307 Asesiad y Farchnad Dai Leol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr 2019/2020 PDF 2 MB
Cofnodion:
Adroddodd Rheolwr Gr?p Datblygu ar bwrpas, statws a chasgliadau Asesiad y Farchnad Dai Leol (AFDL) a ddiweddarodd yr AFDL ddiwethaf a gynhaliwyd yn 2012.
Nododd bod gofyniad ar Awdurdodau Lleol i ystyried anghenion tai eu hardaloedd lleol o dan Adran 8, Deddf Tai 1985. Er mwyn cyflawni’r gofyniad hwn, mae’n rhaid i Awdurdodau Lleol Cymru fformiwleiddio AFDL, sy’n adolygu anghenion tai trwy adolygiad cyfannol o’r holl farchnad dai. Pwysleisiwyd pwysigrwydd AFDL yn Adolygiad Annibynnol Cyflenwad Tai Fforddiadwy 2019 a nododd bod “sail polisi tai da a phenderfyniadau ynghylch cyflenwad tai fforddiadwy’n deillio o’r data gorau posib ar yr angen a’r galw am dai”.
Adroddodd bod AFDL wedi’i adnewyddu a’i gwblhau yn 2019 yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru, a thrwy hynny’n bodloni rhwymedigaethau statudol y Cyngor. Hysbysodd y Pwyllgor bod AFDL yn nodi wyth Ardal Marchnad Dai gyffredinol ledled y Cyngor Bwrdeisdref, yn seiliedig ar ddaearyddiaeth weithredol, ystyried y sffêr adleoli posib, cost tai (i fesur y ‘natur drosglwyddadwy’ oddi mewn i’r farchnad) a dylanwad prif gysylltiadau trafnidiaeth (i ystyried patrymau cymudo). Yr ardaloedd ydy:
Fe ddywedodd, er bod lefel yr angen am dai yn ymddangos fel petai wedi ‘lleihau’ yn ddramatig rhwng yr Asesiadau Marchnadoedd Tai Lleol (AFDL) a bod hyn yn adlewyrchiad o nifer sylweddol o ffactorau rhyngberthynol, yn hytrach na graddfa fwy syml sy’n dangos yr anghenion tai. Amlinellodd y goblygiadau i’r LDP Amgen, sef bod yn rhaid i unrhyw gynlluniau datblygu gynnwys targed trwy’r awdurdod o dai fforddiadwy (a fynegir fel nifer y cartrefi) a ddylai fod yn seiliedig ar yr AFDL a chymryd i ystyriaeth pa mor ymarferol a phosib yw’r dewisiadau. Hysbysodd y Pwyllgor bod yr AFDL diweddaraf, yn gyffredinol, yn darparu sail resymegol adfywiol a chadarn i gyfeirio’r LDP Amgen a’i bolisïau rhyngberthynol ynghyd â phenderfyniadau ar geisiadau cynllunio.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys Asesiad Marchnadoedd Tai Lleol.