Issue - meetings

Levelling Up Fund Priority Projects

Cyfarfod: 14/06/2022 - Cabinet (Eitem 6)

6 Prosiectau Blaenoriaeth y Gronfa Codi’r Gwastad pdf eicon PDF 271 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau adroddiad yn rhoi cefndir ar Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU (LUF) ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am ddatblygu prosiectau a gafodd eu cymeradwyo’n flaenorol ganddynt i'w datblygu ar gyfer y cylch hwn a chylchoedd y gronfa yn y dyfodol. Roedd yr adroddiad hefyd yn gofyn am gymeradwyaeth i gyflwyno prosiectau yng nghylch nesaf y gronfa.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y byddai'r Gronfa Codi’r Gwastad yn buddsoddi mewn prosiectau seilwaith a chyfalaf lleol a fyddai'n cael effaith weladwy ar bobl a'u cymunedau. Roedd hyn yn cynnwys amrywiaeth o flaenoriaethau buddsoddi lleol gwerth uchel, gan gynnwys cynlluniau trafnidiaeth lleol, trefol ac economaidd prosiectau adfywio a chefnogi asedau diwylliannol. Gallai pob cais etholaeth fod yn werth hyd at £20m, Fodd bynnag, roedd cwmpas ar gyfer buddsoddi mewn prosiectau trafnidiaeth mwy o faint, gwerth uchel, gan ganiatáu ar gyfer ceisiadau o hyd at £50m, gyda phob cais yn cael ei annog i gyfrannu o leiaf 10% o gyllid o gyfraniadau lleol a thrydydd parti hefyd.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod yn rhaid cyflwyno ceisiadau am rownd dau o gyllid yn llawn erbyn canol dydd, ddydd Mercher 6 Gorffennaf 2022. Darparwyd diweddariadau ar y tri phrosiect etholaethol a adroddwyd yn flaenorol i'r Cabinet, gan nodi'r sefyllfa bresennol a'r cynigion ar gyfer y ffordd ymlaen.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y byddent yn bwrw ymlaen ag Ailddatblygu Pafiliwn Porthcawl ar gyfer Etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr. Byddai prif amcanion adnewyddu Pafiliwn y Grand yn mynd i'r afael â'r materion risg i adeiladwaith yr adeilad yng nghyflwr y strwythur concrit gan ddiwallu anghenion a dyheadau pobl leol ar gyfer gwasanaethau celfyddydol, treftadaeth a llyfrgell estynedig a gwell hefyd. Cynigiwyd nifer o gyfleusterau newydd gan gynnwys mannau digwyddiadau newydd ar lefel y llawr cyntaf (Rhodfa), mannau digwyddiadau a chaffi ar y to sy'n cynnig golygfeydd o'r môr ar draws Môr Hafren a theatr Stiwdio newydd. Cefnogodd yr AS lleol y cais.

 

Ar gyfer etholaeth Ogwr, ceisiwyd cytundeb o'r blaen i fynd ar drywydd Prosiect Datblygu Menter Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd swyddogion yn teimlo mai hwn oedd y prosiect mwyaf manteisiol i ddiwallu anghenion lleol a chyflawni dyheadau'r rhaglen Codi’r Gwastad, drwy ddarparu gofod masnachol a chyflogaeth mewn lleoliadau allweddol. Nid oedd swyddogion Cronfa Codi’r Gwaelod Llywodraeth y DU wedi bod yn gefnogol i’r prosiect hwn, ac nid oedden nhw’n credu y byddai'r prosiect hwn yn llwyddiannus ac na fyddai'n cael ei ffafrio yn ystod y broses asesu. Er eu bod wedi ystyried cyfleoedd strategol eraill yn ardal yr etholaeth, nid oedd unrhyw brosiectau eraill wedi'u datblygu i bwynt lle gallai swyddogion argymell cyflwyno prosiect amgen. Hoffai swyddogion fanteisio ar y cyfle i nodi prosiect strategol amgen a phartneriaid posibl i ddatblygu cais ar gyfer cymunedau Cymoedd Llynfi, Garw ac Ogwr, gan ragweld y cylch ceisiadau nesaf.

 

Roedd y cais am Drafnidiaeth ar gyfer Pont Reilffordd Penprysg, prosiect seilwaith hirsefydlog ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr a gafodd ei gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) presennol a newydd yn ogystal  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6