94 Parhau'r Gwasanaethau Cymorth Tai ar Coity Road
PDF 311 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid, adroddiad er mwyn ceisio cymeradwyaeth gan y Cabinet i addasu contract presennol yn unol â Rheolau Gweithdrefn Contract y Cyngor, er mwyn caniatáu parhau â gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai ar Coity Road.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Partneriaeth wrth y Cabinet, yn dilyn ymarfer caffael yn 2018, fod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPO) gontract ar waith gyda'r Wallich, ar gyfer cyflawni tri phrosiect cymorth cysylltiedig â thai ar Coety Road, Pen-y-bont ar Ogwr.
Dechreuodd y contract rhwng y Cyngor a’r Wallich ar 1 Ebrill 2018 a daeth i ben ar 31 Mawrth 2023. Arferwyd opsiwn i estyn y contract am gyfnod hyd at 24 mis, heb ddewis pellach wedyn i estyn.
Ychwanegodd mai gwerth y contract blynyddol presennol oedd £358,170 a bod hwn wedi'i ariannu gan Grant Cymorth Tai CBSPO. Cyfanswm gwerth y contract oedd £1,790,850.
Ailadroddodd Pennaeth y Gwasanaethau Partneriaeth, gyda'r contract presennol ar waith gyda'r Wallich i ddod i ben ar 31 Mawrth 2023, yn unol â Rheolau Gweithdrefn Contract CBSPO, fod angen ymarfer caffael i sicrhau y darperir gwasanaeth yn barhaus.
Ar 1 Rhagfyr 2022 daeth Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym a bydd adroddiad i'r Cabinet yn y dyfodol yn amlinellu goblygiadau ehangach y Ddeddf, ond mae'n amlwg y bydd goblygiadau i ddarparwyr llety dros dro a llety â chymorth. Eglurwyd rhai o'r rhain yn yr adroddiad.
Cynigiwyd gohirio’r broses gaffael a fydd yn ofynnol i sicrhau darpariaeth barhaus ac estyn y contract presennol sydd ar waith gyda'r Wallich, tra bod goblygiadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn cael eu deall yn llawn.
Y pryder a achoswyd drwy broses gaffael yn dechrau nawr, er mwyn sicrhau contract newydd erbyn 1 Ebrill 2023, oedd y gallai'r manylion a nodir mewn Manyleb Gwasanaeth ar hyn o bryd ddyddio’n gyflym iawn yn sgil newidiadau posib Llywodraeth. Yn ogystal, esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Partneriaeth y byddai mwy o ddiddordeb yn debygol mewn proses dendro gan ddarpar ddarparwyr pan fyddai goblygiadau'r Ddeddf yn cael eu deall yn llawn.
Cwblhaodd yr adroddiad drwy gynghori, os bydd y Cabinet yn cymeradwyo'r cynnig i addasu’r contract presennol, y bydd proses gaffael yn cael ei chynnal yn unol â Rheolau Gweithdrefn Contract CBSPO, er mwyn sicrhau contract newydd gyda dyddiad cychwyn o 1 Hydref 2023. Er mwyn caniatáu ymarfer caffael llawn gan gynnwys gweithredu contract newydd ac ystyried TUPE, byddai'r broses yn dechrau tua mis Mawrth 2023.
O ran goblygiadau ariannol yr adroddiad, cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Partneriaeth fod cost addasu'r contract a fanylwyd ym mharagraff 4.9 yr adroddiad, o fewn 10% o werth y contract cyffredinol presennol. Byddai cost yr addasiad yn cael ei ariannu gan Grant Cymorth Tai CBSPO.
Pwysleisiodd Aelod Cabinet - Cenedlaethau'r Dyfodol mor bwysig oedd bod CBSPO yn deall sut y bydd y Ddeddf yn newid y systemau presennol sydd ar waith a'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar y sector, gan fod pwysau digynsail gydag achosion o bobl ddigartref. Gobeithiai y byddai gennym ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 94