Issue - meetings

Care Inspectorate Wales (CIW) Improvement check visit to Children's Social Care Services 21 - 24 November 2022

Cyfarfod: 11/04/2023 - Cabinet (Eitem 168)

168 Ymweliad Gwirio Gwelliannau Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) â Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant 21 - 24 Tachwedd 2022 pdf eicon PDF 261 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i’r Cabinet, a oedd yn seiliedig ar eu hymweliad gwirio gwelliannau â Gwasanaethau Plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod mis Tachwedd 2022  ac argymhellodd fod y Cabinet yn ystyried yr adroddiad a’r sylwadau ar y Cynllun Gweithredu cysylltiedig wedi’i ddiweddaru.

 

Darparodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles gefndir yr ymweliad ac eglurodd fod y gwaith o wirio gwelliannau’n canolbwyntio ar y cynnydd a wnaed yn y meysydd a nodwyd ar gyfer gwelliant yn ystod yr Arolygiad Gwerthuso Perfformiad ym mis Mai 2022. Eglurodd fod y gwaith o wirio gwelliannau ar y cyfan yn dangos cynnydd cadarnhaol o ran y blaenoriaethau hynny a osodwyd, sef bod y mwyafrif o'r meysydd a nodwyd naill ai'n dangos gwelliant sylweddol neu rywfaint o welliant a nifer o feysydd yr oedd angen gweithredu pellach arnynt, o ganlyniad i hynny. Dywedodd fod angen gwelliannau o fewn yr awdurdod o hyd, o ran gofal cymdeithasol plant, o ystyried mai cynllun gwella tair blynedd oedd y cynllun a gymeradwywyd. Nododd AGC arferion gwell o ran clywed, a gweithredu ar lais y plentyn, o fewn arfer ac o fewn ffeiliau achos a hefyd yn parhau i nodi bod y gweithlu’n teimlo eu bod yn cael cefnogaeth dda o ran eu gwaith. Roeddent hefyd yn cydnabod cryfder sylweddol o ran gweithio mewn partneriaeth a chymorth corfforaethol i ofal cymdeithasol plant a bod hyn yn gofyn am ddull Cyngor cyfan.

 

Amlygodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ddau faes penodol o bryder. Un oedd breuder parhaus y gweithlu gofal cymdeithasol lle'r oedd ymdrechion sylweddol wedi'u gwneud ac yn parhau i gael eu gwneud i gadw a recriwtio gweithlu gofal cymdeithasol plant o safon uchel sy'n cael ei gefnogi'n dda ac sy’n llawn cymhelliant. Yr ail faes yr oedd angen ei wella ar frys oedd cam-fanteisio troseddol ac arfer yn y maes hwn. Byddai adroddiadau pellach yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet ar y gwaith hwn. Ychwanegodd y byddai archwiliad o gynnydd yn erbyn y cynllun strategol 3 blynedd yn cael ei gynnal yn ystod gwanwyn a haf 2023 ac y byddai cynllun wedi’i adnewyddu’n cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Medi 2023.

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r staff gan na fyddai wedi bod yn bosibl cyflawni hyn heb ymroddiad y staff, gan gynnwys staff asiantaeth.

 

Ategodd yr Arweinydd y sylwadau hyn a diolchodd i'r staff am weithio'n hynod o galed. Roedd y llwyth achosion yn fawr, ac roedd staff wedi ymateb i'r her. Nododd AGC feysydd i’w gwella ond hefyd nifer o gryfderau ym mhob maes. Diolchodd hefyd i gydweithwyr ar draws y Siambr gan gynnwys Arweinwyr Gr?p a Chadeirydd y Pwyllgor Craffu. Gofynnodd am un maes penodol a oedd wedi’i nodi ar gyfer gwelliant, sef y gwaith sy’n cael ei wneud gan y Tîm Lles Emosiynol Ieuenctid. Nododd fod rhai gwelliannau wedi'u gwneud a bod y rhestr aros wedi lleihau'n sylweddol. Nid cyfrifoldeb yr awdurdod yn unig oedd y cam  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 168