Issue - meetings

Capital Programme 2018-19 to 2027-28

Cyfarfod: 18/12/2018 - Cabinet (Eitem 284)

284 Rhaglen Cyfalaf 2018-19 i 2027-28 pdf eicon PDF 242 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth Pennaeth Dros Dro Cyllid geisio cytundeb i gyflwyno adroddiad i'r Cyngor i gymeradwyo rhaglen cyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2018-19 i 2027-28. 

 

Adroddodd Pennaeth Dros Dro Cyllid fod nifer o gynlluniau wedi symud ymlaen ers cymeradwyo'r rhaglen cyfalaf sy'n gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor.  Hysbysodd y Cabinet mewn perthynas â Rhaglen Band A Ysgolion y 21ain Ganrif, er gwaethaf gwaith ymchwilio ar y safle yn cael ei gyflawni cyn gosod contract adeiladu Ysgol Gynradd Pencoed, bod angen gweithgareddau torri a llenwi sylweddol ar y safle nad oeddent wedi'u rhagweld yn wreiddiol, gan arwain at gynnydd o £200,000 yng nghostau'r prosiect.  Cynigiwyd i ddiwallu'r gost ychwanegol hon o dan-wario arfaethedig mewn cynlluniau Band A eraill.  Hysbysodd Pennaeth Dros Dro Cylidd y Cabinet fod cyllideb o £165,000 wedi'i gynnwys yn y rhaglen cyfalaf ar gyfer darparu llety ychwanegol yn Ysgol Gynradd Cwmfelin.  Fodd bynnag, yn dilyn datblygiad dylunio, tybiwyd fod amcangyfrif gwreiddiol y prosiect yn annigonol, ac er gwaethaf cynnal ymarfer peirianneg gwerth, derbyniwyd cost prosiect diwygiedig o £235,000, oedd yn arwain at gyllid ychwanegol o £70,000 yn fwy na'r gyllideb a gymeradwywyd, ac awgrymwyd y dylid cael hwn o gyllideb cadw moderneiddio ysgolion.

 

Adroddodd Pennaeth Dros Dro Cyllid fod buddsoddiad cyfalaf o £205,000 wedi'i gymeradwyo ar gyfer sefydlu MASH.  Fodd bynnag mae'r MASH wedi'i symud yn lle i Raven's Courth, gan arwain at gostau sylweddol is nag a ragwelwyd, a fyddai'n rhyddgau £45,116 o arian ar gyfer cynlluniau eraill.  Adroddodd hefyd fod cyllid cyfalaf o £1.217m ar gyfer buddsoddiad TGCh wedi'i gymeradwyo i gyflawni gwaith ystwyth, a oedd yn amodol ar sicrhau tenant ar gyfer Raven's Court.  Yn dilyn penderfyniadau ar ble i osod y MASH, ni fyddai marchnata gweithredol ar gyfer Raven's Court yn cael ei gyflawni bellach ac o ganlyniad nid oedd angen y buddsoddiad a nodwyd yn wreiddiol, oedd yn gadael balans o £1.201m i'w ddad-ymrwymo a'i ddefnyddio ar gyfer cynlluniau eraill.

 

Fe wnaeth Pennaeth Dros Dro Cyllid hefyd adrodd am £360,000 o gyllid tuag at estyniadau mynwentydd ym Mhorthcawl a Gogledd Corneli, fodd bynnag oherwydd ymchwilio pellach a gwaith dichonoldeb roedd angen £170,000 ychwanegol i'w ariannu drwy fenthyca darbodus.  Adroddodd hefyd bod angen cyllideb cyfalaf o £1.64m ar gyfer prynu cerbydau cynnal a chadw priffyrdd newydd i'w ariannu o gyllidebau refeniw cleientiaid presennol, drwy gyfraniadau i gyfalaf neu fenthyca darbodus.  Gwnaeth Pennaeth Dros Dro Cyllid sylw ar yr angen yn dilyn adolygiad o'r ystâd TGCh am gynnydd o £226.375 i'w ariannu o gyfraniad refeniw o gyllideb y rhaglen dreigl TGCh gyfredol.

 

Dywedodd Pennaeth Dros Dro Cyllid fod yr ymarfer caffael ar gyfer prosiect Ffocws Buddsoddiad Arhosfan Portchawl wedi'i gwblhau a'i fod wedi cynyddu i £2,924,000; roedd angen diwygio'r gofyniad cyfatebol i £1,358,060.  Roedd yr arian cyfatebol yn cynnwys ffynonellau allanol a chronfeydd Cyngor amrywiol.  Nododd pe byddai cyfleoedd yn codi i fanteisio ar arian allanol pellach, naill ai drwy ERDF neu ffynonellau eraill yna y byddai'r rhain yn cael eu targed mewn ymdrech i leihau'r gofyn ymhellach am adnoddau'r Cyngor. 

 

Adroddodd Pennaeth Dros Dro Cyllid hefyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 284