Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Iau, 13eg Rhagfyr, 2018 14:00

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

93.

Datganiadau o fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008

 

Cofnodion:

Dim

94.

Cymeradwyaeth Cofnodion pdf eicon PDF 86 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 15/11/18

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio, dyddiedig 15 Tachwedd 2018, fel cofnod gwir a chywir.

95.

Llythyr Archwilio Blynyddol 2017-18 pdf eicon PDF 58 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 adroddiad, a phwrpas hwn oedd cyflwyno Llythyr Archwilio Blynyddol yr Archwilydd Penodedig 2017-18, oedd wedi ei atodi fel Atodiad A i’r adroddiad, i’w nodi.

 

Cadarnhâi’r Llythyr Archwilio Blynyddol 2017-18 fod yr Archwilydd Penodedig wedi cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar ddatganiadau’r cyfrifon, gan gadarnhau fod y rhain yn cynrychioli darlun gwir a theg o sefyllfa ariannol y Cyngor a’i drafodion ariannol.

 

Dywedodd Rheolwr Archwilio Ariannol, Swyddfa Archwilio Cymru, fod y llythyr hefyd yn cadarnhau bod yr Archwilydd Penodedig yn fodlon bod gan y Cyngor drefniadau priodol yn eu lle i sicrhau darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn ei ddefnydd o adnoddau.  Ychwanegodd fod tystysgrif wedi cael ei rhoi hefyd yn cadarnhau bod archwiliad y cyfrifon wedi ei gwblhau.

 

Ychwanegodd fod y Llythyr Archwilio Blynyddol hefyd yn cadarnhau nad oedd gwaith hyd yma ar ardystio hawliadau grantiau a ffurflenni adrodd wedi canfod materion sylweddol a fyddai’n effeithio ar y cyfrifon blynyddol na’r systemau ariannol allweddol. Yn gynnar yn 2019 byddai’r Archwilydd Cyffredinol (Cymru) yn cyhoeddi ei adroddiad grantiau ar yr archwiliad o hawliadau a ffurflenni adrodd y Cyngor 2017-18.

 

Yn olaf, disgwylid ar hyn o bryd y byddai’r archwiliad ariannol am 2017-18 yn unol â’r ffi y cytunwyd arni yn y Cynllun Archwilio Blynyddol. Ychwanegodd y byddai’r ffi derfynol am yr archwiliad o hawliadau grant a ffurflenni adrodd y Cyngor 2017-18 fymryn yn llai nag a amcangyfrifwyd o’r blaen.

 

PENDERFYNWYD:     Bod y Pwyllgor Archwilio yn nodi’r Llythyr Archwilio Blynyddol 2017-18 oedd ynghlwm yn Atodiad A yr adroddiad.   

96.

Archwiliad o Berfformiad 2017-18 pdf eicon PDF 58 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 adroddiad a phwrpas hwn oedd cyflwyno’r dystysgrif gan Swyddfa Archwilio Cymru (yr Archwilydd Penodedig), ar berfformiad y Cyngor yn 2017-18, oedd wedi ei hatodi fel Atodiad A i’r adroddiad, i’w nodi.

 

Fel gwybodaeth gefndir, dywedodd Rheolwr Archwilio Ariannol, Swyddfa Archwilio Cymru, wrth yr Aelodau fod gan yr Archwilydd Penodedig gyfrifoldeb statudol dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, i gyhoeddi asesiad yn flynyddol sy’n disgrifio perfformiad awdurdod lleol.

 

Yn unol â’r ddeddfwriaeth hon, a than God Ymarfer yr Archwilydd, mae’r Archwilydd Penodedig wedi cyhoeddi tystysgrif yn cadarnhau bod y Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau dan y Mesur ac wedi gweithredu yn unol ag arweiniad Llywodraeth Cymru i raddau digonol i gyflawni ei ddyletswyddau (gweler atodiad A).

 

PENDERFYNWYD:     Bod y Pwyllgor Archwilio yn nodi’r Dystysgrif ar Archwiliad Perfformiad y Cyngor 2017-18, fel y disgrifiwyd yn Atodiad A yr adroddiad.

97.

Swyddfa Archwilio Cymru Adroddiad Diagnostig Risg Digidol pdf eicon PDF 58 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 adroddiad a phwrpas hwn oedd cyflwyno’r Adroddiad Dadansoddi Risg Ddigidol a gynhyrchwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, oedd wedi ei atodi fel Atodiad A i’r adroddiad, i’w nodi.

 

Fel gwybodaeth gefndir, esboniodd mai darn o waith a gyflawnwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru oedd yr uchod, yn ystod Mai / Mehefin / Gorffennaf y llynedd, fel rhan o asesiad risg cynllunio.

 

Roedd y gwaith a wnaed yn archwilio’r peryglon allweddol oedd yn gysylltiedig â Risg Ddigidol a Thrawsnewid yn y Cyngor dros nifer o feysydd, a rhoddwyd gwybodaeth am gasgliadau’r gwaith hwn yn anffurfiol i Swyddogion fel cyflwyniad PowerPoint cysylltiedig â’r adroddiad (h.y. fel atodiad A). Byddai’r swyddogion yn awr yn gweithio drwy'r casgliadau ac yn llunio Cynllun Gweithredu i ymdrin â’r materion a godwyd.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 sylw’r Aelodau at Sleid 3 yn yr atodiad i'r adroddiad, oedd yn nodi rhai meysydd allweddol a’r peryglon oedd yn gysylltiedig â’r rhain.

 

Yn nhermau Risg datblygu’r Wefan - cael cysylltiadau gwell, cadarnhaodd i’r Aelodau, er mai graddiad gweddol wael a gafodd y Cyngor am hyn yn 2016, ei fod ers hynny wedi adfywio ac adnewyddu rhai systemau ac yn y blaen, ac felly bod gwelliannau a datblygiadau wedi cael eu gwneud yn y maes hwn ers y dyddiad uchod. Roedd y rhain yn cynnwys mynediad ar-lein i’r cyhoedd, a elwir ‘Myaccount’, er mwyn iddynt allu cysylltu’n haws a chael mynediad at nifer o wasanaethau allweddol.

 

Ar Sleid 4 ynghylch y Strategaeth Ddigidol a Thrawsnewid, ychwanegodd Rheolwr Gr?p TGCh fod nifer sylweddol o broblemau wedi cael eu datrys a gwaith wedi ei ddatblygu ymhellach, ers i’r Rheolwr Trawsnewid Digidol fod yn ei swydd. 

 

O ran Sleid 10, dywedodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 fod trefniadau Diogelu Data gyda golwg ar GDPR yn dal yn gymharol newydd ac yn feichus, a bod angen peth hyfforddiant pellach ar gyfer y gweithwyr.

 

Gorffennodd ei chyflwyniad drwy ddweud y byddai’r Cynllun Gweithredu y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Aelodau gobeithio yng nghyfarfod mis Ionawr y Pwyllgor Archwilio.

 

PENDERFYNWYD:     Bod y Pwyllgor Archwilio yn nodi Adroddiad Dadansoddi Risg Ddigidol Swyddfa Archwilio Cymru (Atodiad A), ac yn edrych ymlaen i weld materion o bryder, a godwyd gyda golwg ar y risgiau allweddol, yn derbyn sylw yn y  Cynllun Gweithredu sydd i gael ei gyflwyno i’r Aelodau fel rhan o’r adroddiad dilynol yn ei gyfarfod nesaf neu gyfarfod arall yn y dyfodol. 

98.

Diweddariad Cronfa Gweithredu yn y Gymuned 2017-18 pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad ar ran y Prif Weithredwr a phwrpas hwn oedd rhoi diweddariad o ran defnydd y Gronfa Gweithredu Cymunedol a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 5 Medi 2017.

 

Dywedodd fod Strategaeth Ariannol Tymor Canol 2017-2021 a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 1 Mawrth 2017, yn cynnwys cyllideb newydd o £285 mil ar gyfer creu Cronfa Gweithredu Cymunedol. Nodau hyn yn fras oedd creu cyfleoedd ar gyfer ymyriadau lleol gan Aelodau yn eu wardiau eu hunain er budd y gymuned.

 

Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet i’r Cynllun Gweithredu Cymunedol fel y soniwyd uchod, darparwyd sesiynau hyfforddi ym mis Hydref 2017, er mwyn sicrhau bod yr holl Aelodau etholedig yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am elfennau o’r cynllun, cyn iddynt gyflwyno eu ceisiadau am arian. Roedd y cyllid o £285 mil yn golygu £5 mil i bob Aelod i’w ddyrannu i’w Ward, yn ogystal â £15 mil tuag at gostau gweinyddol. Ychwanegodd y Swyddog Monitro, oherwydd yr oedi cyn rhoi'r cynllun ar waith, fod arian nas defnyddiwyd yn 2017-18 wedi cael ei dreiglo drosodd i flwyddyn ariannol 2018-19 i’w ddefnyddio erbyn diwedd mis Hydref 2018. Ym mis Mehefin 2018, cafodd adroddiad ei ystyried hefyd gan y Pwyllgor Archwilio, oedd yn argymell cynnal adolygiad llawn o’r Cynllun Gweithredu Cymunedol yn dilyn diwedd y cyfnod cyfredol o gyllid.

 

Aeth ymlaen i gadarnhau, yn ystod cyfnod y cynllun, bod cyfanswm o £231,667.24 (85.8%) o’r £270 mil oedd ar gael wedi ei roi o gyllideb y Cynllun i ariannu 156 o brosiectau ar draws y Fwrdeistref Sirol.

 

Defnyddiodd yr Aelodau Etholedig, eu cyllid ar gyfer amrywiaeth o brosiectau y ceir enghreifftiau ohonynt ym mharagraff 4.1.4 yr adroddiad. Roedd rhestr lawn o'r prosiectau, yr Aelodau Etholedig, Wardiau a gwerthoedd, yn cael eu dangos yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod holl Aelodau’r Cyngor (ac eithrio un) ar y pryd wedi defnyddio’r cyllid yr oedd ganddynt hawl i’w dderbyn.

 

Roedd adran nesaf yr adroddiad yn amlinellu adborth o’r Gronfa Gweithredu Cymunedol gan yr Aelodau a’r Swyddogion oedd yn gweinyddu'r cynllun, gydag adolygiad yn dilyn a gynhaliwyd ar y Cynllun gan yr Archwilydd Mewnol. Roedd mwy o gymorth gweinyddol wedi ei rwymo i’r cynllun ynghyd â pheth gwaith cymorth ychwanegol nad oedd wedi cael ei ragweld pan gafodd y cynllun ei gymeradwyo.

 

Gorffennodd ei chyflwyniad, drwy ddweud mai cymysg oedd yr adolygiadau gan Aelodau ar eu profiad o’r cynllun, gyda rhai canlyniadau cadarnhaol ar fudd cymunedol y cynllun a rhai canlyniadau negyddol o ran y broses, meini prawf y cynllun ac ychydig o ddiddordeb yn y cynllun oddi wrth gymdeithasau cymwys yn yr ardal.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei fod ef wedi bod mewn cysylltiad â rhai Aelodau, nad oeddent yn aelodau o’r Pwyllgor Archwilio, a’i fod ef hefyd wedi cael eu hadborth ar y cynllun yn gymysg.

 

Cytunai Aelod gyda darpariaeth pellach yn yr adroddiad, sef y byddai’n fwy defnyddiol yn y dyfodol rhwymo’r lefel hwn o gyllid a’i ddefnyddio’n fwy strategol fel rhan o gyllideb fwy, fyddai o fudd i holl  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 98.

99.

Rheolaeth Risg pdf eicon PDF 61 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p - y Prif Gyfrifydd adroddiad a phwrpas hwn oedd rhoi diweddariad i'r Pwyllgor ar newidiadau oedd yn cael eu gwneud i Bolisi Rheoli Risg y Cyngor, Asesiad Risg Corfforaethol 2018-19 a Gweithdrefn Adrodd am Ddigwyddiadau a Methiannau Agos.

 

Fel gwybodaeth gefndir, cadarnhaodd fod Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio yn ei gwneud yn ofynnol i’r Pwyllgor adolygu, craffu a chyhoeddi adroddiadau ac argymhellion, ar addasrwydd rheolaeth risg y Cyngor, rheolaeth fewnol a threfniadau llywodraethu corfforaethol.

 

Adroddwyd am Asesiad Risg Corfforaethol 2018-19 wrth y Pwyllgor Archwilio ar 18 Ionawr 2018. Roedd yr adroddiad hwn yn nodi y cynhelid adolygiad pellach o risgiau’r Cyngor, i asesu a oedd yr holl risgiau a nodwyd yn dal yn berthnasol i’r Cyngor; a ddylai’r Cyngor geisio canolbwyntio ar set lai o risgiau, sut y dylai’r testun gael ei grynhoi ymhellach ac a oedd y mesurau lleihau risg yn lliniaru'r holl effeithiau.

 

Esboniodd fod adolygiad pellach wedi cael ei gynnal gan y Bwrdd Rheoli Corfforaethol a’r Tîm Uwchreoli. Yn hytrach nag adolygu’r risgiau blaenorol, roedd nifer lai o fesurau risg ar hyn o bryd wrthi’n cael eu cwblhau, er nwyn iddynt allu gweld yn fwy dirnadwy y risgiau allweddol oedd yn wynebu’r Cyngor. Roedd adolygiad y Sefydliad Iach wedi nodi y dylid defnyddio’r un matrics risg yn gyson ar draws y Cyngor. Roedd y Bwrdd Rheoli Corfforaethol wedi cytuno y câi matrics risg 5 x 5 ei fabwysiadu fyddai’n disodli’r matrics risg 6 x 4 cyfredol. Caiff y risgiau newydd eu sgorio, fodd bynnag, gan ddefnyddio’r matrics risg 5 x 5. Byddai adroddiad pellach ynghylch y risgiau yn cael ei gyflwyno wedyn i’r Pwyllgor Archwilio ym mis Ionawr fel casgliad o ddogfennau, yn ffurf Polisi Rheoli Risg wedi ei ddiweddaru. Asesiad Risg Corfforaethol a Gweithdrefn Adrodd am Ddigwyddiadau a Methiannau Agos.

 

PENDERFYNWYD:   Bod y Pwyllgor Archwilio yn nodi’r adroddiad, a bod casgliad llawn o ddogfennau rheoli risg yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Ionawr 2019.

100.

Adroddiad Archwilio – Adolygiad Sefydliad Iach – Diweddariad ar Cynllun Gweithredu pdf eicon PDF 66 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad, er mwyn diweddaru’r Aelodau ynghylch cynnydd yn erbyn y Cynllun Gweithredu a luniwyd mewn ymateb i Adolygiad y Sefydliad Iach a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio ym Mehefin 2018.

 

Cynhaliwyd yr adolygiad gan Bartneriaeth Archwilio’r De-orllewin ar ran y Cydwasanaethau Archwilio Mewnol. Hysbyswyd yr Aelodau gan y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 y byddai Bwrdd Rheoli Corfforaethol y Cyngor yn canolbwyntio ar feysydd risg uchel yr Adolygiad ac y câi’r rhain eu hymgorffori mewn Cynllun Gweithredu. Cyflwynwyd hwn i’r Pwyllgor Archwilio ym mis Medi, ac mae wedi dal i gael ei fonitro ers hynny gan yr Aelodau.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 fod y diweddariad blaenorol wedi tynnu sylw at y ffaith fod llawer o’r argymhellion wedi cael eu gweithredu. Roedd rhai argymhellion, fodd bynnag, gyda chyfnod o amser hirach ac, mewn nifer fechan o achosion, ymateb y rheolwyr oedd peidio â chymryd camau o gwbl gan nad oedd angen gwneud dim.

 

Roedd yr argymhelliad y cyfeiriwyd ato uchod yn ymwneud â’r themâu canlynol:-

 

·         Llywodraethu - Perthnasoedd Gwaith Effeithiol.

·         Llywodraethu - Tryloywder

·         Llywodraethu - Cyfathrebu/Ymgynghori â Rhanddeiliaid

·         Rheoli Risg - Awydd/Tryloywder

·         Comisiynu a Chaffael - Strategaeth a Bwriadau Comisiynu

·         Comisiynu a Chaffael - Rheoli Cyflenwyr

 

Gofynnodd Aelodau a oedd Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth (FOI) a’r atebion iddynt yn cael eu cyhoeddi’n rheolaidd ar wefan y Cyngor, ac os nad oeddent, a oedd hyn yn mynd yn groes i Safonau’r Gymraeg.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro, pe bai'r Cyngor yn cyhoeddi Ceisiadau FOI ar ei wefan y byddai’n rhaid iddo eu cyfieithu hefyd. Felly, byddai hyn yn achosi cost sylweddol i’r Awdurdod. Ychwanegodd nad oedd peidio â chyhoeddi Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn mynd yn groes i Safonau’r Gymraeg, er y byddai hi, ar gais y Pwyllgor, yn holi Comisiynydd y Gymraeg er mwyn canfod beth oedd arfer gorau yn hyn o beth. Dywedodd y byddai hi hefyd yn darganfod a oedd awdurdodau eraill cyfagos yn cyhoeddi Ceisiadau FOI ar eu gwefannau (gan gynnwys gwneud hynny’n ddwyieithog).

 

PENDERFYNWYD:        Bod yr Aelodau yn nodi’r diweddariad ar Gynllun Gweithredu Adroddiad y Sefydliad Iach.   

101.

Adroddiad Archwilio - Dilyniant Rheolaeth Gwybodaeth pdf eicon PDF 60 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 adroddiad, er mwyn diweddaru’r Aelodau ynghylch cynnydd yn erbyn y Cynllun Gweithredu a luniwyd mewn ymateb i Adolygiad y Sefydliad Iach a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio ym Mehefin 2018.

 

Fe wnaeth y Rheolwr Gr?p, TGCh, atgoffa Aelodau bod canlyniad yr Adolygiad uchod wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym Mehefin 2018, gyda’r cyfryw Adolygiad wedi cael ei gynnal gan Bartneriaeth Archwilio’r De-Orllewin ar ran y Cydwasanaethau Archwilio Mewnol. Hysbyswyd yr Aelodau hefyd  gan y Pennaeth Cyllid Dros Dro y byddai Bwrdd Rheoli Corfforaethol y Cyngor yn canolbwyntio ar feysydd risg uchel yr adolygiad ac y câi’r rhain eu hymgorffori mewn Cynllun Gweithredu. Cyflwynwyd y Cynllun hwn yn ddiweddarach i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Medi, ac mae wedi bod yn cael ei fonitro ers hynny gan y Bwrdd Rheoli Corfforaethol.

 

Dywedodd ymhellach, fod y diweddariad blaenorol wedi tynnu sylw at y ffaith fod llawer o’r argymhellion wedi cael eu gweithredu. Ychwanegodd fod cyfnodau hirach o amser ar gyfer rhai argymhellion a bod cynnydd yn erbyn y rhain wedi ei ddisgrifio ym mharagraffau 4.2 i 4.7 yr adroddiad. Mewn nifer fechan o achosion, ymateb y rheolwyr oedd peidio â chymryd camau o gwbl ac edrychwyd ar y rhain hefyd yn yr adran hon o’r adroddiad. Ym mhob achos, trefnwyd y naratif yn ôl y penawdau a nodwyd yn yr adroddiad archwilio gwreiddiol a’r cynllun gweithredu a’i dilynodd.

 

Wedyn cyfeiriodd y Rheolwr Gr?p, TGCh, sylw’r aelodau at Atodiad A yr adroddiad, gan roi manylion y cynnydd gyda golwg ar Feysydd i dderbyn Sylw a’r gwaith a gwblhawyd o ran y Themâu hyn, cyn belled ag yr oeddent yn ymwneud â meysydd gwaith TGCh.

 

Gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau gyda golwg ar yr adroddiad, ac atebwyd y rhain gan y Rheolwr Gr?p, TGCh.

 

Teimlai Aelod y dylai adroddiadau o’r natur yma yn y dyfodol gynnwys mwy o naratif ac esboniad o ran diweddariadau ar y Deilliannau, gan eu cymryd ar bob thema a ddisgrifiwyd, yn hytrach na dweud ‘Wedi ei gwblhau’, ‘Wedi ei weithredu fel rhan o’r Diweddariad’ ac yn y blaen, fel bod Aelodau yn cael mwy o sicrwydd ynghylch manylion y gwaith a wnaed, oedd wedi arwain at wneud gwelliannau, gyda golwg ar ddulliau rheoli a sefydlwyd mewn perthynas â phrosesau Rheoli Gwybodaeth a phrotocolau o fewn yr Awdurdod.

 

PENDERFYNWYD:     Bod Aelodau'r Pwyllgor wedi rhoi ystyriaeth ddyledus i gynnwys Adolygiad Dilynol y Sefydliad Iach, a’r camau oedd wedi eu cymryd i fynd i’r afael â’r meysydd hynny oedd angen sylw.

102.

Rhaglen Waith i Ddod a Ddiweddarwyd 2018-19 pdf eicon PDF 59 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol adroddiad, a phwrpas hwn oedd cyflwyno Rhaglen Waith i’r Dyfodol wedi ei diweddaru i’r Pwyllgor Archwilio ar gyfer 2018/19.

 

Roedd y Rhaglen uchod ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad A.

 

Dywedodd Aelod fod angen ychwanegu dwy eitem bellach i’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol, sef adroddiadau ar bwnc Polisi Risg wedi ei ddiweddaru a’r Polisi Rheoli Digwyddiadau.

 

PENDERFYNWYD:     Bod yr Aelodau wedi ystyried a nodi’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol wedi ei diweddaru ar gyfer 2018/19.

103.

Materion Brys

To consider any other items(s) of business in respect of which notice has been given in accordance with Rule 4 of the Council Procedure Rules and which the person presiding at the meeting is of the opinion should by reason of special circumstances be transacted at the meeting as a matter of urgency.

Cofnodion:

Dim

104.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd y cofnodion sy'n ymwneud â'r eitem canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 12,13 a 18 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitem hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath. 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:      O dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, bod y cyhoedd yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod tra byddent yn ystyried yr eitemau busnes canlynol am eu bod yn cynnwys gwybodaeth oedd wedi ei heithrio fel y’i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 a Pharagraffau 12, 13 a 18 o Ran 5 o Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007.

 

                                    Yn dilyn cymhwyso prawf lles y cyhoedd, wrth ystyried yr eitem hon, penderfynwyd, yn unol â’r Ddeddf y cyfeiriwyd ati uchod, ystyried yr eitem yn breifat, gyda’r cyhoedd wedi eu gwahardd o’r cyfarfod, gan y byddai yn golygu datgelu gwybodaeth oedd wedi ei heithrio o natur fel y dywedwyd uchod.

105.

Cymeradwyaeth Cofnodion wedi’u Eithrio

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion wedi’u Eithrio cyfarfod y 15/11/18

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Cymeradwyo Cofnodion wedi eu heithrio cyfarfod y Pwyllgor Archwilio, dyddiedig 15 Tachwedd 2018, fel cofnod gwir a chywir.