Decision details

Member Induction and Development Programmes

Statws: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd (DSM) yr adroddiad i'r pwyllgor.

Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi gofyn am adborth gan ei gr?p yngl?n â'r cyfnod sefydlu, a rhannodd fod yr Aelodau wedi dweud wrtho eu bod wedi gweld profiad y farchnad yn ddefnyddiol iddynt.

Codwyd mater presenoldeb cyfnewidiol aelodau yn y sesiynau datblygu ac awgrymodd y cadeirydd y dylid ailedrych ar yr amserau y cynhelir hyfforddiant arnynt a chynigiodd gynnal arolwg. Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd fod arolwg ar Ddatblygiad Aelodau wedi cael ei amserlennu eisoes.

Rhoddodd aelod o'r pwyllgor adborth am ddigwyddiad y Farchnad a gwnaeth awgrymiadau ar gyfer gwella digwyddiadau a hyfforddiant o'r fath yn y dyfodol.

Cafwyd trafodaeth rhwng Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd ac aelodau eraill ynghylch y modd y cynhelir hyfforddiant, gydag awgrymiadau ar gyfer gwella.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, gyda golwg ar y sylwadau a wnaed gan Aelodau ynghylch y rhaglen waith i'r dyfodol, y bu sôn y câi Aelodau adroddiad ar Borth y Cynghorwyr. Roeddent yn ceisio cael y data ond nid oedd ar gael ar hyn o bryd. Roedd tîm y porth drwy'r tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid a TGCh yn cael trafferth i ddarparu'r data.

 

Sicrhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yr Aelodau eu bod yn dilyn y mater a bod Pennaeth y Gwasanaethau Partneriaeth wedi ei sicrhau y byddent yn ceisio gwneud yn si?r bod yr adroddiad ar gael mewn pryd ar gyfer y cyfarfod nesaf ym mis Chwefror 2023.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y cafwyd cynnig yn un o'r cyfarfodydd, yr oedd rhai Aelodau efallai wedi ei fynychu, i gael gweithgor o aelodau i edrych ar y porth a rhoi prawf ar y gwahanol gamau, gan ei fod yn dal i gael ei ddatblygu a bod angen monitro. Soniodd ei bod wedi awgrymu i Bennaeth y Gwasanaethau Partneriaeth a'r Rheolwr Gr?p – Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y gallai'r gweithgor gael ei gynrychioli gan aelodau Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd.

Yna cafwyd trafodaeth rhwng yr aelodau yngl?n â'r ffordd orau i symud y cynnig hwn yn ei flaen.

 

PENDERFYNWYD : Bod y pwyllgor yn nodi’r adroddiad a’r atodiadau.

 

Cytunodd y pwyllgor i nodi pynciau ychwanegol ar gyfer Datblygu Aelodau i'w cynnwys a'u blaenoriaethu yn y cynllun datblygu cyffredinol.

 

Gofynnodd y Pwyllgor y canlynol:

       Bod arolwg yr Aelodau yn gofyn am farn ynghylch amseriad y sesiynau Datblygu Aelodau hyn yn ogystal â phriodoldeb yr hyfforddiant hyd yma, hygyrchedd ac unrhyw fylchau posibl;

       Byddai cael digwyddiad y Farchnad yn gynt yn ddefnyddiol yn dilyn etholiadau yn y dyfodol;

       Ystyried technegau a dulliau amrywiol o hyfforddi i annog yr Aelodau i gymryd rhan;

       Ystyried Cadeiryddion ar gyfer yr holl hyfforddiant i sicrhau strwythur i'r sesiwn a chadw'r Aelodau ar y trywydd iawn;

       Bod Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yn edrych i weld a oes modd monitro pan fydd cofnodion sesiynau hyfforddi wedi cael eu gwylio ar gyfer y rheiny nad ydynt efallai'n gallu mynychu'r sesiwn ei hun.

 

Dyddiad cyhoeddi: 31/05/2023

Dyddiad y penderfyniad: 20/10/2022

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/10/2022 - Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

Dogfennau Cefnogol: