arweiniodd yr oedi cyn cwblhau Adolygiad Etholiadol Pen-y-bont ar Ogwr a’r pandemig at ddiffyg digon o amser i gynnal adolygiad llawn mewn pryd ar gyfer yr Etholiadau Lleol ym mis Mai 2022.

 

Eglurodd mai'r Cylch Gorchwyl (ToR) yw'r enw ar y ddogfen allweddol sy'n cychwyn yr Adolygiad Llywodraethu Cymunedol. Mae'r Cylch Gorchwyl yn nodi'r amserlen a'r gweithdrefnau arfaethedig ar gyfer yr adolygiad, yn rhoi arweiniad, ac yn nodi'r materion fydd yn cael eu hystyried yn ystod yr adolygiad. Mae hefyd yn caniatáu i'r Cyngor sicrhau ei fod yn dilyn gweithdrefn benodol, yn ystyried yr ystyriaethau priodol ar gyfer yr adolygiad, ac yn galluogi partïon â diddordeb i ddeall sut i gymryd rhan yn effeithiol yn yr adolygiad. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth i'r Comisiwn p’un a yw'r Cyngor wedi cynnal yr adolygiad yn briodol neu beidio o dan delerau'r Ddeddf. Cafwyd esboniad pellach o'r Cylch Gorchwyl ym mharagraff 4.2 yr adroddiad.

 

O ran y trefniadau etholiadol, rhydd yr adolygiad y cyfle i ystyried i ba raddau y cyflawnir “cydraddoldeb etholiadol” ar draws cymunedau Pen-y-bont ar Ogwr, ac ar draws unrhyw wardiau sy’n bodoli o fewn cymuned. Adwaenir hwn fel polisi maint cyngor, a bydd yn ystyried:

 

  • Dyraniad bras y cynghorwyr fesul etholaeth;
  • Darparu isafswm ac uchafswm cyffredinol nifer y cynghorwyr cymuned ar gyfer cyngor cymuned. Yn hanesyddol, lleiafswm nifer y cynghorwyr ar gyfer cyngor cymuned oedd 7. Mae’r cyngor cymuned mwyaf yng Nghymru ar hyn o bryd yn 24. Gall y maint mwyaf fod yn ddibynnol ar y ffactorau a ganlyn:

 

   Maint y cynghorau cymuned presennol;

   Graddfa gweithgaredd y cynghorau cymuned;

   Daearyddiaeth ardal y Cyngor; a

   Dwysedd poblogaeth ardal y Cyngor;

 

Cadarnhaodd Rheolwr y Gr?p Cymorth Busnes pe bai uno dwy neu fwy o gymunedau’n cael ei argymell, yna byddai'r cynghorau cymuned presennol yn cael eu diddymu a châi ardal gymunedol newydd ar wahân ei sefydlu. Dan yr amgylchiadau hyn mae'n arferol i'r gymuned gael ei rhannu'n wardiau i adlewyrchu ffiniau'r cymunedau blaenorol a gafodd eu huno.

 

Fe gymer y broses 12 mis o leiaf i'w chwblhau o gyhoeddi'r Cylch Gorchwyl, unwaith y bydd wedi cael ei gymeradwyo'n ffurfiol gan y Cyngor. Y dyddiad amcangyfrifedig ar gyfer dechrau’r broses ymgynghori yw 1 Mehefin 2023 ac mae’n caniatáu 12 wythnos o leiaf o ymgynghori yn ystod y cam ymchwilio cychwynnol a cham yr adroddiad drafft.

 

Daeth Rheolwr y Gr?p Cymorth Busnes â’i gyflwyniad i ben drwy ddweud mai’r cam rhagarweiniol fydd cyhoeddi’r Cylch Gorchwyl ac yna gwahodd cyflwyniadau cychwynnol i’r Cyngor eu hystyried wrth ddrafftio argymhellion ar gyfer unrhyw newidiadau i ffiniau a gweinyddiaeth etholiadol. Câi'r argymhellion drafft wedyn eu cyhoeddi, gydag ymarferiad ymgynghori pellach yn cael ei gynnal yn gwahodd rhagor o gyflwyniadau. Ar ôl ystyried unrhyw gyflwyniadau pellach, bydd y Cyngor yn cyhoeddi'r argymhellion terfynol ac yn cwblhau'r adolygiad. Y cam olaf fydd gwneud y Gorchymyn i weithredu unrhyw newidiadau i ffiniau a threfniadau etholiadol a ddaw i rym ar gyfer Etholiadau Lleol Mai 2027.

 

Teimlai Aelod y dylid ymdrechu i geisio cael aelodau’r cyhoedd i ddangos diddordeb mewn bod yn Gynghorydd Tref/Cymuned oherwydd bod, hyd yn oed yn dilyn etholiadau’r llynedd, nifer o seddi gweigion o hyd ar Gynghorau Tref/Cymuned y Fwrdeistref Sirol.

 

Teimlai Aelod y dylid cynnal unrhyw adolygiad o fewn yr amserlenni perthnasol a amlinellwyd yn yr adroddiad ac y dylai'r adolygiad gael ei arwain yn ddigonol o safbwynt gweinyddol, gan staff yr awdurdod lleol.

 

Cadarnhaodd Rheolwr y Gr?p Cymorth Busnes, y byddai’r broses a’i chynigion yn cael eu harchwilio’n fanylach ac yn fwy dwys maes o law wrth i faterion ddatblygu, gyda sefydliadau allweddol fel, er enghraifft, Comisiwn y Ffiniau ac Un Llais Cymru. Ychwanegodd y gellid ymgynghori hefyd ag awdurdodau lleol eraill sydd wedi bod yn rhan o'r broses hon o’r blaen.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan Aelod, cadarnhaodd y byddai'r Cylch Gorchwyl yn cynnwys edrych ar faint y gwahanol etholaethau a wardiau unwaith yn rhagor, fel rhan o unrhyw adolygiad.

 

Teimlai’r Arweinydd y dylid cyflwyno adroddiad cynnydd i’r Fforwm mewn cyfarfod yn y dyfodol a’i bod yn bwysig bod Clercod holl Gynghorau Tref/Cymuned BCB yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y mater hwn ac yn ymwybodol o’r canlyniadau posibl fydd yn deillio ohono.

 

PENDERFYNWYD:                                    Nodi’r adroddiad.    

Dyddiad cyhoeddi: 23/05/2023

Dyddiad y penderfyniad: 21/11/2022

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/11/2022 - Fforwm Cyngor Tref a Chymuned

Dogfennau Cefnogol: