Arwisgo Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer 2022/23
Cofnodion:
Ar ôl i'r Cyngor gymeradwyo enwebiad y Cynghorydd M Jones fel Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer y flwyddyn 2022/2023, gwahoddwyd y Cynghorydd Jones gan y Maer sy'n ymadael, i dderbyn Swyddfa'r Maer sy'n ymadael yn ffurfiol. Derbyniodd y Cynghorydd Jones swydd y Maer ar lafar gan adrodd y llw canlynol :-
"Rwyf i Martyn Jones yn tyngu y byddaf yn ffyddlon ac yn dwyn gwir deyrngarwch i'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth yr Ail."
Estynnodd y Cynghorydd JC Spanswick ei longyfarchiadau i'r Maer newydd.