Issue - meetings

Planning Update - 20 Minute Neighbourhoods

Cyfarfod: 29/08/2023 - Fforwm Cyngor Tref a Chymuned (Eitem 17)

17 Diweddariad Cynllunio - Cymdogaethau 20 Munud pdf eicon PDF 222 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad hwn gan Reolwr y Gr?p, Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu, er mwyn rhoi gwybodaeth am y cysyniad o gymdogaethau 20 munud, sydd wedi'i ymgorffori yn y Cynllun Datblygu Lleol newydd.

 

Dywedodd fod y cymdogaethau 20 munud wedi'u cynllunio i ganiatáu i bobl gael mynediad at gyfleusterau fel ysgolion, siopau, gofod hamdden, cyfleusterau iechyd, yn gyffredinol o fewn taith gerdded neu feicio 20 munud o'u cartrefi. Dywedodd fod y cysyniad wedi hen ennill ei blwyf ym maes cynllunio trefol a'i fod yn cael ei ystyried yn elfen allweddol o'r hyn a ddisgrifir fel enghraifft o greu lleoedd da ac amgylcheddau da.

 

Ychwanegodd nad yw'n syniad newydd. Yn hanesyddol, gwelwyd bod mwy o symudedd personol yng nghanol yr ugeinfed ganrif, lle roedd cymdogaethau traddodiadol yn y DU yn darparu ystod o wasanaethau lleol a oedd yn hawdd eu cyrraedd ar droed.

Hyd yn oed gyda’r ehangu mawr mewn tai cymdeithasol ar ôl y rhyfel, roedd siopau, ysgolion, cyfleusterau iechyd, ardaloedd hamdden, mannau agored i gyd wedi'u hymgorffori yng ngwead y datblygiadau hyn.

 

Aeth ymlaen i ddweud mai'r gwahaniaeth oedd yn rhan ola'r ugeinfed ganrif, dechrau'r unfed ganrif ar hugain, roedd tai yn cael eu datblygu o amgylch seilwaith ffyrdd cynyddol oedd yn rhoi blaenoriaeth i gerbydau modur, a hynny ar draul opsiynau teithio di-gar yn aml iawn.

Mewn enghreifftiau eraill, nid o reidrwydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, roedd ystadau tai cyfan yn cynnwys cyfleusterau newydd ar y safle a oedd ond yn ddiogel i'w cyrraedd â char. Gwnaed datblygiadau o'r fath yn unol â'r polisïau cynllunio neu'r polisïau cynllunio dadreoleiddio dros y cyfnod.

 

Nod polisi Cynllunio Cenedlaethol yw newid y dull a fu yn gyffredin dros yr 20 mlynedd diwethaf drwy roi mwy o bwyslais ar flaenoriaethu teithio llesol ac opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus dros geir. Rhan o hyn yw'r cysyniad o'r gymdogaeth 20 munud.

 

Mae yna ymwybyddiaeth sylweddol o newid hinsawdd hefyd a gwir angen i leihau'r ddibyniaeth ar ddulliau trafnidiaeth sy'n seiliedig ar garbon. Mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wedi datgan argyfwng hinsawdd.

Cafodd y pandemig effaith gymdeithasol ddwys ar amgylcheddau pobl ac roedd y cyfnodau clo yn gyfle i archwilio'r berthynas â'r amgylchedd lleol a'r angen am amwynder a mannau agored mwy lleol.

 

Dywedodd fod ansawdd yr ardal yn rhan sylfaenol o greu lleoedd o ansawdd da.

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, roedd yr ardaloedd wrth ymyl neu'n agos at aneddiadau sefydledig gan fod hyn yn caniatáu mynediad hawdd i gyfleusterau presennol trwy deithio llesol.

 

Hefyd, o fewn y datblygiadau newydd hyn, dylid darparu cyfleusterau gan gynnwys ysgolion cynradd, mannau agored, seilwaith gwyrdd gan eu bod yn rhan o agwedd bwysig unrhyw ddatblygiad newydd a bydd y cyfleusterau hyn yn cael eu hyrwyddo a'u rheoli drwy'r broses cynllunio datblygu lleol.

 

Dywedodd Rheolwr y Gr?p na ddylid trin y cysyniad fel yr ateb i bob problem ac nad oedd wedi'i gynllunio i atal pob siwrnai car. Dywedodd y byddai'n cymryd amser ac yn gorfod cael ei ategu gan seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd da. Byddai'r Cysyniad  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 17


Cyfarfod: 17/07/2023 - Fforwm Cyngor Tref a Chymuned (Eitem 4.)

4. Diweddariad Cynllunio - Cymdogaethau 20 Munud pdf eicon PDF 222 KB

Dogfennau ychwanegol: