57 P/20/995/FUL – Safle Fferm yr Ynys, Heol Ewenni, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3LG
PDF 2 MB
Cofnodion:
PENDERFYNWYD: (1) Bod yr ymgeisydd, o ystyried y cais uchod, yn ymrwymo i Gytundeb Adran 106:
(i) I gyfrannu cyfanswm o £25,266, wedi ei dalu ar ddechrau’r datblygiad, tuag at y canlynol:-
• Gwelliannau i’r arhosfan fysiau, gan gynnwys arwyddion arhosfan fysiau, marciau, ac uwchraddio to’r lloches fysiau - £6,600.
• Gorchmynion traffig sy'n ofynnol mewn cysylltiad â'r groesfan i gerddwyr sydd ei hangen ar Heol Ewenni - £8,000.
• Gwelliannau i'r system Gweithredu Cerbydau yn cael ei Hoptimeiddio drwy Ficrobrosesydd (MOVA) ar gylchfan Ewenni- £10,666.
(2) Rhoi pwerau dirprwyedig i Gyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau i gyhoeddi Hysbysiad o Benderfyniad yn rhoi caniatâd amodol mewn perthynas â'r cynnig hwn unwaith y bydd yr ymgeisydd wedi ymrwymo i’r Cytundeb Adran 106 uchod, yn ddarostyngedig i'r Amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
CYNNIG: Canolfan denis dan do ac awyr agored, pwll nofio awyr agored, tirlunio, lle i barcio ceir, mynediad newydd a llwybr Teithio Llesol, maes parcio a rhan ar gyfer amwynderau newydd ar gyfer y cartref gofal cyfagos
Yn ddarostyngedig i newid dwy o'r Amodau yn yr adroddiad, fel a ganlyn:-
13. Er gwaethaf y cynlluniau a gyflwynwyd ni chaiff unrhyw ddatblygiad gychwyn hyd nes y bydd cynllun ar gyfer parcio beiciau am arhosiad hir a byr wedi cael ei gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'i gytuno yn ysgrifenedig. Rhaid i’r ddarpariaeth parcio beiciau fod yn weithredol cyn i'r datblygiad gael ei ddefnyddio'n fuddiol a'i gadw i ddibenion parcio beiciau am byth.
Rheswm: Er mwyn hyrwyddo dulliau cynaliadwy o deithio i ac o'r safle.
24. Dim ond rhwng 08.00 a 22.00 o’r gloch y caiff Tenis Twrnamaint ei chwarae ar y cyrtiau allanol ar unrhyw ddiwrnod.
Rheswm: Amddiffyn cyfleusterau'r preswylwyr cyfagos.