Issue - meetings

Treasury Management Outturn Report 2021-22

Cyfarfod: 28/07/2022 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (Eitem 22)

22 Adroddiad Alldro Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2021-22 pdf eicon PDF 549 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nododd y Pwyllgor y gweithgareddau rheoli’r trysorlys blynyddol a Dangosyddion Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2021-22.

Cofnodion:

Adroddodd y Rheolwr Gr?p – Prif Gyfrifydd ar y sefyllfa alldro ar gyfer gweithgareddau rheoli’r trysorlys, Dangosyddion Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2021-22 a thynnodd sylw at gydymffurfiaeth â pholisïau ac arferion y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p – Prif Gyfrifydd fod y Cyngor wedi cydymffurfio â’i ofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol yn ystod 2021-22.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p - Prif Gyfrifydd fod y Cyngor wedi rheoli ei lif arian gweithredol o ddydd i ddydd i sicrhau bod digon o arian ar gael i fodloni ei rwymedigaethau ariannol. Dywedodd fod arian dros ben yn cael ei fuddsoddi'n ddiogel wrth sicrhau ei hylifedd, gan sicrhau enillion sy'n gymesur â'r ddau. Mae'r Cyngor yn buddsoddi arian dros ben gyda llywodraeth ganolog ac awdurdodau lleol eraill, a hefyd Cronfeydd Marchnad Arian sy'n hygyrch ar unwaith. Mae awdurdodau lleol eraill yn faes allweddol ar gyfer buddsoddi arian dros ben. Dywedodd ei bod yn bwysig nodi bod y buddsoddiadau hyn at ddibenion llif arian ac nid ar gyfer enillion ariannol yn unig.

 

Cyfeiriodd aelod o’r Pwyllgor at fuddsoddiadau’r Cyngor mewn awdurdodau lleol eraill a holodd a oeddent mewn perygl o ystyried bod rhai awdurdodau lleol wedi mynd yn fethdalwyr. Dywedodd y Rheolwr Gr?p - Prif Gyfrifydd wrth y Pwyllgor y pennir bod buddsoddi mewn awdurdodau lleol eraill yn ddiogel ac yn cael ei ystyried yn ddiogel a bod y Cyngor yn cael ei arwain gan ei gynghorwyr Rheoli'r Trysorlys wrth wneud buddsoddiadau ac y byddai'n atal buddsoddiadau dros dro pe byddent yn cael eu cynghori i wneud hynny. Dywedodd fod awdurdodau lleol bob amser wedi ad-dalu eu benthyciadau i'r Cyngor hwn ar gais. Dywedodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid wrth y Pwyllgor fod ymgynghorwyr Rheoli'r Trysorlys y Cyngor yn gwneud llawer iawn o waith ar ran y Cyngor ac er nad yw statws credyd yn berthnasol i awdurdodau lleol, mae Arlingclose yn ystyried sefyllfa ariannol awdurdodau lleol er mwyn cynghori o ran ym mha rai i fuddsoddi. Gofynnodd aelod o'r Pwyllgor i'r Adran Gyllid fewnosod ychydig o naratif ar broffil risg a hefyd cost benthyca mewn adroddiadau Rheoli'r Trysorlys yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn nodi'r gweithgareddau rheoli'r trysorlys blynyddol a'r Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2021-22.