281 Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019-20 i 2022-23 PDF 106 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd y Prif Weithredwr Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019-20 i 2022-23, a oedd yn cynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2019-23, cyllideb refeniw fanwl ar gyfer 2019-20 a Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2018-19 i 2028-29.
Adroddodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro fod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig wedi cael ei harwain yn sylweddol gan flaenoriaethau’r Cyngor, ac er y bu gostyngiadau o flwyddyn i flwyddyn, bod Cyllid Allanol Cyfanredol (AEF) wedi golygu bod angen cwtogi’r gyllideb yn sylweddol iawn ar draws meysydd gwasanaeth. Mae’r Cyngor yn parhau i gyflawni swyddogaeth arwyddocaol iawn yn yr economi leol; mae’n gyfrifol am wariant gros blynyddol o oddeutu £400 miliwn, ac ef yw’r cyflogwr mwyaf yn y Fwrdeistref Sirol. Dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro wrth y Cyngor fod y Cynllun Corfforaethol yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor i’w gymeradwyo ochr yn ochr â Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019-23. Mae’r ddwy ddogfen yn cyd-fynd â’i gilydd, sy’n golygu bod modd gwneud cysylltiadau penodol rhwng blaenoriaethau’r Cyngor a’r adnoddau a fwriadwyd i’w cefnogi.
Dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro fod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn amlinellu’r egwyddorion a’r tybiaethau manwl sy’n sbarduno cyllideb a phenderfyniadau gwario’r Cyngor, a’r cyd-destun ariannol y mae’r Cyngor yn gweithredu ynddo, ac yn lliniaru unrhyw risgiau a phwysau ariannol wrth symud ymlaen, ar yr un pryd â manteisio ar unrhyw gyfleoedd a allai godi.
Rhoddodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro Drosolwg Ariannol Corfforaethol i’r Cabinet a dywedodd y bydd cyllideb gros y Cyngor oddeutu £420 miliwn ac mai’r gyllideb refeniw net a gynlluniwyd ar gyfer 2019-20 yw £270.809 miliwn. Amlinellodd y Cyd-destun Ariannol Strategol a dywedodd wrth y Cyngor fod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig wedi’i gosod yng nghyd-destun cynlluniau gwariant economaidd a chyhoeddus y DU, a blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Yn dilyn cyhoeddi’r setliad llywodraeth leol dros dro ym mis Hydref 2018, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £550 miliwn ychwanegol yn ystod y tair blynedd nesaf, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu penderfynu sut i wario’r dyraniad hwn. Cadarnhaodd Prif Weinidog Cymru ar y pryd becyn o gynigion cyllido ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol, a fyddai’n cael eu cynnwys yn y gyllideb derfynol. Derbyniodd y Cyngor ei setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2018, a oedd yn golygu gostyngiad 0.1% mewn Cyllid Allanol Cyfanredol, neu £258,000, i’r Cyngor hwn. Gwrthbwyswyd hyn gan gyfrifoldebau newydd, ac amcangyfrifwyd mai’r gwir effaith i’r Cyngor fyddai gostyngiad o £1.182 miliwn neu -0.61% o gymharu â 2018-19, ac mai’r gwir sefyllfa i’r Cyngor hwn fyddai gostyngiad o -1.07% neu £2.07 miliwn.
Adroddodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro fod Cyllideb Refeniw derfynol 2019-20 yn cynnwys cynnydd 5.4% yn y Dreth Gyngor yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a adroddwyd i’r Cabinet ym mis Tachwedd 2018, yr ystyriwyd ei fod yn angenrheidiol i ariannu’r pwysau sylweddol sy’n wynebu’r Cyngor, yn enwedig pwysau sylweddol o ran cyflogau, prisiau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 281