18 Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
PDF 471 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynwyd yr adroddiad hwn gan y Pennaeth Gweithrediadau, Gwasanaethau Cymunedol, a'i ddiben oedd diweddaru Fforwm y Cyngor Tref a Chymuned ar Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig a chyfres o gronfeydd grant sydd ar gael fel rhan o'r rhaglen gyflawni ar gyfer Cynllun Buddsoddi Lleol Pen-y-bont ar Ogwr drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Dywedodd ei fod yn gefndir byr i'r rhaglen gyflenwi ar gyfer elfen Pen-y-bont ar Ogwr yn rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gan amlinellu'n benodol nifer o gronfeydd grant a fydd ar gael. Tynnodd sylw'r Fforwm at nifer o oblygiadau, ymadawiad y DU â'r UE ar 31 Ionawr 2020, colli mynediad at raglenni cyllido, gan gynnwys Cronfeydd Buddsoddi Strwythurol Ewrop yn dilyn Brexit.
Hefyd, tynnodd sylw’r Fforwm at ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddisodli cyfleoedd cyllido Ewropeaidd coll dan ‘ffyniant bro’. Creu Cronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) oedd un o brif ganlyniadau'r addewid hwnnw gyda 2.6 biliwn wedi'u dyrannu ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn Mawrth 25 ledled y DU.
Dywedodd fod yr adroddiad yn amlinellu camau datblygu cynllun buddsoddi Lleol Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer SPF (Atodiad 1 i'r adroddiad y cyfeirir ato)
Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau, Gwasanaethau Cymunedol fod
adran 2 yn dangos sut oedd yn cael ei greu i gyd-fynd â
blaenoriaethau buddsoddi a themâu'r gronfa Ffyniant
Gyffredin, ynghyd â strategaeth economaidd a chynlluniau
buddsoddi'r Awdurdod.
Dywedodd mai prif themâu'r awdurdod oedd cymuned a lle, cefnogi busnesau a phobl leol, gyda sgiliau fel prif ganolbwynt y cynllun buddsoddi.
Cafodd y cynlluniau a gyflwynwyd i lywodraeth y DU eu gwneud yn rhanbarthol ar gyfer awdurdodau De-ddwyrain Cymru, gyda Rhondda Cynon Taf fel yr awdurdod arweiniol.
Amlygodd Adran 3 yr adroddiad sut y gellir darparu meysydd buddsoddi o fewn y cynllun mewn sawl ffordd ac maen nhw'n cynnwys darparu mewnol, comisiynu a chaffael gan ganolbwyntio ar ddyrannu cronfeydd grant.
Dywedodd fod yr adroddiad yn amlygu ffrydiau cronfa grantiau unigol a'r gwerthoedd a sefydlwyd neu sy'n cael eu sefydlu i gyflawni elfen Pen-y-bont ar Ogwr o'r gronfa ffyniant gyffredin. Cafodd y cynlluniau grant eu cyflwyno gerbron y Cabinet a’u cymeradwyo ym mis Mehefin eleni. Wedi'i nodi ym mhrif gorff yr adroddiad o dudalennau 58 hyd at 61 y Cynlluniau Grant mae Grant Gwella Eiddo Creu Lleoedd Cymoedd Pen-y-bont ar Ogwr, yr Arolwg Eiddo Gwag, y Gronfa Ddichonoldeb Cymunedol, y Grant Datblygu Busnes, y Grant Dichonoldeb Busnes ac yn olaf y Grant Cymorth Digwyddiadau Twristiaeth.
Mae'r manylion am Grant Gwella Eiddo Creu Lleoedd a grant yr Arolwg Eiddo Gwag ar wefan y Cyngor, gydag arweiniad ar ffurflenni cais. Roedd y grant datblygu busnes a'r grant dichonoldeb busnes hefyd ar y wefan ynghyd â'r dogfennau cyfarwyddyd.
Holodd aelod pryd fydd grantiau eraill ar gael a beth fyddai'r dyddiadau cau, gofynnodd hefyd am waith hyrwyddo a wnaed i addysgu'r cyhoedd am y cynlluniau.
Ymatebodd y Pennaeth Gweithrediadau, Gwasanaethau Cymunedol fod yr adroddiad wedi'i gyflwyno i'r Cabinet ym mis Mehefin 2023 a'i fod yn cyd-fynd â nifer o eitemau ar y cyfryngau yn tynnu sylw at gynnwys adroddiad y Cabinet. Datblygwyd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 18
5. Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig
PDF 471 KB
Dogfennau ychwanegol: