Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

45.

Datgan Buddiannau

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2014.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd JR McCarthy ddiddordeb arbennig yn eitem Agenda 8, yn rinwedd ei swydd fel Dirprwy Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-Y-Bont Ar Ogwr.

46.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 70 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 18/01/2018

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                 Cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Archwilio ar 18 Ionawr 2018 fel rhai gwir a chywir.

47.

Cynllun Archwilio Blynyddol yr Archwilio Allanol 2017-18 pdf eicon PDF 282 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad, a’i ddiben oedd cyflwyno Cynllun Archwilio Blynyddol yr Archwilydd Allanol 2017-18, ynghyd â rhestr o lofnodwyr grant awdurdodedig ar gyfer y Cyngor i’w nodi.

 

Amlinellwyd elfennau allweddol ymgysylltiad archwilio yr Ymchwilydd a benodwyd yn Atodiad A yr adroddiad, 

 

Cadarnhaodd Mr. John Llewellyn o Swyddfa Archwilio Cymru mai diben y Cynllun oedd rhestru'r gwaith arfaethedig, pryd roedd e i'w wneud, faint y byddai'n costio ac yn olaf pwy oedd yn mynd i ymgymryd ag ef.

 

Dywedodd fod y Cynllun hefyd yn amlinellu Archwiliad Perfformiad, Ardystio Hawliadau a Dychweliadau Grant, yn ogystal â gwaith arall penodol y cymerwyd ag ef.  

 

Wedi’i atodi yn Atodiad B i’r adroddiad roedd y rhestr o lofnodwyr grant awdurdodedig er mwyn nodi dibenion.

 

Cyfeiriodd Mr Llewellyn yr Aelodau at dudalen 15 y Cynllun Archwilio ac Arddangosyn 2, a grynhodd mewn fformat tabl y risgiau archwilio ariannol allweddol a nodwyd ar gam cynllunio’r archwiliad, o ran gwariant ar fudd-daliadau tai, cysoniadau Banc, datgeliadau partïon perthynol a Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Hefyd rhoddodd yr adran hon o Atodiad A ymatebion yr archwiliad arfaethedig i’r risgiau hyn a amlygir.  Ychwanegodd fod hawliadau a brofwyd mewn perthynas â’r Cyfrifon Blynyddol Budd-Dal Tai wedi bod yn gadarnhaol o’u cymharu â phroses profi debyg yr ymgymerwyd â hi y llynedd, a ddatgelodd fod rhai hawliadau wedi’u prosesu’n anghywir. Ychwanegodd nad oedd archwiliad y Fargen Ddinesig yn faterol i gyfrifon 2017/18, er y byddai hyn lawer fwy perthnasol  i gyfrifon 2018/19 gan fod projectau yn symud ymlaen fel rhan o’r fenter. 

 

Nododd Aelod ei fod yn awyddus i archwiliad gael ei wneud gan y gwasanaeth Mewnol a Rennir, yn ogystal ag un sy’n cael ei wneud gan awdurdod blaen Cyngor Dinas Caerdydd a/neu Cydbwyllgor Bargen Ddinesig Caerdydd, er mwyn sicrhau bod atebolrwydd yn cael ei ddangos gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel Awdurdod sy’n cymryd rhan gan ymwneud â chynllun y Fargen Ddinesig.

 

Wedyn aeth Sarah-Jane Byrne, sydd hefyd o Swyddfa Archwilio Cymru â’r Aelodau trwy weddill atodiadau’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:                    Bod Aelodau’n nodi cynnwys Cynllun Archwilio Blynyddol yr Archwilydd Allanol 2017-18 a atodir yn Atodiad A i'r adroddiad a'r atodlen o lofnodwyr grant awdurdodedig a atodir ar Atodiad B.    

48.

Ardystio Grantiau a Dychweliadau 2016-17 pdf eicon PDF 283 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Mark Jones a John Llewellyn o Swyddfa Archwilio Cymru adrodd ar y cyd ar ran y Prif Weithredwr, sydd â’r diben o gyflwyno adroddiad Archwilydd Allanol y Cyngor ar y gwaith grant yr ymgymerwyd ag ef am y cyfnod 2016-17.

 

Er mwyn rhoi gwybodaeth cefndir cadarnhaodd y Swyddogion  y gofynnir i Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) fel archwilwyr a benodwyd gan y Cyngor, ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, i ardystiol hawliadau grant mwy a wnaed gan y Cyngor.  Ar gyfer 2016-17, gwnaethant archwilio 14 o hawliadau grant a dychweliadau, gyda gwerth cyfanswm o £123 miliwn (15 o hawliadau grant gyda gwerth cyfanswm o £121 miliwn yn 2015-16).

 

Rhoddodd yr adroddiad grynodeb o bob hawliad a dychweliad sy'n destun ardystio yn Atodiad A a atodir, ynghyd â’r ffi ardystio a canlyniad adolygiad yr Archwilydd Allanol.

 

Crynhodd paragraff 4.2 yr adroddiad y canlyniadau ardystio, a rhoddodd Swyddogion o SAC grynodeb o’r rhain er budd yr Aelodau.  Cadarnhawyd bod y canlyniadau ardystion yn cymharu’n dda â chfartaledd Cymru gyfan.

 

Dywedwyd wrth aelodau bod dim ond un addasiad sylwedd a oedd o ganlyniad i gyfrifiad anghywir o’r Darpariaeth am Ddyled Drwg ar gyfer Ardollau Annomestig. Nodwyd fodd bynnag, bod hyn yn effeithio ar yr incwm i Lywodraeth Cymru ac nid ar unrhyw gyllid sy’n daliadwy i‘r Cyngor. Arweiniodd effaith net yr addasiadau grant eraill ar gynnydd o £75 i’r Cyngor.

 

Wedyn cyfeiriwyd yr Aelodau i baragraff 4.4 o’r adroddiad, lle y gwnaeth yr Archwilwyr Allanol wedi gwneud 3 argymhelliad o ran y Ardystio Grantiau a Dychweliadau 2016-17.

 

PENDERFYNWYD:                  Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys Adroddiad yr Archwilydd Allanol ar y gwaith grant yr ymgymerwyd ag ef ar gyfer 2016-17, wedi'i atodi ar Atodiad A i’r adroddiad.     

49.

Ffurflen Cymhorthdal Budd-Dal Tai 2016/17 pdf eicon PDF 116 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Adran 151 adroddiad, er  mwyn rhoi gwybod i'r Pwyllgor o'r gweithgarwch gwirio a hyfforddi a wnaed hyd yn hyn, a chamau a gynllunnir ar gyfer 2018, er mynd i'r afael â’r materion a nodwyd yn ystod archwiliad cymhorthdal Budd-Dal Tai 2016/17.

 

Fel gwybodaeth gefndirol, dywedodd bod yr archwiliad uchod wedi datgelu nifer o faterion prosesu a oedd wedi effeithio ar gywirdeb yr hawliad am gymhorthdal. Amlinellwyd y rhain ym mharagraff 3.1 yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid dros dro a'r Swyddog Adran 151 fod camau i fynd i’r afael â’r materion hyn wedi dechrau yn ystod yr archwiliad a bod adrannau nesaf  yr adroddiad, o baragraffau 4.2 i 4.17 yn rhoi manylion o'r problemau a brofwyd, a'r camau a gwblhawyd neu a gynlluniwyd ar gyfer 2018/19 er mwyn gwella cywirdeb y prosesau gwaith hyn yn y dyfodol.

 

Roedd y rhain mewn perthynas â meysydd canlynol Budd-daliadau Tai:-

 

·         Arweiniad/hyfforddiant cyffredinol

·         Materion rhent a nodwyd

·         Pensiynau galwedigaethol/incwm a enillir a

·         Phroses gwirio cymorthdaliadau

 

Rhoddwyd manylion am Gynllun Hyfforddi a ddyfeisiwyd i ganolbwyntio ar y materion penodol yn Atodiad 1, ac roedd Atodiad 2 yn cynnwys y cynllun gwirio lefel uchel yr ymgymerir ag ef ar gyfer hawliad cymhorthdal 2017/18.

 

Wedyn cwblhaodd y Pennaeth Cyllid dros dro a’r Swyddog Adran 151 ei chyflwyniad trwy gyfeirio at oblygiadau ariannol yr adroddiad.

 

Gofynnodd Aelod pam roedd gwall ar y lefel hon wedi'i ddatgelu ar yr adeg hon yn 2016/17, h.y. a oedd materion o ran capasiti gyda lefelau staffio yn yr adran ar y pryd neu unrhyw reswm/resymau a nodwyd gan y Swyddogion.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid dros dro a’r Swyddog Adran 151 y bu gostyngiad mewn lefelau staffio yn yr adran Budd-Dal Tai, fel y bu yn y rhan fwyaf o wasanaethau yn y Bwrdeistref Sirol yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf , a byddai hyn wedi peri pwysau ychwanegol i staff.  Fodd bynnag, roedd y prif broblemau yn yr adran Budd-daliadau Tai yn perthyn i wallau wrth gamddehongli'r system. Fodd bynnag, rhoddwyd prosesau gwirio llym ar waith bellach er mwyn sicrhau y câi’r math hwn o wall ei ddileu neu o leiaf ei leihau’n sylweddol  yn y dyfodol oherwydd yr holl gynlluniau gwirio a gafodd eu rhoi ar waith neu a oedd yn y broses o gael eu rhoi ar waith. Ychwanegodd nad oedd y camgymeriadau a amlinellwyd yn yr adroddiad wedi deillio o wallau esgeulus cyffredin.

 

PENDERFYNWYD:                 Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad.   

50.

Ymchwiliadau i Dwyll o ran Lleihau’r Dreth Gyngor: Mis Ebrill 2017 hyd at Fis Mawrth 2018 pdf eicon PDF 82 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid dros dro a’r Swyddog Adran 151 adroddiad, a roddodd wybod i’r Aelodau o’r gweithgareddau yr ymgymerwyd â nhw yn ystod 1 Ebrill 2017 i 31 Mawrth 2018, mewn perthynas ag ymchwiliadau twyll o ran Lleihau'r Dreth Gyngor (CTR) Yn ogystal, crynhodd yr adroddiad y canlyniadau a gyflawnwyd yn ystod 2017/18, o’i gymharu â’r sefyllfa o fis Tachwedd 2015 tan fis Mawrth 2017 (yn y bôn fel proses newydd, mae’r cyfnod hwn yn ymwneud â blwyddyn gyntaf ymchwiliadau CTR yn unig.)

 

Rhoddodd yr adroddiad rywfaint o wybodaeth gefndirol, yn benodol wrth ystyried y Gwasanaeth Ymchwil Twyll Sengl, ac esboniodd fod y rhan fwyaf o'r Tîm Ymchwilio i Dwyll bellach wedi'i drosglwyddo i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) heblaw am un Swyddog Twyll a oedd wedi aros gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Wedyn cyfeiriodd at Dabl 1 ym mharagraff 4.3 yr adroddiad, a ddarluniodd ffynhonnell atgyfeiriadau twyll yn ystod yr adegau perthnasol a amlinellir yn y tabl hwn. Cafodd 41% o’r atgyfeiriadau twyll hyn eu cychwyn drwy ymarfer adolygu hawliad. Roedd y System Adolygu Hawliadau newydd ei chyflwyno wedi caniatáu’r Awdurdod i gael mynediad at fwy o wybodaeth am bobl a oedd o bosibl yn camddefnyddio hawliadau, na'r hyn a oedd yn wir o'r blaen.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid dros dro a’r Swyddog Adran 151 y cafodd bron 33% o’r atgyfeiriadau eu derbyn trwy’r cyhoedd, ac roedd y mwyafrif o’r rhain yn perthyn i fudd-daliadau’r DWP neu Fudd-daliadau Tai. Ychwanegodd, yn ystod 2017/18, atgyfeiriodd Ymchwilydd Twyll y Cyngor 63 o achosion i’r DWP.

 

Darluniodd y Tabl(ie2) a ddangoswyd ym mharagraff 4.7 yr adroddiad ddadansoddiad o’r mathau ar honiadau a gafodd eu hatgyweirio yn ystod yr adeg yr amlinellwyd yn y tabl, ie mis Tachwedd 2015-mis Mawrth 2017.

 

Wedyn cadarnhaodd paragraff 4.9 o'r adroddiad, yn ystod 2017/18, cafodd 82 o achosion eu cau (o’u cymharu â 91 ar gyfer y cyfnod uchod), a rhoddwyd manylion am y categorïau cau yn Nhabl 3 yn y rhan hon o’r adroddiad.

 

Wedyn cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid dros dro a’r Swyddog Adran 151 at Dabl 4 ym mharagraff 4.11 yr adroddiad a ddarparwyd y CTR a mân arbedion o ran Budd-Dal Tai a gyflawnwyd o ganlyniad i'r ymchwiliadau i dwyll a gwblhawyd yn ystod yr adegau perthnasol.

 

Dangosodd Tabl 5 ym mharagraff 4.13 yr adroddiad y cosbau a’r dirwyon a ddosbarthwyd yn yr adeg berthnasol a ddangosir, ac yn ogystal â’r rhian, mae’r Ymchwilydd Twyll hefyd wedi codi cosbau gweinyddu sy’n dod i gyfanswm o £11,859 (£6,253 yn 2016/17), yn dilyn ymchwiliadau DWP i hawliadau am Fudd-Dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor.  

 

PENDERFYNWYD:                   Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad.

51.

Archwiliad Mewnol – Adroddiad Alldro Terfynol – mis Ebrill 17 i fis Mawrth 18 pdf eicon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol adroddiad, a gyflwynodd i’r Pwyllgor Strategaeth Archwilio Mewnol a Chynllun Archwilio Blynyddol y Cyngor sy’n seiliedig ar Risg am y flwyddyn o fis Ebrill 2018 i fis Mawrth 2019.

 

Wedi’i atodi yn Atodiad A i’r adroddiad oedd y ddogfen Strategaeth Archwilio Mewnol ddrafft ar gyfer 2018/19. Dangosodd hon sut y caiff y Gwasanaeth Archwilio Mewnol ei ddarparu a'i ddatblygu, yn unol â'r Cylch Gorchwyl perthnasol a sut mae’n cysylltu ag amcanion a blaenoriaethau’r Cyngor. Câi’r Strategaeth ei hadolygu a’i diweddaru’n flynyddol, mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid, sef y Pwyllgor Archwilio, y Bwrdd Rheoli Corfforaethol, Archwilwyr Allanol a’r Uwch Reolwyr.

 

Ychwanegodd y Prif Archwilydd Mewnol y cafodd y Cynllun gwaith Blynyddol Drafft sy'n Seiliedig ar Risg ei ffurfio i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r Safonau fel sy’n gynwysedig yn y PSIAS. Ychwanegodd ymhellach, er mwyn rhoi’r wybodaeth lawn i Aelodau’r Pwyllgor Archwilio,  a sicrhau cydymffurfiaeth â’r Safonau ar gyfer Archwiliad Mewnol, cafodd y Cynllun drafft manwl ei atodi i'r adroddiad ar atodiad B.

 

Wedyn cyfeiriodd y Prif Archwilydd Mewnol yr Aelodau at yr archwiliadau a gafodd eu cynnal rhwng y cyfnod uchod yng gwasanaethau gwahanol y Cyfarwyddiaethau a nodwyd felly, ac wedyn gan gyfeirio yn ôl i Atodiad A, soniodd am yr archwiliadau hynny a nododd rhywfaint o Wendidau sylweddol o ran Rheolaeth Fewnol, i'r graddau na ellid darparu unrhyw sicrwydd ar yr amgylchedd rheoli mewnol yn gyffredinol.   Roedd hyn wedi arwain at waith gyda’r Pwyllgor Elusennau yn dod i ben hyd nes i gyfarfod gael ei drefnu rhwng y Pwyllgor a Phrif Weithredwr y Cyngor yngl?n â’r ffordd ymlaen. Ychwanegodd y Prif Archwilydd Mewnol ymhellach, y prif bryder oedd trefniadau llywodraethu’r Pwyllgor Elusennau a oedd yn hynod wan.

 

Roedd yr ail archwiliad o’i fath a roddodd sicrwydd cyfyngedig yn unig ar waith o ran Gwireddu Grantiau SWTRA, a chyfeiriodd y Prif Archwilydd Mewnol at dudalen 89 yr adroddiad, lle y cafodd tri mater allweddol eu hamlygu i fynd i’r afael â nhw, ac ymhelaethodd ar y rhain er budd yr Aelodau. 

 

Wedyn cyfeiriodd y Prif Archwilydd Mewnol at yr archwiliad ar yr Asiantaeth Ysgolion yr ymgymerwyd ag ef ym mis Ebrill 2016 gyda gwaith dilynol ym mis Mehefin 2017, â’r ddau wedi arwain at gyhoeddi adroddiadau Sicrwydd Cyfyngedig.    Gan fod risgiau posibl yn codi o ganlyniad yr archwiliadau hyn, ymgymerwyd ag adolygiad, er mwyn sicrhau bod yr argymhellion a gytunwyd gan y rheolwyr wedi’u gweithredu mewn ymdrech i leihau'r risgiau hyn. Cafodd y rhain eu hamlinellu yn adran hon yr adroddiad.

 

Aeth ymlaen drwy gadarnhau bod yr adolygiad dilynol cyfredol yn cadarnhau bod nifer o argymhellion yn weddill, gan nodi’r meysydd pryder canlynol:-

 

  • Defnydd isel ar y darparwyr cymeradwy, sef New Directions
  • Dim monitro o wariant/defnydd ar lefel ganolog
  • Dim sicrwydd o gydymffurfio â Rheolau Gweithdrefnau Contract mewn perthynas â chaffael
  • Dim sicrwydd o’r gwiriadau gofynnol yn cael eu cynnal gan yr asiantaethau

 

Wedyn, gwahoddwyd y Pennaeth Addysg a Rheolwr y Gr?p Gwella Ysgolion i’r cyfarfod er mwyn rhoi esboniad o pa gamau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 51.

52.

Siarter Gwasanaeth a Rennir Archwilio Mewnol 2018/19 pdf eicon PDF 57 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol adroddiad, a gyflwynodd i Aelodau Siartrer Gwasanaeth a Rennir Archwilio Mewnol y Cyngor ar gyfer 2018/19.

 

Dywedodd wrth Aelodau, ar 1 Ebrill 2013, daeth Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS) i rym a disodlodd Cod Ymarfer i Archwilwyr Mewnol y Sefydliad  Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifreg (CIPFA).

 

Un o’r rolau allweddol a ddangosodd amryfusedd y Pwyllgor Archwilio yw cymeradwy’r Siarter Archwilio Mewnol, a gymeradwywyd ar gyfer y cyfnod 2013/14 yn ei gyfarfod ar 21 Mawrth 2013.

 

Parhaodd trwy ddweud bod y PSIAS yn gofyn i Bennaeth Archwilio i adolygu’r Siarter yn achlysurol, er bod y gymeradwyaeth derfynol yn aros gyda’r Pwyllgor Archwilio. Roedd Siarter Gwasanaeth ar Rennir Archwilio Mewnol ar gyfer 2018/19 wedi’i atodi i’r adroddiad yn Atodiad A. Cafodd ei adolygu er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i adlewyrchu gofynion y PSIAS.

 

Gan gyfeirio at y Siarter a ddiweddarwyd, dywedodd y Prif Archwilydd Mewnol fod y newidiadau ar dudalennau 107, (gydag ychwanegiad y baragraff olaf ond un a’r pwyntiau bwled); tudalen 108 pan oedd yr Amcanion Sefydliadol blaenorol bellach yn Amcanion y Cyngor, tudalen 109 lle y cafodd paragraffau 1.10 trwodd i 1.17 yn gynhwysol eu hychwanegu.  Yn olaf, bu hefyd newid o ran paragraff 3.6 ar dudalen 115, lle y datganodd bellach fod rhaid i Bennaeth Archwilio Mewnol feddu ar gymhwyster proffesiynol, wedi’i ddiffinio fel CCAB, CMIIA neu aelodaeth broffesiynol gyfwerth a glynu at werthoedd proffesiynol a’r Cod Moeseg ayyb.

 

PENDERFYNWYD:                Bod Aelodau’n ystyried ac yn cymeradwyo Siarter Gwasanaethau a Rennir Archwilio Mewnol ar gyfer 2018/19 fel yr atodir i’r adroddiad yn Atodiad A.

53.

Strategaeth Archwilio Mewnol a Chynllun Archwilio Blynyddol sy’n Seiliedig ar Risg mis Ebrill 2018 tan fis Mawrth 2019 pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Amlinellodd y Prif Archwilydd Mewnol adroddiad, a gyflwynodd i’r Pwyllgor Strategaeth Archwilio Mewnol a Chynllun Archwilio Blynyddol y Cyngor sy’n seiliedig ar Risg am y flwyddyn o fis Ebrill 2018 i fis Mawrth 2019.

 

Esboniodd y caiff gofynion adnoddau eu hadolygu bob blwyddyn fel rhan o’r broses cynllunio archwilio a’u trafod gyda Bwrdd Gwasanaethau a Rennir Archwilio Mewnol (IASSB).

 

Dywedodd ymhellach, yn dilyn ailstrwythuro staff yn 2017/18, seiliwyd y sefydliad presennol ar gyfer 2018/19 yn seiliedig ar 14 o staff gyfwerth ag amser llawn.  Fodd bynnag, ar hyn o bryd, dylai Aelodau nodi bod yr Adran yn cario tua 50% o ran swyddi gwag. Wrth ystyried hyn, esboniodd y Prif Archwilydd Mewnol ei fod yn bwysig bod yn gall wrth geisio pennu nifer y diwrnodau cynhyrchio a allai gael eu cyflawni’n realistig ar gyfer 2018/19.

 

Felly roedd y canlynol yn dybiaethau a gafodd eu gwneud ar gyfer 2018/19:-

 

  1. Chwarter 1 a 2 – Mae’r statws yn parhau yr un peth ar gapasiti o 50%;

 

  1. Chwarter 3 a 4 – Bydd statws yn cynyddu i uchafswm o gapasiti o 70%

 

Ychwanegodd y Prif Archwilydd Mewnol, er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg adnoddau, rhagwelir unwaith eto y byddai gwasanaethau Partneriaeth Archwilio’r de-Orllewin yn cael eu comisiynu i helpu i gynorthwyo gyda chymryd unrhyw ddiffyg gwaith a gynllunnir ond nad ymgymerwyd ag ef wedi hynny. 

 

Ynghyd â materion eraill  megis cynlluniau am ymestyn y Gwasaneth Archwilio Mewnol a Rennir, gyda’r cynllun arfaethedig a ddarparwyd am hyd at 1,000 o ddiwrnodau cynhyrchiol yn cael eu cyflwyno yn ystod 2018/19

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor i Atodiad A yr adroddiad a oedd yn cynnwys y ddogfen Strategaeth Archwilio Mewnol drafft ar gyfer 2018/19. Câi’r Strategaeth ei hadolygu a’i diweddaru bob blwyddyn mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid allweddol, ychwanegodd.

 

Cafodd y Cynllun gwaith Blynyddol Drafft sy'n Seiliedig ar Risg 2018/19 ei ffurfio i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r Safonau fel sy’n gynwysedig yn y PSIAS. Er mwyn rhoi’r wybodaeth lawn i Aelodau’r Pwyllgor Archwilio,  a sicrhau cydymffurfiaeth â’r Safonau ar gyfer Archwiliad Mewnol, cafodd y Cynllun drafft manwl ei atodi i'r adroddiad ar atodiad B.

 

Roedd Aelod o’r farn, oherwydd y problemau parhaus yngl?n â recriwtio Archwilwyr, y byddai rhoi gwaith archwilio yn y dyfodol yn cael ei wneud ar  ddull sy’n seiliedig ar risg, h.y. po uchaf lefel y risg y gwasanaeth sy’n cael ei archwilio y fwyaf o flaenoriaeth y dylid ei rhoi i’r maes hwn yn cael ei archwilio.    

 

Ychwanegodd Aelod y dylai meysydd risg yr Awdurdod yn cael ei fonitro’n rheolaidd o ystyried y diffyg o ran lefelau staff, ynghyd â’r broblem o ran recriwtio a/neu gadw staff archwilio. 

 

PENDERFYNWYD:                  (1) Bod y Pwyllgor yn ystyried ac yn cymeradwyo’r Strategaeth Archwilio Mewnol drafft a’r Cynllun Archwilio Blynyddol sy’n seiliedig ar Risg ar gyfer 2018/19. 

 

                                       (2) Bod Aelodau’n dymuno i’w pryderon gael ei roi ar cofnod o ran yr anhawster wrth recriwtio a/neu gadw staff archwilio gyda chymwysterau proffesiynol.

54.

Rhaglen Waith Blaen a Ddiweddarwyd 2017/18 a Rhaglen Waith Blaen Arfaethedig ar gyfer 2018/19 pdf eicon PDF 59 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol adroddiad, a ategodd yn Atodiadau A  a B, yr Atodlen ar gyfer Cyfarfodydd Pwyllgor a Rhaglenni Gwaith Blaen ar gyfer 2017/18 (diweddarwyd) a 2018/19 (arfaethedig), yn ôl eu trefn.  

 

PENDERFYNWYD:                  Bod y Pwyllgor yn ystyried, yn nodi ac yn derbyn y Rhaglenni Gwaith Blaen a ddiweddarwyd ar gyfer yr cyfnodau uchod.

55.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z