96 Proses Ymgynghori ar gyfer Gorchmynion Rheoleiddio Traffig
PDF 444 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau adroddiad er mwyn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu gweithdrefn ddiwygiedig wrth ymgynghori ag aelodau, unigolion a sefydliadau lleol ac wrth roi hysbysiad cyhoeddus yn ymwneud â Gorchmynion Rheoleiddio Traffig (GRhT) parhaol, er mwyn symleiddio'r broses wrth symud ymlaen.
Esboniodd fod Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn nodi ymhlith ei phrif flaenoriaethau 'newid y terfyn cyflymder diofyn o 30mya i 20mya mewn ardaloedd adeiledig er mwyn lleihau anafiadau a marwolaethau sy'n gysylltiedig â thraffig a gwneud cerdded a beicio yn fwy diogel a deniadol'.
Cynigiwyd felly, trwy alluogi nifer llawer ehangach o gyfyngiadau 20mya, y byddai hyn yn sicrhau manteision diogelwch sylweddol ar y ffyrdd, yn enwedig mewn cymdogaethau difreintiedig. Yn y tymor hirach, roedd disgwyl i leihau’r farn am berygl ffyrdd arwain at fwy o gerdded a beicio, a fydd yn gwella iechyd y cyhoedd ac yn disodli rhai teithiau ceir byr ac yn cynorthwyo gostyngiadau pellach mewn gwrthdrawiadau ac anafiadau. Roedd mwy o gerdded a beicio hefyd yn debygol o arwain at fwy o gydlyniad cymdeithasol, sy'n dwyn manteision cymdeithasol ac iechyd pellach. Byddai cyflymder is hefyd yn arwain at ostwng s?n traffig, tra bydd effeithiau ar ansawdd aer yn niwtral ar eu gwaethaf a bydd cynnydd amser teithio yn fach.
Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau ymhellach, fel rhan o'r ddeddfwriaeth newydd, fod Tasglu 20mya wedi ei greu i weithio'n agos gydag
Awdurdodau Lleol i adnabod y ffyrdd hynny a fyddai'n eithriad i'r
ddeddfwriaeth.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi nodi dros 100 o eithriadau, y bydd angen Gorchmynion Rheoleiddio Traffig (GRhT) ar bob un ohonynt, naill ai ar gyfer cadw neu ddiwygio terfynau cyflymder. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r statws 20mya fesul dipyn ar gyfer rhai ffyrdd gan Lywodraeth Cymru oedd mis Medi'r flwyddyn nesaf.
Amlinellwyd ym mharagraffau 4 o'r adroddiad y broses ymgynghori yn gyffredinol i'w chynnal cyn y cam hysbysiad cyhoeddus statudol a chyn y gellir gweithredu GRhT parhaol. Yn ddibynnol ar faint a graddfa'r broses GRhT, gall hyn arwain at ddefnyddio dulliau ymgysylltu gwahanol, eglurodd. Roedd yr adran hon o'r adroddiad hefyd yn rhestru'r ymgyngoreion statudol yr oedd gofyn i'r Cyngor ymgysylltu â nhw, a oedd yn cynnwys Aelodau lleol.
Roedd gweddill prif gorff yr adroddiad yn esbonio'r broses gyfreithiol ynghylch rhwymedigaethau statudol y Cyngor wrth gynnig gwneud GRhT, ynghyd â'r broses y mae'n rhaid ei dilyn os oes unrhyw wrthwynebiadau neu apeliadau i gynnig neu gynigion o'r fath.
Yna, eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau oblygiadau ariannol yr adroddiad yn olaf, h.y. bod y costau ar gyfer Gorchmynion Rheoleiddio Traffig a noddir gan yr Awdurdod naill ai'n cael eu hariannu o fewn cyllidebau presennol, neu gan drydydd parti. Nid oedd goblygiadau ariannol felly’n deillio o gynigion yr adroddiad.
Canmolodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau yr adroddiad a chynghorodd y byddai Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn newydd yn rhoi cyhoeddusrwydd i gynigion yngl?n â'r cynllun 20mya fel bod aelodau'r cyhoedd yn fwy ymwybodol o'r bwriad hwn.
Ychwanegodd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 96