4 Y Diweddaraf am y Rhaglen Gyfalaf PDF 190 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad yn gofyn am gytundeb gan y Cabinet i gyflwyno adroddiad i'r Cyngor i gymeradwyo rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2021-22 i 2031-32.
Eglurodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Cyngor, ar 23 Chwefror 2022, wedi cymeradwyo rhaglen gyfalaf ar gyfer y
cyfnod 2021-22 i 2031-32 fel rhan o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig
(MTFS). Cynhaliwyd adolygiad o'r adnoddau cyfalaf sydd ar gael, gan ystyried cyllid heb ei neilltuo yn y rhaglen gyfalaf, y sefyllfa refeniw a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn ar gyfer 2021-22, y sefyllfa o ran cronfeydd wrth gefn a chyllidebau refeniw a glustnodwyd sydd ar gael ar gyfer 2022-23. O ganlyniad i hyn, cynigiwyd nifer o gynlluniau cyfalaf newydd gan
Gyfarwyddiaethau, a oedd wedi cael eu hadolygu a'u herio'n drylwyr gan
aelodau o'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol, cyn cael eu cyflwyno ar gyfer
cynnwys yn y rhaglen gyfalaf. Roedd yr adroddiad hwn ond yn ceisio cymeradwyaeth i gynnwys cynlluniau newydd o fewn y rhaglen gyfalaf a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Chwefror 2022.
Amlinellodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid y sefyllfa bresennol a'r cynlluniau cyfalaf newydd arfaethedig gan gynnwys cyllid. Cafodd Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig, sy'n ymgorffori'r cynlluniau hyn, ei chynnwys yn Atodiad A i'r adroddiad.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod yr awdurdod, fel y trafodwyd yn yr adroddiad blaenorol, bellach yn y sefyllfa ddeublyg lle gellid buddsoddi bron i £10 miliwn o bunnoedd yn y Fwrdeistref Sirol gyda nifer o gynlluniau mewn addysg a chymunedau a fyddai'n elwa o'r buddsoddiad ychwanegol.
Croesawodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedaufuddsoddiad enfawr mewn cyfleusterau addysg a chymunedol ac yn arbennig, cyfleusterau iard chwarae i blant gan gymryd cyfanswm y buddsoddiad i dros filiwn o bunnoedd.
Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn arbennig o falch o weld y cynigion ar gyfer buddsoddi mewn tair ysgol a fyddai'n galluogi ehangu mawr a mwy o ystafelloedd dosbarth gan ganiatáu i fwy o blant fynychu'r ysgolion hynny. Sicrhawyd cyllid Adran 106 hefyd, sef cyfanswm o bron i £1.3 miliwn i gefnogi'r cyllid a neilltuwyd ar gyfer y cynlluniau hynny. Cafwyd buddsoddiad hanfodol hefyd yn y prosiect teleofal a fyddai'n caniatáu i'r rhwydwaith analog gael ei ddiffodd a’i drosglwyddo i ddigidol i barhau i ddarparu gwasanaeth sy'n rhoi annibyniaeth i unigolion gan ganiatáu iddynt aros gartref. Roedd arian wedi'i glustnodi ar gyfer Ffordd Penprysg fel y gallai ddarparu ar gyfer traffig dwyffordd gan arwain at gau croesfan lefel rheilffordd Pencoed yn y pen draw. Roedd angen gwaith dylunio cynnar ar y prosiect seilwaith a byddai'r cyllid hwn yn caniatáu i hynny gael ei wneud.
DATRYSWYD: Cytunodd y Cabinet fod y Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig
(Atodiad A i'r adroddiad) yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor i'w gymeradwyo.