185 Rhaglen arfaethedig o Gyfarfodydd Cyffredin y Cyngor a Phwyllgorau'r Cyngor PDF 65 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i gynnig rhaglen o gyfarfodydd cyffredin y Cyngor a Phwyllgorau'r Cyngor ar gyfer y flwyddyn drefol Mai 2018 - Ebrill 2019 i'w chymeradwyo (Atodiad 1 i'r adroddiad), ac i nodi'r rhaglen o gyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn drefol Mai 2019 - Ebrill 2020 (Atodiad 2 i'r adroddiad).
Roedd y rhain yn cynnwys cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet, Pwyllgorau’r Cabinet a Chyd-bwyllgor y Cabinet (Amlosgfa Llangrallwg).
Cyhoeddodd y Swyddog Monitro fod un newid i'r rhaglen o gyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn 2018-2019 uchod, sef bod cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg ar Bynciau a Chraffu 1 dyddiedig 4 Gorffennaf 2018 i gael ei ddileu o'r amserlen, a bod dyddiad newydd yn mynd i gael ei drefnu ar gyfer y cyfarfod hwn, maes o law.
PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor yn: -
(1) Cymeradwyo’r rhaglen arfaethedig o gyfarfodydd y Cyngor ar gyfer 2018/19 fel y nodir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad, yn amodol ar y newid uchod.
(2) Cymeradwyo’r rhaglen arfaethedig o gyfarfodydd Pwyllgorau'r Cyngor a nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad hwn.
(3) Nodi rhaglen dros dro cyfarfodydd y Cyngor a'r Pwyllgorau ar gyfer 2019/20, a nodir yn Atodiad 2 yr adroddiad hwn.
(4) Nodi dyddiadau Cabinet, Pwyllgorau'r Cabinet a Chyd-bwyllgor y Cabinet sydd hefyd wedi'u nodi yn Atodiadau 1 a 2 i'r adroddiad hwn, er gwybodaeth.