Issue - meetings

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-19 tan 2021-22

Cyfarfod: 13/02/2018 - Cabinet (Eitem 156)

156 Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-19 i 2021-22 pdf eicon PDF 85 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-19 i 2021-22, a oedd yn cynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2018-22, cyllideb refeniw fanwl ar gyfer 2018-19 a Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2017-18 i 2027-28.  Dywedodd fod y Strategaeth hefyd yn cynnwys y gofyniad Treth Gyngor arfaethedig   ar gyfer y Cyngor Bwrdeistref Sirol, i'w gymeradwyo gan y Cyngor, a fyddai'n cael ei gyflwyno ynghyd â gofynion Comisiynydd Heddlu a Throseddau De Cymru a’r Cynghorau Tref/Cymuned. 

 

Dywedodd fod y Cynllun Corfforaethol yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor i'w gymeradwyo ochr yn ochr â Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-22. Roedd y ddwy ddogfen yn cyd-fynd â'i gilydd, gan ei gwneud yn bosibl i greu cysylltiadau pendant rhwng blaenoriaethau'r Cyngor a'r adnoddau a gyfeirir i'w cefnogi.  Rhoddodd y Prif Weithredwr Drosolwg Ariannol Corfforaethol a dywedodd er mai’r nod yw  bod â’r gyllideb refeniw net ar £265.984m ar gyfer 2018-19, fod y gwariant cyffredinol yn llawer uwch na hyn.  Gan gymryd i ystyriaeth wariant a gwasanaethau a ariennir trwy gyllid grantiau neu ffioedd a thaliadau penodol, byddai cyllideb gros y Cyngor oddeutu £400m yn 2018-19.  Dywedodd fod tua £170m o'r gwariant hwn yn cael ei wario ar staff y Cyngor, gan gynnwys athrawon a staff cefnogi ysgolion.  Roedd llawer o gost y gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau allanol hefyd yn gysylltiedig â chyflogau, a oedd yn cynnwys gweithredwyr casglu gwastraff, gweithwyr gofal cartref a gofalwyr maeth.  Hysbysodd y Cabinet hefyd fod y Cyngor yn wynebu derbyn llai o incwm i ariannu gwasanaethau, yn ogystal â newidiadau deddfwriaethol a demograffig.  Dywedodd fod y Cyngor wedi mabwysiadu cynllun corfforaethol sy'n nodi'r dulliau y bydd yn eu cymryd i reoli'r pwysau hwn wrth barhau i sicrhau y gellir darparu gwasanaethau, cyn belled ag y bo modd, sy'n bodloni anghenion y gymuned.    

 

Hysbysodd y Prif Weithredwr y Cabinet fod y Cyngor wedi derbyn cynnydd o 0.1% mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru a oedd yn cyfateb i £115k. Roedd hyn yn cael ei wrthbwyso gan gyfrifoldebau newydd sy'n wynebu'r Cyngor o ganlyniad i'r cynnydd i'r terfyn cyfalaf ar gyfer gofal preswyl o £30,000 i £40,000 a fyddai'n costio £300,000 i’r Cyngor a chyfrifoldebau atal digartrefedd yn costio £236,000.  Roedd y sefyllfa wirioneddol yn debygol o fod yn ostyngiad o 0.25% sy'n cyfateb i £500,000, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.  Roedd Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £42m i ymdrin â phwysau ar y gwasanaethau cymdeithasol a £62 miliwn ar gyfer cyllid ysgolion yn ei setliad i lywodraeth leol ledled Cymru ond nid oedd yr arian hwn wedi'i neilltuo.    

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor yn bwriadu gwario £108m ar wasanaethau a ddarperir gan y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd. Yn 2017-18, roedd y Cyngor wedi cyflwyno arbediad effeithlonrwydd blynyddol o 1% ar gyfer ysgolion am bob blwyddyn o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Ond ar gyfer 2018-19, nid yw lefel y gostyngiadau cyllideb sy'n ofynnol mor fawr ag a ragwelwyd.  Felly, bu'n bosib amddiffyn ysgolion rhag yr arbediad o 1% am flwyddyn, ond ni fyddai modd osgoi hwn ar gyfer 2019-20  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 156