40 Traciwr Rheoleiddio PDF 273 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus adroddiad yn tynnu sylw’r Pwyllgor at faterion a godwyd gan Archwilio Cymru ynghylch monitro, rhannu a defnyddio adroddiadau rheoleiddwyr, ac argymhellion yn codi o’r adroddiadau ac yn cynnig atebion i wella prosesau.
Eglurodd Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus fod crynodeb lefel uchel o weithgarwch rheoleiddio arfaethedig Archwilio Cymru wedi ei gynnwys yn systematig yn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (GAC). Cynigiwyd bod hwn yn cael ei ymestyn i gynnwys yr holl archwiliadau, adolygiadau ac arolygiadau a gwblhawyd, a'r argymhellion penodol a wnaed ganddynt ar gyfer y Cyngor. Byddai hyn yn ffurfio traciwr rheoleiddio ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a gellid ei ymestyn hefyd i gynnwys yr holl reoleiddwyr (o ran eu harolygiadau eang, corfforaethol neu wasanaeth cyfan), gan gynnwys Estyn, Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Arolygiaethau EM ar gyfer y Gwasanaeth Prawf a Charchardai. Cynigiwyd eu bod yn canolbwyntio'n bennaf ar y ddwy flwyddyn ariannol flaenorol, 2020/21 a 2021/22, yn ychwanegu arolygiadau pellach wrth iddynt gael eu cyhoeddi a thynnu arolygiadau allan yn unig pan fyddai’r holl argymhellion yn eu herbyn wedi cael eu cau. Ychwanegodd nad oedd bwriad i gynnwys arolygiadau gwasanaethau rheoleiddiedig e.e. arolygiadau AGC o gartrefi preswyl, lle roedd nifer o arolygiadau bob blwyddyn, gyda nifer o argymhellion yn erbyn pob un. Gyda golwg ar yr arolygiadau hyn, roedd y cyfrifoldeb yn fwy amlwg ar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc priodol. Cynigiwyd bod y traciwr rheoleiddio hwn yn cael ei ystyried yn fanwl yn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ddwywaith y flwyddyn, ym mis Ionawr a mis Gorffennaf, i gwmpasu cynnydd hanner cyntaf y flwyddyn, ac wedyn yr ail hanner.
Eglurodd Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus sut y byddai'r traciwr rheoleiddio yn gweithio i sicrhau goruchwyliaeth gorfforaethol a gwleidyddol. Pe câi ei wneud yn effeithiol, byddai hefyd yn arwain at ddealltwriaeth gliriach o ble roedd mewnbwn rheoleiddwyr wedi arwain at newid a gwelliant mewn gwasanaethau.
Gofynnodd Aelod a fyddai modd, o ran y camau gweithredu gofynnol, darparu syniad o amserlen i'r chwarter agosaf. Atebodd Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus pan fyddai rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu ym mis Ionawr, y câi'r bylchau hyn eu llenwi.
Cefnogodd Aelod y cynnig i ganolbwyntio ar y 2 flynedd ariannol flaenorol ac ychwanegodd y dylai'r Pwyllgor ganolbwyntio nid yn unig ar y rhan archwilio ond hefyd ar y risg.
Eglurodd Aelod ei fod yn meddwl bod hwn yn syniad da. Fodd bynnag, hoffai weld adran yn yr adroddiad yngl?n â chyfathrebu a thryloywder. Gofynnodd hefyd sut y byddai hyn yn cael ei gyfleu'n briodol i'r Aelodau a'r trigolion. Atebodd Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus fod hwn yn syniad da ac y byddai'n ystyried y ffordd orau o'i gyflawni.
Croesawodd Aelod yr adroddiad ond cododd bryderon ynghylch sut y byddai'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cael ei hysbysu am gamau gweithredu blaenoriaeth uchel neu gritigol ac a oedd adroddiad chwe mis yn rhy hir. Atebodd Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus mai'r syniad oedd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 40