Penodi'r Dirprwy Faer i'w arwisgo yn y Seremoni Ddinesig Agoriadol ar 23 Mai 2018 a'r Dirprwy Faer (a etholwyd) i gyhoeddi enw ei Gymar/Hebryngwr
Cofnodion:
Gwnaed cynnig a eiliwyd yn briodol, y dylid penodi'r Cynghorydd E. E. Baldwin yn Ddirprwy Faer ar gyfer 2018/19.
Cynigiodd Aelod y dylid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar benodi'r Dirprwy Faer, ac eiliwyd hyn yn briodol.
Felly, cynhaliwyd pleidlais electronig er mwyn sefydlu a ddylid cymryd pleidlais wedi'i chofnodi ynghylch y penodiad hwn, ac roedd y canlyniad fel a ganlyn: -
Dros Yn erbyn Ymatal
50 1 0
Gan fod hyn wedi cael ei gytuno, cymerwyd pleidlais wedi’i chofnodi am benodi'r Cynghorydd Baldwin fel Dirprwy Faer am y cyfnod uchod, ac roedd y canlyniad fel a ganlyn: -
PENDERFYNWYD: Ethol y Cynghorydd S. E. Baldwin yn Ddirprwy Faer ar gyfer y flwyddyn 2018/19.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Baldwin, o ganlyniad i lefel ymrwymiadau gwaith ei bartner, na fyddai'n cael Cymar am y flwyddyn i ddod.