283 Canlyniad Ymgynghoriad 'Llywio Dyfodol Pen-y-Bont' PDF 73 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Fe wnaeth y Pennaeth Dros Dro Cyllid a Swyddog Adran 151 gyflwyno adroddiad oedd yn hysbysu'r Cabinet am Ganlyniad ymgynghoriad 'Llywio Dyfodol Pen-y-Bont' 2018 a ofynnodd i ddinasyddion rannu eu barn ar nifer o gynigion cyllideb allweddol sy'n cael eu hystyried dros gyfnod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS). Nododd, yn dilyn gostyngiadau pellach mewn cyllid gan y llywodraeth ganolog, bod yr holl Gynghorau yn parhau i newid y ffordd maen nhw'n gweithio a'r gwasanaethau maen nhw'n eu darparu er mwyn iddynt allu ymdopi gyda llai. Mae'r Cyngor wedi gwneud gostyngiadau o'i gyllideb o £30.7 miliwn dros y pedair blynedd ddiwethaf, gyda disgwyl gofyn am ostyngiadau pellach sylweddol.
Esboniodd y gofynnwyd i ymatebwyr rannu eu barn ar amrywiaeth o gynigion cyllideb, sy'n cael eu hystyried rhwng 2019-2020 a 2022-23, gan gynnwys: cynnydd arfaethedig i dreth cyngor; pa wasanaethau i'w hamddiffyn a / neu eu torri dros eraill; trafnidiaeth ôl 16, addysg feithrin, cyllidebau ysgol, gwasanaethau hamdden a diwylliannol, ailgylchu a gwastraff, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau bws. Y ffordd mae'r ymgynghoriad ar y cynigion cyllideb wedi cael ei ddatblygu i gynnwys ffyrdd newydd i bobl gymryd rhan ac ymgysylltu gyda'r Cyngor, gan gynnwys arolygon, cyfryngau cymdeithasol a sesiynau galw heibio gyda phadiau clicio. Hefyd, casglwyd barn pobl ifanc, gyda disgyblion o'r naw ysgol gyfun yn cymryd rhan mewn sesiynau padiau clicio ac arolygon papur. Cynhaliwyd sesiynau rhyngweithio mewn 15 ysgol gynradd hefyd. Nododd bod trosolwg, dogfennau ac arolygon yr ymgynghoriad cyllideb ar gael ar-lein drwy wefan y Cyngor rhwng 24 Medi ac 18 Tachwedd 2018. Nod yr ymgynghoriad oedd cyrraedd rhanddeiliaid allweddol oedd yn cynnwys dinasyddion, ysgolion, Aelodau'r Cabinet/Cynghorwyr, busnesau lleol, y trydydd sector, staff y cyngor, cynghorau tref a chymuned, sefydliadau partner, grwpiau cydraddoldeb a grwpiau cymunedol, gwasanaethau ieuenctid a'r cyfryngau lleol. Ategwyd yr ymgynghoriad gan gynllun cyfathrebu a hyrwyddo llawn. Yn ychwanegol at hyn, roedd dulliau ymgysylltu yn cynnwys arolwg, ar gael ar-lein ac mewn fformat copi caled; digwyddiadau ymgysylltu cymunedol, gweithdai aelodau etholedig; digwyddiadau rhyngweithio / cyfarfodydd eraill; dadleuon ar y cyfryngau cymdeithasol ac arolwg Panel Dinasyddion pwrpasol.
Fe wnaeth Pennaeth Dros Dro Cyllid a Swyddog Adran 151 hysbysu'r Cabinet eu bod wedi derbyn 5,228 o ymatebion oedd yn cynrychioli cynnydd sylweddol ar y flwyddyn flaenorol. Nododd bod 48% o'r ymatebwyr wedi nodi nad oeddent yn barod i dalu mwy o dreth cyngor er mwyn amddiffyn gwasanaethau (na'r cynnydd arfaethedig o 4.9%). Y gwasanaethau mwyaf poblogaidd i'w hamddiffyn oedd ysgolion, gofal pobl h?n, gwasanaethau ar gyfer pobl anabl a gwasanaethau hamdden. Nododd fod 53% o ymatebwyr yn anghytuno gyda'r cynnig i ofyn i ysgolion wneud arbedion cyllid o 1% y flwyddyn am y pedair blynedd nesaf. Fe wnaeth 66% o ymatebwyr anghytuno gyda'r cynnig i wneud arbedion drwy leihau canolfannau dydd neu wasanaethau. O ran cynyddu refeniw, nododd 79% o ymatebwyr y dylai deiliaid Bathodyn Glas dalu am barcio, nododd 48% y dylai deiliaid Bathodyn Glas dalu'r un faint â phobl nad ydynt yn ddeiliaid Bathodyn Glas. Nododd 31% pellach y dylai deiliaid Bathodyn Glas dalu cyfradd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 283