Issue - meetings

Replacement Local Development Plan

Cyfarfod: 19/07/2022 - Cabinet (Eitem 25)

25 Dogfen Cyflwyno Cynllun Datblygu Lleol Newydd pdf eicon PDF 444 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dechreuodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau ei chyflwyniad trwy ddiolch i’r Tîm Cynllunio am eu gwaith diflino yn datblygu’r Ddogfen Cyflwyno Cynllun Datblygu Lleol Newydd.

 

Adroddodd, i’w hystyried gan y Cabinet, Ddogfen Gryno Adroddiad Ymgynghori’r Cynllun Adnau a’r fersiwn cyflwyno arfaethedig o’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLl) fel y’i diwygiwyd yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a gofynnodd am gytundeb ar gyfer y CDLlA diwygiedig ac argymell i’r Cyngor bod y CDLlA fel y’i diwygiwyd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Phenderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) i’w harchwilio’n annibynnol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) cyfoes yn rhan hanfodol o system gynllunio a arweinir gan gynllun yng Nghymru. Dywedodd, heb CDLl cyfredol, y byddai’n dod yn gynyddol anodd i’r Cyngor ganolbwyntio ar integreiddio a mynd i’r afael â phryderon defnydd tir lluosog a byddai’r broses gynllunio leol yn dod yn dameidiog, heb ei chydlynu ac yn adweithiol. Hysbysodd y Cabinet fod adroddiad adolygu’r CDLl presennol wedi cydnabod angen brys i fynd i’r afael â’r diffyg yn y cyflenwad tir ar gyfer tai trwy nodi safleoedd tai ychwanegol, a amlygwyd gan y system monitro cyflenwad tai newydd a ragnodwyd gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd wrth y Cabinet, er bod y CDLl presennol wedi bod yn llwyddiannus wrth gyflwyno nifer o ddyraniadau preswyl a defnydd cymysg (tir llwyd yn bennaf), nid oedd dyraniadau tir llwyd eraill wedi’u cyflwyno fel y rhagwelwyd. Roedd nifer y safleoedd cyflawnadwy oedd yn weddill wedi lleihau’n raddol ar ddiwedd cyfnod y cynllun presennol, gan arwain at gwblhau llai o anheddau blynyddol. Dywedodd fod Cyfrifiad 2021 wedi datgelu bod y boblogaeth yn y Fwrdeistref Sirol yn un o’r ardaloedd sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru, gyda chanlyniadau i ddefnydd tir.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, ers cyhoeddi Cynllun Adnau’r CDLl Newydd ar gyfer Ymgynghori, bod gwybodaeth newydd, newidiadau i ddeddfwriaeth, canllawiau cynllunio cenedlaethol wedi’u diweddaru a chwblhau gwybodaeth dechnegol ategol wedi golygu bod angen adolygu sylfaen dystiolaeth y CDLl. Roedd hyn, ynghyd â rhai o’r materion a godwyd yn y sylwadau ar yr ymgynghoriad yn golygu bod angen nifer o newidiadau i’r CDLlA Adnau, a’r prif newidiadau oedd:

 

a) Dileu Dyraniad Tai ym Mharc Afon Ewenni, Pen-y-bont ar Ogwr – o ganlyniad i’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi bod y safle mewn perygl o lifogydd;

b) Cynnwys dyraniad tai yn Heol Fach, Gogledd Corneli;

c) Cynnwys prif gynlluniau safle;

ch) Cael gwared ar Safle Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn ar dir ger Depo Bryncethin;

d) Asesiad Trafnidiaeth Strategol wedi’i gwblhau; ac

dd) Asesiad Strategol o Ganlyniadau Llifogydd wedi’i ddiweddaru.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y byddai awdurdod yn cael ei geisio gan y Cyngor ym mis Medi 2022 i gyflwyno’r CDLl Newydd i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) i’w harchwilio’n gyhoeddus (rhagwelwyd yn gynnar yn 2023).

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet Cymunedau ei ddiolch i’r Tîm Cynllunio am eu gwaith dros y 4 blynedd diwethaf yn cyflawni’r CDLl Newydd. Cyfeiriodd at y pryderon ynghylch y cynnydd mewn datblygiadau tai arfaethedig a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 25