12 Gwobr Baner Werdd PDF 123 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth adroddiad er mwyn hysbysu’r Cyd-bwyllgor am gais llwyddiannus Amlosgfa Llangrallo am Wobr y Faner Werdd yn 2022.
Fel cefndir, eglurodd mai Gwobr y Faner Werdd yw’r safon genedlaethol sy’n feincnod ar gyfer parciau a mannau gwyrdd yng Nghymru a Lloegr. Fe'i lansiwyd ym 1996 i gydnabod a gwobrwyo'r mannau gwyrdd gorau yn y wlad. Cyflwynwyd y wobr genedlaethol gyntaf ym 1997 ac mae’n parhau i nodi’r safonau uchel y caiff parciau a mannau gwyrdd eu mesur yn eu herbyn. Mae hefyd yn cael ei gweld fel ffordd o annog sefydliadau i gyrraedd safonau amgylcheddol uchel, gan osod meincnod o ragoriaeth mewn mannau hamdden gwyrdd.
Derbyniodd Amlosgfa Llangrallo ei gwobr gyntaf yn 2010 ac yn flynyddol wedi hynny hyd at y presennol.
Gwnaed cais drachefn am Wobr y Faner Werdd ym mis Ionawr 2022 a chyhoeddwyd y gwobrau ar 11 Gorffennaf 2022, cadarnhaodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth.
Roedd yr Amlosgfa unwaith eto wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau'r wobr hon, sy’n adnabyddus yn genedlaethol, am safonau gofal a chynnal a chadw'r safle a'r tiroedd. Mae'r wobr yn cadarnhau'r ymrwymiad i gynnal safonau uchel, y gall pob ymwelydd eu gwerthfawrogi.
Roedd yn falch o ddweud felly fod Llangrallo yn chwifio ei Faner Werdd am y drydedd flwyddyn ar ddeg yn olynol.
Bydd Cadeirydd Cyd-bwyllgor Amlosgfa Llangrallo a Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth fel rheol yn derbyn Gwobr y Faner Werdd mewn seremoni ond ni fydd trefnwyr Gwobr y Faner Werdd yn cynnal seremoni wobrwyo eleni. Yn lle hynny, caiff y Faner Werdd a thystysgrif eu danfon yn uniongyrchol i Amlosgfa Llangrallo.
Ar 27 Gorffennaf 2022, cyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddatganiad i’r wasg i hysbysu’r cyhoedd am lwyddiannau Gwobr y Faner Werdd, y mae copi ohono ynghlwm fel Atodiad A i’r adroddiad.
I gloi, dywedodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth fod angen gwneud cais blynyddol am y wobr, a gwneir cais pellach ym mis Ionawr 2023.
PENDERFYNWYD: Bod y Cyd-bwyllgor wedi nodi'r adroddiad gyda phleser ac yn llongyfarch Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth a'i staff am ennill y wobr hon unwaith eto.