Issue - meetings

Hysbysiad o Gynnig a gynigiwyd gan y Cynghorydd

Cyfarfod: 16/05/2018 - Cyngor (Eitem 182)

Derbyn Adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Yn gyntaf, estynnodd yr Arweinydd ddiolch arbennig iawn i'r Maer, y Cynghorydd Pam Davies am gynrychioli'r awdurdod o fewn ein Bwrdeistref Sirol a chynrychioli Pen-y-bont ar Ogwr ar draws Cymru mor dda, gyda hyder a rhwyddineb, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hon. Estynnodd ei longyfarchiadau hefyd i'r Maer newydd, y Cynghorydd John McCarthy a'i gymar, a hefyd i Ddirprwy Faer newydd CBSP, sef y Cynghorydd Stuart Baldwin.

 

Manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i staff CBSC, gan mai dim ond oherwydd eu gwaith caled a'u gwasanaeth yr oedd y Cyngor yn parhau i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol a wnâi, ac ymddengys bob blwyddyn y gofynnir mwy oddi wrth y staff, er bod llai a llai ohonynt. Roedd un swyddog yn arbennig y dymunai ddiolch iddo heddiw, sef Andrew Jolley a oedd yn ei gyfarfod olaf fel Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a  Phartneriaeth a Swyddog Monitro. Fel enghraifft o sut yr ydym yn parhau i ofyn mwy gan swyddogion, rhoddwyd cyfrifoldeb iddo ef dros Dai, TGCh, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Cwsmer. Roedd bob amser wedi ystyried bod Mr Jolley yn gadarn ond yn deg, ac roedd wedi bod yn ffyddlon iawn i'w staff, ac wedi credu yn yr athroniaeth o "dyfu eich pobl eich hun” ac wedi gwireddu hynny. Cyfrifoldeb allweddol y Swyddog Monitro yw hyrwyddo a chynnal llywodraeth dryloyw ac agored a safonau uchel o uniondeb, ac mae adroddiadau olynol gan Swyddfa Archwilio Cymru wedi dangos bod y safonau hynny ar waith o fewn CBSP. Diolchodd iddo am ei wasanaeth, a gobeithiai y byddai'n mwynhau ei ymddeoliad, gyda'i wyrion, ac yn trwsio hen geir.

 

Diolchodd Mr. Jolley i'r Arweinydd a'r holl Aelodau am y gefnogaeth a gafodd ers iddo fod yn gweithio i CBSP. Yn yr un modd diolchodd i'r Swyddogion am eu cefnogaeth hefyd. Roedd hyn, ychwanegodd, wedi gwneud ei swydd yn haws i'w chyflawni. Cadarnhaodd i ddiweddu ei fod wedi mwynhau ei amser yn fawr yn yr Awdurdod ers iddo ddechrau gweithio yma ryw 14 o flynyddoedd yn ôl.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd ei bod yn anrhydedd ac yn fraint iddo gael ei ailethol unwaith eto gan gyd-Aelodau fel Arweinydd, a diolchodd iddynt am eu cefnogaeth barhaus.

 

Ychwanegodd na allai wasanaethu fel Arweinydd heb gefnogaeth ei gydweithwyr yn y Cabinet.

 

Roedd yn hyderus y byddai'r tîm hwn yn parhau â'r gwaith da sydd eisoes wedi digwydd, ac fel bob amser, roedd yn ddiolchgar am eu hymrwymiad tuag at eu gwaith.

 

Nid oedd gwasanaethu mewn unrhyw rôl fel Aelod etholedig yn waith hawdd, ac fel y gwyddom oll, mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod ymhlith y rhai anoddaf, os nad y rhai mwyaf anodd y mae'r Cyngor erioed wedi gorfod eu hwynebu.

 

Ond beth bynnag fo'r heriau sydd wedi codi, mae'r Awdurdod wedi wynebu pob un ohonynt, ac yn parhau i wneud hynny gyda phenderfyniad a phwrpas unedig ar draws y Siambr, i gefnogi ein cymunedau lleol hyd eithaf ein gallu.

 

Mae llymder cenedlaethol diddiwedd yn parhau, ac fel Cyngor, rydym yn parhau i ymdrechu i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn erbyn cefndir  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 182