Issue - meetings

Independent Remuneration Panel for Wales Draft Annual Report 2023/24

Cyfarfod: 20/10/2022 - Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd (Eitem 9)

9 Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2023/24 pdf eicon PDF 413 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad a chrynhoi'r pwyntiau i'r pwyllgor.

Bu’r Cadeirydd ac aelodau eraill yn trafod eu pryderon ynghylch cynnwys yr adroddiad, yn enwedig gyda golwg ar y cynnydd arfaethedig mewn cyflog i Aelodau a'r argraff y gallai hyn ei gadael ar eu hetholwyr yng ngoleuni’r argyfwng costau byw.

 

PENDERFYNWYD : Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad a’r atodiadau.

                        Cytunodd y Pwyllgor i ddarparu'r ymateb a ganlyn, mewn perthynas ag Adroddiad Blynyddol Drafft IRPW 2023-2024, i’r IRPW a CLlLC i’w gyflwyno erbyn y 1af o Ragfyr 2022:

 

‘Mae’r Pwyllgor yn cydnabod, o ystyried yr argyfwng costau byw a’r anawsterau di-ddadl y mae llawer o bobl yn y Fwrdeistref Sirol yn eu profi ar hyn o bryd ac yn debygol o’u profi yn y dyfodol agos, ei bod yn ymddangos braidd yn amhriodol i Aelodau Etholedig gael codiadau cyflog ar gyfer 2023-2024. Fodd bynnag, derbynnir hefyd fod angen ystyried amgylchiadau personol Aelodau ac felly y dylai fod yn fater personol i’r Aelodau benderfynu drostynt eu hunain a fyddant yn derbyn y codiad cyflog ynteu’n dewis peidio.’