205 Y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2021-22 i 2024-25 PDF 304 KB
GwasanaethauCymdeithasol a Lles
Gwahoddwyr:
Cynghorydd Huw David, Arweinydd
Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd
Cabinet Cynghorydd Nicole Burnett, Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar
Cabinet Cynghorydd Dhanisha Patel - Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau Dyfodol
Gill Lewis, Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid (dros dro)
Claire Marchant, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cynghorydd
Mark Shephard Prif Weithredwr
Kelly Watson Prif Swyddog – Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio
Jacqueline Davies, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion
Deborah Exton Dirprwy Bennaeth Cyllid dros dro
Laura Kinsey, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant
Christopher Morris - Rheolwr Cyllid - Rheoli Cyllidebau: Gwasanaethau cymdeithasol a Lles / Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr
CyfarwyddiaethPrif Weithredwyr
Gwahoddwyr:
Cynghorydd Huw David, Arweinydd
Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd
Cabinet Cynghorydd Dhanisha Patel - Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau Dyfodol
Gill Lewis, Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid (dros dro)
Mark Shephard Prif Weithredwr
Kelly Watson Prif Swyddog – Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio
Deborah Exton, Dirprwy Bennaeth Cyllid dros dro
Martin Morgans, Pennaeth Gwasanaeth - Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth
Christopher Morris, Rheolwr Cyllid - Rheoli Cyllidebau: Gwasanaethau cymdeithasol a Lles / Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid drosolwg o’r adroddiad, a’i ddiben oedd cyflwyno Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC/y Strategaeth) ddrafft 2021-22 i 2024-25 i’r Pwyllgor, oedd yn nodi blaenoriaethau gwario’r Cyngor, amcanion buddsoddi allweddol a meysydd cyllideb oedd wedi cael eu targedu ar gyfer yr arbedion angenrheidiol. Roedd y strategaeth yn cynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2021-2025 a chyllideb refeniw ddrafft fanwl ar gyfer 2021-22.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid am ei throsolwg cryno o’r adroddiad. Gofynnodd yr Aelodau’r cwestiynau canlynol:
Y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles
Nododd Aelod fod gan yr adroddiad ddau Atodiad, un yn cynnwys Pwysau Cyllidebol ac un gyda Chynigion Lleihau’r Gyllideb. Ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (SSWB) cynigiwyd pwysau o £5 miliwn, ac eto ar arbedion y gyllideb, roedd y cyfanswm tua degfed rhan. Roedd yn hysbys bod Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn adran adweithiol ac y gallent weld gorwariant o ryw £2 filiwn. Gofynnodd i’r Swyddogion roi sylwadau ar y gwahaniaeth rhwng y ddau ffigur.
Cydnabyddai’r Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid fod Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn wasanaeth oedd yn cael ei arwain gan y galw a bod pwysau cyson ar y gyllideb. Roedd llawer o ddarnau o waith ar y gweill i reoli’r galw hwnnw, ond roedd hwn yn un o’r gwasanaethau yr effeithiodd Covid-19 yn ddifrifol arnynt. Roedd yna gyfleoedd a ddylai ei gwneud yn bosibl cyflawni mwy o arbedion effeithlonrwydd, ond byddai hynny’n cymryd amser. Nid oedd yr arbedion a’r pwysau yn gysylltiedig o reidrwydd, roedd gwahanol resymau drostynt, felly byddai pwysau yn dal i fod o hyd, ond nid oedd hynny’n atal cyfleoedd i sicrhau arbedion.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod hon wedi bod yn flwyddyn wahanol i bob un arall. Roedd Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn wasanaeth oedd yn cael ei arwain gan y galw ac roedd yn ymateb yn statudol i anghenion yr unigolion a’r cymunedau oedd yn cael eu gwasanaethu. Roedd ymarfer wedi cael ei drawsnewid dros nifer o flynyddoedd, gan weithio mewn ffordd sy’n seiliedig ar gryfder a chanolbwyntio ar yr hyn y gallai pobl ei wneud. Câi pobl â lefel uchel iawn o anghenion gofal a chymorth eu cysylltu â chymunedau, a châi eu hanghenion eu hateb mewn ffyrdd a olygai nad oeddent mor ddibynnol ar wasanaethau gofal a chymorth traddodiadol. Bu gostyngiadau yn nifer y bobl oedd wedi dod i mewn i gartrefi gofal, oherwydd buddsoddi mewn gwasanaethau ailalluogi ac roedd hwn yn un o’r meysydd o arbedion. Roedd cyfleoedd i ddarparu gweithgareddau yn ystod y dydd i bobl yn cael eu gweld yn wahanol iawn. Nid oedd yn golygu bod y pwysau wedi diflannu ond roeddent yn ymwneud â chwantwm y gwasanaeth a ddarperid, oedd yn gysylltiedig â’r ddemograffeg. Roedd yna boblogaeth oedd yn heneiddio oedd yn golygu bod gofyn cynyddol am ofal a chymorth i rai ac adlewyrchwyd hynny ym mhwysau’r gyllideb. Yn ogystal, roedd hyn yn ymwneud â ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 205
200 Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2021-22 i 2024-25 PDF 304 KB
Addysg a Chymorth i Deuluoedd
Gwahoddwyr
Cynghorydd Huw David, Arweinydd
Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd
Cabinet Cynghorydd Dhanisha Patel - Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau Dyfodol
Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio
Lindsay Harvey Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd
Gill Lewis, Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid dros dro
Mark Shephard Prif Weithredwr
Kelly Watson Prif Swyddog – Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio
Nicola Echanis – Pennaeth Addysg a Chefnogaeth i Deuluoedd
Deborah Exton Dirprwy Bennaeth Cyllid dros dro
Victoria Adams, Rheolwr Cyllid – Rheoli Cyllidebau: Cymunedau, Addysg a Chymorth i Deuluoedd
Hannah Castle, Prifathro, Ysgol Gyfun Cynffig - Cadeirydd Fforwm Cyllideb Ysgolion
Neil Clode, Prifathro, Ysgol Lau Llangewydd - Is-gadeirydd Fforwm Cyllideb Ysgolion
CynrychiolwyrCofrestredig
Tim Cahalane – Eglwys Gatholig Rufeining
Ciaron Jackson – Sector Ysgolion Cynradd
Rev. Canon Edward Evans – Yr Eglwys yng Nghymru
Lynsey Morris – Sector Ysgolion Uwchradd
CyfarwyddiaethCymunedau
Cynghorydd Huw David, Arweinydd
Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd
Cabinet Cynghorydd Dhanisha Patel - Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau Dyfodol
Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet Cymunedau
Gill Lewis, Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid dros dro
Janine Nightingale Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cymunedau
Mark Shephard Prif Weithredwr
Kelly Watson Prif Swyddog – Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio
Deborah Exton Dirprwy Bennaeth Cyllid dros dro
Zak Shell, Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth
Victoria Adams, Rheolwr Cyllid – Rheoli Cyllidebau: Cymunedau, Addysg a Chymorth i Deuluoedd
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Addysg a Chymorth i Deuluoedd
Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, a'i bwrpas oedd cyflwyno'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig drafft 2021-22 i 2024-25 i'r Pwyllgor, oedd yn nodi blaenoriaethau gwariant y Cyngor, amcanion buddsoddi allweddol a meysydd y gyllideb sydd wedi'u targedu ar gyfer arbedion angenrheidiol. Roedd y strategaeth yn cynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2021-2025 a chyllideb refeniw ddrafft fanwl ar gyfer 2021-22.
Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro ac esboniodd mai hon oedd y sesiwn ar y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd, gyda'r un Cymunedau i ddilyn.
Dywedodd Aelod ei bod wedi clywed y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro yn siarad droeon ac wedi herio'r defnydd o'r gair 'arbedion', gan ddweud nad oedd yr Awdurdod Lleol yn arbed dim, ond yn ceisio gwneud toriadau i wasanaethau am nad oedd ganddo'r gyllideb o ganlyniad.
Cyfeiriodd Aelod at dudalen 39, ESF5 a chyfeiriad at blant ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig a gofynnodd a oedd y pandemig yn cael unrhyw effaith andwyol ar blant awtistig. Beth fu'r profiad a pha mor wael, neu beidio, yr effeithiwyd ar y plant hyn.
Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd ei fod yn falch bod Pen-y-bont ar Ogwr wedi sefydlu nifer o leoliadau i gefnogi anghenion dysgwyr ag ASD, mewn lleoliadau Cyfrwng Cymraeg a Saesneg. Roedd yn deg dweud bod y 10 mis diwethaf wedi bod yn heriol iawn i bob math o ddysgwyr. Canmolodd ysgolion am yr ymdrechion aruthrol a roddwyd ar waith i sicrhau nad effeithiwyd ar blant a thynnodd sylw at ei brofiad personol o ymweld ag ysgolion ac arsylwi dysgwyr oedd yn hapus ac wedi ymgartrefu yn y lleoliadau hynny.
O ran cymorth ychwanegol gan yr awdurdod lleol, cymerodd hyn wahanol lwybrau gan gynnwys cymorth ychwanegol mewn ystafelloedd dosbarth, mewn ysgolion â chanolfannau adnoddau dysgu, cymorth ychwanegol gan staff cymorth dysgu a hefyd staff yn yr ysgol ac mewn lleoliadau pwrpasol yn amgylchedd arbenigol yr ysgol, gan roi cymorth i deuluoedd yn ogystal pan nad oedd dysgwyr ar y safle. O'r adborth a gafwyd, roedd hyn wedi bod yn llwyddiannus. Roedd yn anochel wedi effeithio ar ddysgwyr, ond o ymdrechion staff ysgol a staff cynhwysiant yn arbennig, nod yr awdurdod lleol oedd lliniaru unrhyw risg i les dysgwyr.
Dechreuodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio drwy ddiolch i staff perthnasol, gan nodi bod pob person awtistig yn wahanol. Yr hyn a rannwyd gan lawer o bobl awtistig oedd nad oedd croeso i newid ac y gallai newidiadau o ran amserlennu beri gofid. Nododd ymroddiad staff arbenigol mewn ysgolion a lleoliadau arbennig mewn ysgolion prif ffrwd a oedd wedi cael eu cydnabod gan Estyn, a oedd yn gefnogol iawn i ddull Tîm Pen-y-bont ar Ogwr.
Cyfeiriodd Aelod at dudalen 39, ESF6. Nododd y ffigur o £903k ar gyfer 2021-22 a swm cylchol o £1.1miliwn yn y dyfodol a gofynnodd sut yr oedd y ffigur wedi'i gyfrifo ac a oedd yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 200