167 Polisi Cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 229 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles adroddiad yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo Polisi Cwynion diwygiedig y Gwasanaethau Cymdeithasol (Atodiad 1 yr adroddiad). Roedd y polisi wedi'i ddatblygu yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau statudol ynghylch cwynion gwasanaethau cymdeithasol.
Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ei fod yn egluro'r berthynas rhwng Polisi Cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol a'r gweithdrefnau a oedd yn sail i’r polisi a phrosesau a gweithdrefnau eraill a weithredir gan y Cyngor. Ychwanegodd fod y Cabinet yn derbyn adroddiad Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol Blynyddol a oedd yn nodi perfformiad ynghylch cwynion a gwersi a ddysgwyd o faterion a sylwadau a godwyd.
Eglurodd y Dirprwy Arweinydd fod yn rhaid iddynt, fel rhan o arolygiad AGC, sicrhau bod yr holl bolisïau’n gyfredol ac yn cael eu rheoli’n briodol ac felly byddai’r polisïau hyn yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet yn rheolaidd wrth symud ymlaen.
Gofynnodd yr Aelod Cabinet Adfywio pam fod yna bolisi ar wahân ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a pham nad oedd y maes hwn yn dod o dan y Polisi Corfforaethol.
Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod angen i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gael Polisi Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol penodol oherwydd y ddeddfwriaeth a'r canllawiau statudol cysylltiedig, fel y nodir yn fanwl yn yr adroddiad eglurhaol. Rhoddodd sicrwydd i'r Cabinet fod y ddau bolisi yn ategu ei gilydd o ran y ffordd yr oeddent yn gweithio, er mwyn sicrhau bod cynnwys neu g?yn yn cael eu rheoli o dan y broses gywir.
Pwysleisiodd y Dirprwy Arweinydd na allent wneud dim gyda chwyn yn y gwasanaethau cymdeithasol pe bai achos cyfreithiol yn mynd rhagddo. Dylent ei gwneud yn glir, fel Aelodau, eu bod yn dilyn canllawiau ac yn cadw at gyngor cyfreithiol a chyngor yr Ombwdsmon wrth wneud hyn.
Gofynnodd yr Aelod Cabinet Cenedlaethau’r Dyfodol sut roedd y polisi hwn yn rhyngweithio â’r Polisi Blinderus. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod hyn yn helpu i amlygu'r ffaith nad oedd y Cyngor hwn yn goddef unrhyw gam-drin o amgylch unrhyw aelod o staff. Roedd gan fframwaith polisi Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bolisïau a oedd yn ategu ei gilydd ac yn gweithio'n dda ochr yn ochr â'i gilydd. Roedd y Swyddog Cwynion yn rôl statudol a byddai'n fedrus iawn wrth weithio gydag unigolion i gymryd peth amser i ymchwilio i g?yn yn gywir ac yn briodol. O bryd i'w gilydd byddai materion a fyddai'n flinderus ac a fyddai'n gyfystyr â cham-drin aelodau o staff y byddai'n rhaid eu rheoli drwy'r Polisi Blinderus.
Pwysleisiodd yr Arweinydd na fyddai'r awdurdod yn goddef cam-drin, ymosodiad na thrais tuag at staff ac na fyddai'n oedi cyn cysylltu â Heddlu De Cymru a gweithio gyda nhw pe bai angen, i amddiffyn staff.
PENDERFYNWYD: Cymeradwyodd y Cabinet y Polisi Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol diwygiedig a oedd ynghlwm fel Atodiad 1 yr adroddiad.