64 Rheoli’r Trysorlys – Adroddiad Hanner Blwyddyn 2022-23 PDF 155 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, â’r diben oedd diweddaru’r cyngor ar yr adolygiad canol blwyddyn a sefyllfa hanner blwyddyn ar gyfer gweithgareddau Rheoli’r Trysorlys a dangosyddion Rheoli’r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn gyfredol, ac i amlygu cydymffurfedd â polisïau ac arferion y cyngor.
O ran y sefyllfa bresennol, atgoffodd yr aelodau mai gwaith Rheoli'r Trysorlys yw rheoli llif arian, benthyca a buddsoddi'r cyngor, a'r risgiau cysylltiedig sy'n cydredeg â hyn.
Eglurodd fod y cyngor yn agored i risgiau ariannol, gan gynnwys colli arian a fuddsoddwyd ac effaith refeniw newid mewn cyfraddau llog.
Felly mae nodi, monitro a rheoli risg ariannol yn llwyddiannus yn ganolog i reolaeth ariannol ddarbodus y cyngor.
Cymeradwywyd Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2022/2023 gan y cyngor ar 23 Chwefror, ychwanegodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid.
Roedd yn gallu cadarnhau bod y cyngor wedi cydymffurfio â'i ofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn hon, gyda manylion ei weithgarwch yn Atodiad A yr adroddiad.
Y pwyntiau allweddol i’w nodi oedd:-
· Y cyd-destun yn y cyfnod hwn:
o Gwrthdaro parhaus yn Wcráin
o Cyfnod o chwyddiant cynyddol a’r effaith ar gostau byw
o Cyfraddau llog uwch, gyda chynnydd o 0.75% i 2.25% ar ddiwedd mis Medi ac, ers peth amser, yn fwy nag o'r blaen
· Roedd benthyca tymor hir ar ddiwedd mis Medi yn £99.94 miliwn. Ychydig o newid dros gyfnod yr adroddiad.
· Roedd yn annhebygol y byddai angen i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fenthyca eleni ond bydd hyn yn cael ei adolygu'n barhaus.
· Mae'r cyngor yn buddsoddi ei arian ac, wrth wneud hynny, yn sicrhau diogelwch y cyllid, yr hylifedd ac yna'r arenillion o'r buddsoddiad hwnnw. Mae buddsoddiadau yn cynnwys arian a dderbyniwyd cyn gwariant a defnyddio balansau a chronfeydd wrth gefn.
· Ar ddiwedd mis Medi 2022, y swm a fuddsoddwyd oedd £98 miliwn – gydag awdurdodau lleol eraill, y llywodraeth a chronfeydd marchnad arian.
· Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cymryd cyngor gan ei gynghorwyr yn rheolaidd ynghylch ble y caiff ein harian ei roi.
Yn olaf, cyfeiriodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid y cyngor at Atodiad A, a oedd yn rhoi mwy o fanylion am weithgarwch Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y cyfnod hwn.
Gofynnodd aelod am ba mor hir yr oedd cynghorwyr Rheoli'r Trysorlys presennol y cyngor wedi bod yno a, phe baent yn camgynghori'r awdurdod, a ydynt yn atebol am hyn mewn unrhyw ffordd.
Cadarnhaodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid fod y cyngor yn comisiynu'r gwasanaeth hwn, er bod y gwaith yn cael ei ail-dendro’n rheolaidd. Ychwanegodd, fodd bynnag, mai ychydig iawn o gynghorwyr arbenigol o'r fath oedd ar gyfer y maes hwn o waith yn y farchnad agored yn cefnogi awdurdodau lleol, gan ei fod yn faes mor arbenigol. Ychwanegodd ymhellach y byddai'r cwmni'n cael ei yswirio pe bai'n rhoi cyngor amryfus neu wael i awdurdod lleol fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Gofynnodd yr aelod gwestiwn dilynol, sef a oedd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 64