Issue - meetings

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer oedd newydd ei ethol

Cyfarfod: 16/05/2018 - Cyngor (Eitem 178)

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer oedd newydd ei ethol

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cynghorydd McCarthy ei fod yn teimlo ei bod yn anrhydedd mawr iddo gael ei ethol yn Faer a gwasanaethu Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn swydd mor uchel ei pharch. Ychwanegodd fod ei dymor fel Dirprwy Faer wedi bod yn brysur iawn ond yn werth chweil, ac yn ystod y cyfnod hwn roedd wedi mynychu nifer sylweddol o ddigwyddiadau fel arweinydd allweddol dros yr Awdurdod. Ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen at gyfnod yr un mor brysur yn ystod y flwyddyn i ddod.