Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

81.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cynghorydd JE Lewis fod ganddo ddiddordeb personol yn agenda eitem 13 - Cymeradwyo Cofnodion Eithriedig am fod ei h?yr yn mynychu Dechrau'n Deg. Tynnodd y Cynghorydd Lewis yn ôl o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno.  

82.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 74 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 06/09/18

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:        Bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ar 6 Medi 2018 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a manwl, yn amodol ar ddiwygio’r penderfyniad yng Nghofnod rhif. 74 sef "Bod y Pwyllgor wedi ystyried a nodi'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r Cynllun Archwilio Allanol" gan newid y geiriau i "Bod y Pwyllgor wedi cytuno i dderbyn y cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r Cynllun Archwilio Allanol". 

83.

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) ar Bersbectif Defnyddwyr y Gwasanaeth o Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl pdf eicon PDF 62 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid a'r Swyddog Adran 151adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Bersbectif Defnyddwyr y Gwasanaeth o Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl o fewn yr awdurdod.

 

Adroddodd Martin Gibson a oedd yn cynrychioli Swyddfa Archwilio Cymru ei fod wedi cwblhau gwaith yn 2017-18 i ddeall persbectif defnyddwyr y gwasanaeth o Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl ym mhob Cyngor yng Nghymru. Nododd mai casgliad cyffredinol yr adroddiad oedd bod y rhan fwyaf o ddefnyddwyr gwasanaethau yn hapus gyda'r gwasanaeth addasiadau tai, ond nad oedd y Cyngor yn sicrhau’r cyfleoedd mwyaf posibl i wella'r gwasanaeth a darparu gwerth am arian. Cafodd pum cynnig am welliant eu nodi yn dilyn yr adolygiad. 

 

Holodd y Pwyllgor a yw defnyddwyr gwasanaethau yn cael cyfle i werthuso'r gwaith pan fo'r contractwr adeiladu yn dal i wneud addasiadau neu a allant gael y contractwr i ddychwelyd i'r eiddo'n gyflym i gywiro problemau a namau. Dywedodd cynrychiolydd SAC wrth y Pwyllgor fod gwerthusiad yn cael ei gynnal ar ôl cwblhau'r addasiadau. Nododd fod Gofal a Thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr yn ymgymryd â dau draean o waith addasu a bod defnyddwyr gwasanaethau yn derbyn arolwg bodlonrwydd o'r addasiadau a wnaed, sy’n cael eu gwerthuso wedi hynny. Mae traean o ddefnyddwyr gwasanaethau nad ydynt yn defnyddio Gofal a Thrwsio ac mae SAC yn credu y dylai'r awdurdod gryfhau ei drefniadau gwerthuso. Gwnaeth y Rheolwr Gr?p Tai hysbysu’r Pwyllgor fod arolwg o ddefnyddwyr gwasanaethau nad ydynt yn defnyddio gwasanaethau Gofal a Thrwsio yn cael ei gynnal. Mae'r mwyafrif o'r ymatebion a dderbyniwyd yn gadarnhaol ac mae'r addasiadau wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau defnyddwyr gwasanaethau. Nododd fod y syrferwyr yn gwneud archwiliadau terfynol yn y cyfamser o'r addasiadau a wnaed gan gontractwyr a bod y syrferwyr yn rhan o'r Tîm Grant Cyfleusterau i'r Anabl (DFG). Hysbysodd y Pwyllgor fod angen cryfhau'r trefniadau i werthuso addasiadau, lle mae defnyddwyr gwasanaethau yn comisiynu contractwyr annibynnol i ymgymryd â'r addasiadau.

 

Gofynnodd y Pwyllgor a yw defnyddwyr gwasanaethau yn ymwybodol o gost yr addasiadau. Gwnaeth y Rheolwr Gr?p Tai hysbysu’r Pwyllgor y bydd yr asiant yn darparu Rhestr Feintiau a fydd yn nodi cost yr addasiadau. Caiff ymgeiswyr brawf modd ac efallai bydd yn ofynnol iddynt wneud cyfraniad tuag at gost yr addasiadau. Bydd ymgeiswyr yn cael dewis o ran pa asiantau y dymunant ymgysylltu â nhw. Nododd fod Gofal a Thrwsio yn adnabyddus iawn ac wedi'i sefydlu er mwyn cyflawni'r gwaith addasu. Mae angen i'r defnyddwyr gwasanaethau sy’n defnyddio eu hasiantau eu hunain gael o leiaf dau ddyfynbris ar gyfer yr addasiadau. 

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at absenoldeb rhestr o gontractwyr cymeradwy a holodd a yw’r awdurdod yn cysylltu ag awdurdodau lleol cyfagos. Gwnaeth y Rheolwr Gr?p Tai hysbysu’r Pwyllgor fod yr awdurdod yn cysylltu â Chynghorau Caerdydd a Chastell-nedd Port Talbot i edrych ar arferion da er mwyn adolygu arferion yr awdurdod. 

 

Ystyriodd y Pwyllgor y dylid creu rhestr o'r adeiladwyr proffesiynol sy'n gallu cyflawni gwaith addasu i leihau’r perygl o grefftwaith diffygiol. Nododd y Rheolwr Gr?p Tai eu bod yn edrych ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 83.

84.

Diweddariad ar Waith Perfformiad Swyddfa Archwilio Cymru 2018/19 pdf eicon PDF 62 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 yr adroddiad diweddaru ar Raglen Archwilio Perfformiad 2018-19 gan Swyddfa Archwilio Cymru. 

 

Cyflwynodd Samantha Clements a oedd yn cynrychioli Swyddfa Archwilio Cymru, ddiweddariad ar y rhaglen waith archwilio perfformiad yn Hydref 2018 a oedd yn amlinellu'r gwaith a wnaed yn y Cyngor gan neu ar ran yr Archwilydd Cyffredinol. Nododd y byddai SAC yn adrodd ar Risgiau Digidol; yr Archwiliad o’r Cynllun Gwella 2018-19; Archwiliad Perfformiad; yr Adroddiad Gwella Blynyddol a Chynllunio a Thrawsnewid Ariannol. Byddai SAC yn archwilio egwyddorion datblygu cynaliadwy y Rhaglen Buddsoddi ym Mhorthcawl ac yn adolygu'r trefniadau y mae'r Cyngor wedi'u rhoi ar waith i ddarparu gwasanaethau iechyd yr amgylchedd ac effeithiolrwydd trefniadau diogelwch corfforaethol y bwriadwyd eu cwblhau yng ngwanwyn 2019. Bydd adroddiad ar ddefnyddio data’n effeithiol yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor fis nesaf. 

 

Nododd cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru fod llythyr wedi'i anfon at y Prif Weithredwr yngl?n â pharatoadau'r Cyngor ar gyfer Brexit mewn perthynas â chyllid, y gweithlu a goblygiadau rheoliadol a dyletswyddau'r Cyngor i fodloni gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. 

 

Cwestiynodd y Pwyllgor y ffordd y mae astudiaethau'r llywodraeth leol yn cael eu dewis. Hysbysodd cynrychiolydd SAC y Pwyllgor y bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn gwneud gwaith ar themâu ac yn dewis y rhai a fydd yn cael yr effaith fwyaf. Cwestiynodd y Pwyllgor y rhesymau dros ddewis awdurdodau lleol penodol yn astudiaethau'r llywodraeth leol.  Gwnaeth cynrychiolydd SAC hysbysu’r Pwyllgor yr ystyrir gwybodaeth fewnol yn ogystal â chyngor rhanddeiliaid ac arferion da wrth ddethol  awdurdodau lleol sy’n cael eu dewis ar gyfer astudiaethau llywodraeth leol.  Dywedodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 fod y themâu ar draws llywodraeth leol yn debyg a bod swyddogion perthnasol yn ystyried bod y canfyddiadau’n gymwys i’r Cyngor hwn eu mabwysiadu hyd yn oed pe na bai’r Cyngor hwn yn rhan o'r astudiaeth beilot ac y dylid cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor ar y canfyddiadau hynny. 

 

PENDERFYNWYD:           (1) Bod y Pwyllgor yn nodi diweddariad ar raglen waith archwilio perfformiad SAC ar gyfer Hydref 2018;

 

(2) Y dylid cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor ar ganfyddiadau astudiaethau'r llywodraeth leol.                            

85.

Adroddiad Gwella Blynyddol (AIR) Swyddfa Archwilio Cymru 2017-18 Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 yr Adroddiad Gwella Blynyddol (AIR) 2017-18 gan yr Archwilydd Cyffredinol.

 

Cyflwynodd Samantha Clements a oedd yn cynrychioli Swyddfa Archwilio Cymru, adroddiad gwella blynyddol yr Archwilydd Cyffredinol. Roedd yr Archwilydd Cyffredinol wedi ymgymryd â gwaith asesu gwelliannau ym mhob cyngor yn 2017-18 yn ogystal â gwaith mewn perthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Nododd fod yr Adroddiad Gwella Blynyddol yn cynnwys crynodeb o'r astudiaethau cenedlaethol a wnaed gan SAC yn ystod y flwyddyn gydag argymhellion y mae angen i'r holl awdurdodau lleol gyfeirio atynt. Nododd hefyd, yn gyffredinol, fod y casgliad yn gadarnhaol a bod y Cyngor yn bodloni ei ofynion statudol mewn perthynas â gwelliant parhaus, ar sail y gwaith a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru a rheolyddion perthnasol. Credodd yr Archwilydd Cyffredinol fod y Cyngor yn debygol o gydymffurfio â gofynion Mesur y Llywodraeth Leol 2009 yn ystod 2018-19. 

 

Adroddodd ar brif ganfyddiadau'r prosiectau canlynol yr ymgymerwyd â hwy a chyflwynodd y prif ganfyddiadau o dan bob prosiect:

 

·         Adolygiad 'Craffu: Addas ar gyfer y Dyfodol?'

·         Llythyr Archwiliad Blynyddol 2016-17

·         Archwiliad o’r Cynllun Gwella Blynyddol

·         Asesiad Blynyddol o’r Archwiliad Perfformiad

 

Adroddodd cynrychiolydd Swyddog Archwilio Cymru fod argymhellion adroddiad cenedlaethol wedi'u gwneud mewn perthynas â’r canlynol:

 

  • Cynllunio Arbedion mewn Cynghorau yng Nghymru
  • Caffael Cyhoeddus yng Nghymru
  • Llywodraethu da wrth benderfynu ar newidiadau sylweddol - Crynodeb Cenedlaethol
  • Adroddiadau Ariannol Llywodraeth Leol 2016-17
  • Sut mae'r Llywodraeth Leol yn rheoli’r galw - Digartrefedd
  • Addasiadau Tai
  • Siarad fy iaith: Goresgyn rhwystrau iaith a chyfathrebu mewn gwasanaethau cyhoeddus
  • Myfyrio ar y Flwyddyn Gyntaf: Sut y mae cyrff cyhoeddus wedi ymateb i'r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
  • Comisiynu Strategol mewn perthynas â Gwasanaethau Llety i Oedolion ag Anableddau Dysgu

 

Mynegwyd pryder gan y Pwyllgor yngl?n â sut y gallai’r swyddogaeth graffu fod yn fwy arloesol. 

 

Holodd y Pwyllgor sut y gallai gael gwell dealltwriaeth o natur gritigol argymhellion yr adroddiad cenedlaethol a sut y byddai angen i’r Cyngor roi'r argymhellion ar waith yn y ffordd orau. Gwnaeth Martin Gibson o Swyddfa Archwilio Cymru hysbysu’r Pwyllgor na fydd angen i’r Cyngor hwn weithredu ar yr argymhellion cenedlaethol o bosibl.

 

PENDERFYNWYD:           Bod y Pwyllgor yn nodi Adroddiad Gwella Blynyddol 2017-18 a gynhyrchwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru.       

86.

Adroddiad Hanner Blwyddyn 2018-19 – Rheoli Trysorlys pdf eicon PDF 623 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p - y Prif Gyfrifydd adroddiad yn diweddaru'r Pwyllgor ar yr adolygiad canol blwyddyn a’r sefyllfa alldro hanner blwyddyn ar gyfer gweithgareddau rheoli'r trysorlys, Dangosyddion Darbodus a Rheoli Trysorlys ar gyfer 2018-19 a chyfeiriodd at gydymffurfiaeth â pholisïau ac arferion y Cyngor a oedd wedi'i adrodd i'r Cabinet a'r Cyngor.

 

Esboniodd y Rheolwr Gr?p - y Prif Gyfrifydd fod y Pwyllgor yn gyfrifol am sicrhau dull craffu effeithiol ar Strategaeth Rheoli'r Trysorlys (TMS) a pholisïau. Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Canllawiau diwygiedig ar Fuddsoddiadau Awdurdodau Lleol yn Ebrill 2010 a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Fuddsoddi cyn dechrau pob blwyddyn ariannol ac roedd hyn wedi'i gynnwys yn y TMS.

 

Adroddodd y Rheolwr Gr?p - y Prif Gyfrifydd fod y Cyngor wedi cydymffurfio â’i anghenion deddfwriaethol a rheoliadol yn ystod hanner cyntaf 2018-19. Adroddwyd TMS 2018-19 a'r Alldro Hanner Blwyddyn i'r Cyngor ar 28 Chwefror a 24 Hydref 2018, yn y drefn honno. Cyflwynodd grynodeb o weithgareddau rheoli'r trysorlys ar gyfer hanner cyntaf 2018-19. Nid oedd y Cyngor wedi ymgymryd â benthyca hirdymor ers mis Mawrth 2012 ac nid oedd disgwyl y byddai angen unrhyw fenthyciad newydd hirdymor yn 2018-19, fodd bynnag at ddibenion llif arian, ymgymerir â benthyca tymor byr a chymerwyd benthyciad tymor byr o £3 miliwn a'i ad-dalu rhwng 1 Ebrill a 30 Medi. Roedd llifau arian ffafriol wedi darparu cronfeydd dros ben ar gyfer buddsoddi ac roedd y balans ar fuddsoddiadau ar 30 Medi 2018 yn £34.30 miliwn gyda chyfradd llog gyfartalog o 0.81% a oedd yn cyfateb i £126k. 

 

Gwnaeth y Rheolwr Gr?p - y Prif Gyfrifydd hysbysu’r Pwyllgor fod y Cyngor wedi agor Cronfeydd Marchnad Arian (MMF) yn Awst 2017 ac wedi agor MMFs ychwanegol ym mis Medi 2018. Roedd hefyd wedi sefydlu porth ar y we (heb ddim cost i'r Cyngor) i symleiddio a chyflwyno effeithlonrwydd i’r holl agweddau ar MMF o gynnal cyfrifon i fasnachu ac adrodd. Hysbysodd y Pwyllgor hefyd am gyfradd elw gyfartalog y Cyngor ar fuddsoddiadau ac roedd cyfradd elw gyfartalog y Cyngor ar fuddsoddiadau yn fwy ffafriol na chyfartaledd cleientiaid Awdurdod Lleol Arlingclose yng Nghymru.        

 

PENDERFYNWYD:            Bod y Pwyllgor yn nodi gweithgareddau rheoli’r trysorlys ar gyfer 2018-19 ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2018 i 30 Medi 2018 a’r Dangosyddion Darbodus a Rheoli Trysorlys a ragamcanwyd ar gyfer 2018-19 a gafodd eu hadrodd i'r Cyngor ar 24 Hydref 2018.    

87.

Adroddiad Archwilio Dilynol ar Reoli Gwybodaeth pdf eicon PDF 60 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Prif Archwilydd Mewnol ar yr archwiliad dilynol o’r adolygiad Rheoli Gwybodaeth a gynhaliwyd gan Bartneriaeth Archwilio’r De-orllewin ar ran Cydwasanaeth Archwilio Mewnol y Cyngor, ac a ffurfiodd ran o Gynllun Archwilio 2017/18.  

 

Hysbysodd y Pwyllgor fod Rheoli Gwybodaeth yn agwedd bwysig ar lywodraethu ar gyfer sefydliad. Bydd dull effeithiol o reoli gwybodaeth yn hwyluso a chefnogi gwaith effeithlon, gwneud penderfyniadau gwell, gwell gwasanaeth cwsmeriaid a thrawsnewid busnes i hwyluso'r ddarpariaeth o brif flaenoriaethau ac amcanion. Nododd fod yr argymhellion ar gyfer gwella wedi'u hadolygu gyda'r rheolwr perthnasol a chyflwynwyd ymateb gan reolwyr ar gyfer pob maes sydd angen sylw. 

 

Adroddodd y Prif Archwilydd Mewnol fod y sicrwydd dros gynnal adolygiad dilynol o Reoli Gwybodaeth wedi'i adolygu fel Barn Sicrwydd Canolig ar y cyfan. Nododd, oherwydd y cyfnod rhwng cwblhau'r adolygiad dilynol a'i gyflwyno i'r Pwyllgor hwn, bod y meysydd gwasanaeth perthnasol wedi gweithredu nifer sylweddol o'r argymhellion a wnaed a bod angen cyflwyno gwybodaeth yn fwy prydlon i’r Pwyllgor hwn. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Pwyllgor am wybodaeth am y Bwrdd Gweithredu a'r Bwrdd Llywodraethu GDPR, nododd y Prif Archwilydd Mewnol y byddai'n rhoi manylion am gyfansoddiad, cylch gorchwyl ac amlder cyfarfodydd y Byrddau hynny i’r Pwyllgor.

 

Holodd y Pwyllgor pryd fydd y Strategaeth Rheoli Gwybodaeth a'r Cynllun Parhad Busnes ac Adfer ar ôl Trychineb yn cael eu hadolygu a phwy fydd yn gyfrifol am y camau fydd yn codi. Gwnaeth y Prif Archwilydd Mewnol hysbysu’r Pwyllgor fod yr Archwiliad Mewnol wrthi’n terfynu adroddiad ar Barhad Busnes, a dylai’r canlyniad gael ei adrodd o fewn yr adroddiad alldro nesaf. Cedwir briff gwylio ar yr argymhellion hynny a geir o fewn yr adolygiad dilynol o Reoli Gwybodaeth, er, oherwydd amseroldeb yr adroddiad, roedd llawer o'r argymhellion wedi'u rhoi ar waith. 

 

Ystyriodd y Pwyllgor y dylai swyddogion gael perchenogaeth dros yr argymhellion ac y dylid priodoli’r cyfrifoldeb i’r meysydd priodol ac nid i’r swyddogaeth archwilio. Cyfeiriodd y Pwyllgor at y gydymffurfiaeth â’r broses o ddiddymu’r Rhwydwaith Gwasanaethau Cyhoeddus (PSN) yn raddol ond y byddent yn glynu ato hyd nes bod y Cyngor yn peidio â defnyddio gwasanaethau drwy’r PSN mwyach a bod y Rheolwr Gr?p yn fodlon bod y PSN yn cael ei ddisodli gan 'Cyber Essentials Plus'. Nododd y Prif Archwilydd Mewnol fod yr adran TGCh wedi gweithio ar yr argymhellion PSN ac yn ymwybodol o ddifrifoldeb yr argymhellion a’i bod yn darparu ar Cyber Essentials Plus. Ystyriodd y Pwyllgor fod angen i argymhellion gael eu gweithredu a'u hadrodd yn fwy rhagweithiol yn y dyfodol.     

 

PENDERFYNWYD:            Bod y Pwyllgor yn ystyried cynnwys yr Adolygiad Dilynol o Sefydliad Iach a'r camau sydd wedi'u cymryd eisoes i fynd i'r afael â'r meysydd hynny sydd angen sylw, ac y gofynnir i'r Rheolwr Gr?p TGCh fynychu cyfarfod nesaf y Pwyllgor i gyflwyno adroddiad yn cyfeirio at y camau gweithredu mewn perthynas â Rheoli Gwybodaeth.      

        

88.

Archwiliad Mewnol – Adroddiad Alldro – mis Ebrill i fis Medi 2018 pdf eicon PDF 61 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Prif Archwilydd Mewnol ar berfformiad yr Archwiliad Mewnol yn erbyn y Cynllun Archwilio ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill i fis Medi 2018.  Esboniodd god Cynllun Archwilio Mewnol 2018/19 wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio i’w gymeradwyo ar 26 Ebrill 2018, a bod y Cynllun yn darparu ar gyfer cyfanswm o 1000 o ddiwrnodau cynhyrchiol o fis Ebrill 2018 i fis Mawrth 2019. Rhannwyd y diwrnodau yn adolygiadau Blaenoriaeth 1 a Blaenoriaeth 2 gyda'r bwriad o gwblhau'r cynllun cyfan erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. 

 

Adroddodd y Prif Archwilydd Mewnol ar y cynnydd gwirioneddol yn erbyn Cynllun ar sail Risg 2018/19 a oedd yn nodi’r adolygiadau hynny nad oeddent wedi cael eu dyrannu eto yn y chwarteri priodol a'r adolygiadau hynny a gafodd eu dwyn ymlaen o chwarteri yn y dyfodol. Gwnaeth y Prif Archwilydd Mewnol hysbysu’r Pwyllgor fod strwythur cyffredinol yr Adran yn parhau i fod yn seiliedig ar 14 swydd cyfwerth ag amser llawn a bod yr Adran yn parhau i fod â swyddi gwag. Nododd fod yr ymgyrch recriwtio ddiweddaraf wedi bod yn llwyddiannus iawn gan lenwi pob swydd wag archwilydd ac un swydd uwch. Dechreuodd yr aelodau newydd hyn o staff ar eu swyddi yn y gwasanaeth ym mis Awst 2018 ac roeddent yn ymsefydlu’n dda yn eu rolau newydd. Roedd gwasanaethau Partneriaeth Archwilio’r De-orllewin wedi eu comisiynu unwaith eto i fynd i'r afael yn rhannol â'r diffyg mewn diwrnodau sy’n angenrheidiol i gwblhau'r cynllun ac roedd hyn yn debygol o barhau trwy gydol y flwyddyn ariannol hon. 

 

Adroddodd y Prif Archwilydd Mewnol ar fanylion yr adolygiadau hynny a oedd wedi'u cwblhau yn ystod y cyfnod a'u perfformiad. Yn ystod y cyfnod, dim ond un adolygiad a nododd wendidau sylweddol yn y system rheoli mewnol hyd yn hyn, a gafodd ei adrodd i'r Pwyllgor hwn ym mis Medi.   

 

Gwnaeth y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 hysbysu aelodau fod gwaith yn mynd rhagddo’n dda ar drefniadau gweithredu ar gyfer cydwasanaeth rhanbarthol. Roedd swydd y Pennaeth Cydwasanaethau wedi cael ei hysbysebu a byddai Cadeirydd y Pwyllgor hwn yn rhan o'r panel cyfweld. Gobeithiwyd adrodd ar ganlyniad y broses benodi yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am gael gweld y Polisïau Gwrth-dwyll a Llwgrwobrwyo a Chwythu'r Chwiban. Gwnaeth y Prif Archwilydd Mewnol hysbysu’r Pwyllgor fod asesiad risg wedi'i gwblhau ar y polisi Gwrth-dwyll a Llwgrwobrwyo ac y byddai’n adrodd y polisi i'r Pwyllgor hwn.          

 

PENDERFYNWYD:                 Bod y Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Alldro yr Archwiliad Mewnol sy’n cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Medi 2018 i sicrhau bod pob agwedd ar eu swyddogaethau craidd yn cael ei adrodd yn ddigonol.          

89.

Diweddariad ar y Flaenraglen Waith 2018/19 pdf eicon PDF 59 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol ddiweddariad ar Flaenraglen Waith 2018/19. Nododd, er mwyn cynorthwyo'r Pwyllgor i sicrhau bod ystyriaeth briodol wedi'i rhoi gan y Pwyllgor i’r holl agweddau ar eu swyddogaethau craidd, y cafodd diweddariad ar y Flaenraglen Waith ei gyflwyno.  Hysbysodd y Pwyllgor hefyd y dylid gofyn i'r Rheolwr Gr?p TGCh fynychu cyfarfod nesaf y Pwyllgor fel rhan o'i ystyriaeth o'r adroddiad ar Reoli Gwybodaeth.

  

PENDERFYNWYD:           Bod y Pwyllgor yn cofnodi'r diweddariad ar Flaenraglen Waith 2018-19.      

90.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Gofynnodd y Pwyllgor am gael copi caled o'r papur briffio i ategu’r arolwg CIPFA y gofynnwyd i aelodau ei gwblhau, a bod aelod lleyg y Pwyllgor yn derbyn copi o'r arolwg i'w gwblhau. 

91.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd y cofnodion ac adroddiadau sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol

(Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: O dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, y dylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r eitem fusnes ganlynol gan ei bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir ym Mharagraffau 12, 13 a 18 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007.

 

Yn dilyn gweithrediad prawf lles y cyhoedd wrth ystyried yr eitem hon, penderfynwyd, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, ei bod yn cael ei hystyried yn breifat, a gwaharddwyd y cyhoedd o'r cyfarfod gan y byddai'n golygu datgelu gwybodaeth iddynt sydd wedi'i heithrio o'r natur a nodwyd uchod.

92.

Cymeradwyo Cofnodion Eithriedig

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 06/09/18

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z