18 Y Diweddaraf am Ddatblygu Rhianta Corfforaethol PDF 678 KB
Cofnodion:
Dywedodd y Swyddog Cyfranogiad Rhianta Corfforaethol mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi'r newyddion diweddaraf i Bwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet am ddatblygu Rhianta Corfforaethol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cyflwynodd yr adroddiad a mynd drwyddo. Dywedodd eu bod yn gwahodd proffesiynau i wneud "Addewid" ynghylch yr hyn yr oeddent yn gallu ei newid a'i ychwanegu at y Cynllun Strategol. Dywedodd y gellid cyflwyno'r manylion am hyn i'r cyfarfod nesaf.
Soniodd am ddau gr?p a fyddai'n rhan o'r Fforwm Ieuenctid a gofynnodd am gymeradwyaeth ar gyfer cylch gorchwyl drafft.
Holodd yr Arweinydd ynghylch ymgysylltiad partneriaid.
Atebodd y Dirprwy Arweinydd drwy ddweud nad oedd gan bartneriaid ddealltwriaeth o hyn yn flaenorol, ond eu bod yn ymgysylltu'n llawn bellach. Ategwyd hyn gan yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol, drwy ddatgan ei bod yn bwysig i bob Cynghorydd gymryd cymaint o ran ag yr oedd ei amserlen unigol yn ei chaniatáu, a holodd y Swyddog Cyfranogiad Rhianta Corfforaethol am gynlluniau i hyrwyddo ymgysylltiad, er mwyn i gydweithwyr o'r Cyngor allu gweld y gwaith gwych y mae'r tîm yn ei wneud, a rhieni maeth y plant sydd yng ngofal y fwrdeistref.
Cytunodd y Swyddog Cyfranogiad Rhianta Corfforaethol â hyn, a dweud bod y partneriaid wedi ymateb mewn modd cadarnhaol. Dywedodd hefyd mai nodau ac amcanion yr is-grwpiau oedd rhoi llais i blant drwy hyfforddi, hyrwyddo a phwysleisio eu rolau a'u cyfrifoldebau. Soniodd ei fod wedi ysgrifennu at weithwyr proffesiynol a Chynghorwyr gyda golwg ar hyrwyddo hyn.
PENDERFYNWYD: (1) Bod y Pwyllgor yn cefnogi cynnydd Datblygu Rhianta Corfforaethol.
(2) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo Cylch Gorchwyl Bwrdd Rhianta Corfforaethol Pen-y-bont ar Ogwr.