7 Cyfleusterau’r Llys Blodau
PDF 187 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a'r Cofrestrydd adroddiad, a'r pwrpas hwnnw, oedd cynghori'r Cyd-bwyllgor ar gynnydd adeiladu estyniad i'r cyfleuster Llys Blodau yn Amlosgfa Llangrallo a gofyn am gymeradwyaeth i ddyfarnu'r Contract sy'n deillio o'r broses dendro fel y manylir yn yr adroddiad.
Cafodd yr estyniad arfaethedig ei ddylunio i wella profiad y galarwyr a symud y gynulleidfa trwy ddarparu cyfleuster gorchudd mwy ar yr ardal laswellt nad yw’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd. Mae’r dyluniad yn cyd-fynd â statws adeilad rhestredig Gradd 2* yr Amlosgfa ac ethos dylunio'r pensaer gwreiddiol hynod amlwg, Maxwell Fry.
Yn y cyfarfod ar 14 Mehefin 2019 cafodd y Cyd-bwyllgor eu cyflwyno i'r pensaer, Jonathan Adams (o Benseiri Percy Thomas, Capita Real Estate and Infrastructure), cyn-lywydd cymdeithas y Penseiri Brenhinol yng Nghymru, a oedd yn gyfrifol am wahanol brosiectau mawreddog gan gynnwys Canolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd. Darparwyd cyflwyniad manwl i'r aelodau o'i ddyluniad arfaethedig ar gyfer y gwaith ymestyn. Yna dangoswyd lluniau o'r gwaith i'r Cyd-bwyllgor, ac esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a Chofrestrydd, fel a ganlyn:
(i) Mae'r dyluniad yn drawiadol ac yn effeithiol ar gyfer gofynion y galarwyr a'r staff ond mae hefyd yn cyd-fynd ag ethos crefyddol yr adeiladau a’r tiroedd presennol.
(ii) Mae'n gwneud y mwyaf o'r defnydd o le – gan ei fod yn strwythur mawr.
(iii) Mae'n darparu drws newydd o gefn y capel sy'n arwain yn uniongyrchol i'r Llys Blodau estynedig, gan wella'n fawr y cyflymder y gall galarwyr adael y capel i weld y teyrngedau blodeuog gan wella diogelwch mewn achosion gwacáu brys.
(iv) Mae’n darparu mynediad dan do rhwng y drws ar ben rhodfa’r cloestr i ddrysau ymadael y capel.
Mae’r dyluniad ar ei ffurf gromen yn efelychu adeiladau crefyddol hanesyddol o wahanol ffydd, gan arddangos claddgelloedd hances wedi’u hadeiladu o fframiau dur a phren caled ac yn cynnwys waliau cerrig, palmentydd carreg a gwydr lliw, y cyfan yn ddeunyddiau naturiol wedi’u crefftio’n hyfryd, sy’n ategu arddull bensaernïol bresennol yr adeilad.
Cymeradwyodd y Cyd-bwyllgor y cynllun ac yn awdurdodi bod swyddogion yn bwrw ymlaen i wneud cais am ganiatâd cynllunio a gwahodd tendrau ar gyfer y gwaith adeiladu, yn amodol ar gymeradwyaeth bellach. Yna cafodd ei amcangyfrif fod y cyllid ar gyfer y prosiect yn £540,000 a byddai'n cael ei ddarparu ar gyfer cronfeydd wrth gefn yr amlosgfa.
Yn y cyfarfod ar 4 Medi 2020, cafodd y Cyd-bwyllgor ei ddiweddaru eto bod gwaith wedi mynd rhagddo mewn rhai meysydd, er gwaethaf y pandemig, yn bennaf bod:
- Yr holl gymeradwyaethau statudol wedi ei gyflawni, gan gynnwys caniatâd adeilad rhestredig gan Lywodraeth Cymru. Roedd yr Amlosgfa wedi gweithio'n agos iawn gyda'n cynllunwyr cadwraeth a CADW ar y prosiect hwn, sydd wedi cymeradwyo'r dyluniad yn gadarnhaol iawn.
Yn y cyfarfod ar 5 Mis Mawrth y llynedd, cafodd aelodau eu cynghori bod y pandemig wedi effeithio ar yr amserlen a chafodd arian ei symud i gyllideb 2021/22, er mwyn galluogi'r pensaer i barhau i fynd ati i symud ymlaen â'r cam caffael a pharatoi tendrau. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7