Issue - meetings

Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu

Cyfarfod: 28/07/2022 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (Eitem 16)

16 Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf eicon PDF 208 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nododd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio y Cofnod Gweithredu.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd Pwyllgorau adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am Gofnod Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio, a oedd ynghlwm â’r adroddiad.

 

Cwestiynodd aelod o’r Pwyllgor y rheswm pam nad oedd cwynion corfforaethol yn cael eu cofnodi ar lefel uwch a gofynnodd a ddylai, fel Pwyllgor, ofyn i gwynion corfforaethol a chyfeiriadau Ombwdsmon gael eu cofnodi. Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid wrth y Pwyllgor fod cofnod yn cael ei gadw o gyfeiriadau Ombwdsmon a bod y broses o gofnodi cwynion a dderbyniwyd gan bob Cyfarwyddiaeth ar y system CRM yn cael ei ystyried er mwyn sefydlu a oes tueddiadau penodol yn y cwynion a dderbynnir. Gofynnodd y Cadeirydd i drosolwg o'r cwynion a dderbyniwyd gael ei adrodd i'r Pwyllgor hwn pan fyddai ar gael. Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid fod adrodd ar gwynion yn rhan o raglen waith y Pwyllgor.

 

Cyfeiriodd aelod o'r Pwyllgor at orgyffwrdd a dyblygu posibl yn rhaglen waith y Pwyllgor hwn â rhaglen y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol gan y byddai hefyd yn ystyried adroddiad ar Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl ac roedd yn awyddus i hyn gael ei osgoi fel Cadeirydd y Pwyllgor Craffu hwnnw. Dywedodd y Cadeirydd fod gan y ddau Bwyllgor swyddogaethau gwahanol yn yr ystyr y byddai'r Pwyllgor Craffu yn edrych ar faterion gweithredol yn fanylach, tra byddai'r Pwyllgor hwn yn edrych ar y broses gyffredinol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a ellid cynnal trafodaethau gydag Archwilio Cymru i fwrw ymlaen â gwaith Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ymgysylltu â phroses y Cynllun Datblygu Lleol ar ei gynlluniau ar gyfer datblygu cyfleusterau gofal iechyd sylfaenol lle bwriedir datblygu tai newydd. Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid wrth y Pwyllgor fod y Cyngor yn trafod y mater hwn gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

 

Holodd y Cadeirydd a oedd y wybodaeth ysgrifenedig y gofynnodd y Pwyllgor amdani am y strategaeth gaffael wedi'i hanfon. Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid fod y wybodaeth wedi'i hanfon at y Pwyllgor.

 

Holodd aelod o'r Pwyllgor a ellid adolygu cylch gorchwyl y Pwyllgor hwn fel rhan o'r adolygiad o'r Cyfansoddiad er mwyn osgoi dyblygu gyda Phwyllgorau eraill. Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r Pwyllgor hwn yn edrych ar lywodraethu prosesau ac na fyddai'n edrych ar faterion gweithredol. Dywedodd aelod o'r Pwyllgor fod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi sefydlu Gweithgor a oedd wedi cyfarfod heddiw ac a oedd â'r dasg o adolygu'r Cyfansoddiad. Cadarnhaodd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd mai dyma oedd yr achos ac unwaith y byddai'r Gweithgor wedi cwblhau ei adolygiad o'r Cyfansoddiad byddai'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd neu'r Cabinet a'r Cyngor i'w gymeradwyo, yn dibynnu ar yr amserlenni. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol wrth y Pwyllgor fod ganddo gylch gorchwyl cyfoes.

    

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn nodi'r Cofnod Gweithredu.