Issue - meetings

Medication Policy (check title)

Cyfarfod: 11/04/2023 - Cabinet (Eitem 169)

169 Polisi Meddyginiaeth pdf eicon PDF 229 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles adroddiad yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r Polisi Meddyginiaeth fel sy'n ofynnol dan Ddeddf Cofrestru ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA). Eglurodd ei fod yn bolisi pwysig o ran gwasanaethau gofal cymdeithasol rheoledig a bod y polisi’n cwmpasu'r holl wasanaethau gofal rheoledig a ddarperir fel Cyngor megis cartrefi gofal preswyl i blant ac oedolion. Roedd y polisi wedi bod yn destun ymgysylltu sylweddol â chydweithwyr yn y GIG a fferyllwyr a oedd yn amlwg yn arbenigwyr ym maes meddyginiaeth.

 

Nododd y Dirprwy Arweinydd fod hwn yn waith lle’r oedd mentro ynghlwm ag ef a gyflawnwyd gan yr aelodau staff ar y cyflogau isaf a’i fod yn faes o bryder. Byddai hyn yn gwarchod eu lles a'u diogelwch a'r Cyngor. Ychwanegodd y byddai'r holl gostau'n cael eu talu o'r cyllidebau presennol.

 

Roedd yr Arweinydd yn hapus i weld rhan yr arbenigwyr yn y maes hwn wrth ddatblygu a rhoi’r polisi ar waith.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet Adfywio gyda phwy yr ymgynghorwyd wrth ddatblygu'r polisi. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod datblygiad y polisi wedi'i arwain gan Dîm Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol y fferyllfa, y gweithlu, Undebau Llafur a rheolwyr cofrestredig.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at gwmpas y polisi a'r gwasanaethau yr oedd ganddynt gyfrifoldeb amdanynt nad oeddent yn cael eu rheoleiddio megis ysgolion arbennig. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, o ran ysgolion arbennig, y byddai ganddynt eu polisïau eu hunain o ran meddyginiaeth.

 

PENDERFYNWYD : Cymeradwyodd y Cabinet y Polisi Meddyginiaeth i'w roi ar waith ar draws Gwasanaethau Rheoledig o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.