Issue - meetings

Land at primrose stables, old coachmans lane, Court Colman, Bridgend

Cyfarfod: 27/07/2023 - Pwyllgor Datblygiad a Rheoli (Eitem 130)

130 P/22/484/FUL - Tir yn Primrose Stables, Old Coachman’s Lane Court Colman, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4NG pdf eicon PDF 678 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:              Caniatáu’r cais uchod, gyda’r Amodau oedd wedi eu cynnwys yn adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol– Cymunedau.

Cynnig

 

Defnyddio’r tir fel iard letya personau sioe deithiol ar gyfer aelodau’r teulu i gynnwys tri llety / carafán symudol, dwy ystafell ddydd gyffredin a gwaith cysylltiedig.

 

Yn amodol ar newid Amod 20 yr adroddiad fel a ganlyn:-

 

20.       Ni chaiff unrhyw waith datblygu ddigwydd hyd nes y bydd Cynllun Rheoli Gwastraff wedi cael ei gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol, i gadw rheolaeth, rheoli, storio a chael gwared ar unrhyw ddeunydd gwastraff a gynhyrchir yn ystod y gwaith o glirio ac adeiladu a chael gwared ar wastraff domestig a gynhyrchir gan y datblygiad unwaith y bydd wedi ei gwblhau. Rhaid trin yr holl wastraff yn unol â’r cynllun gwastraff a gytunwyd.

 

Rheswm: Er mwyn sicrhau y ceir gwared ar unrhyw wastraff sy'n deillio o'r datblygiad yn briodol o ran diogelu'r amgylchedd a sicrhau bod egwyddorion cynaliadwyedd yn cael eu mabwysiadu yn ystod y datblygiad ac yn cydymffurfio â Pholisi ENV15 Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr.