Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Remotely via Skype for Business

Nodyn: Nodyn: Sylwch: Yn sgil yr angen i gadw pellter cymdeithasol, ni fydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn ei leoliad arferol. Yn hytrach, bydd hwn yn gyfarfod rhithwir a bydd Aelodau'r Pwyllgor a Swyddogion yn mynychu o bell. Bydd y cyfarfod yn cael ei recordio i’w ddarlledu ar wefan y Cyngor ar ol i’r cyfarfod orffen. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hyn, cysylltwch â cabinet_committee@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643147 / 643148. 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

182.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant

183.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 82 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 30/01/20

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:              Bod cofnodion y cyfarfod ar 30 Ionawr 2020 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir yn amodol ar ychwanegu enw’r Cynghorydd CA Green i’r rhestr Aelodau a oedd yn bresennol ac yn amodol ar nodi bod Aelod Lleyg y Pwyllgor wedi codi nifer o ymholiadau gyda Phennaeth y Gwasanaeth Archwilio Rhanbarthol, ac iddo ddarparu ymatebion cynhwysfawr.  

184.

Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio pdf eicon PDF 62 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am Adroddiad Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio ac a oedd wedi'i atodi i'r adroddiad. 

 

Dywedodd cynrychiolydd Archwilio Cymru wrth y Pwyllgor ei bod wedi cael cyfarfod cynhyrchiol yn ddiweddar gyda'r Prif Weithredwr a'r Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad, a Newid i drafod cynlluniau'r Cyngor ar gyfer y broses adfer ac y byddai Archwilio Cymru hefyd yn gweithio gyda'r Panel Adfer a sefydlwyd yn ddiweddar ac fel cyfaill beirniadol i’r gwaith Parod at y Dyfodol.  Byddai Archwiliad Cymru hefyd yn mynychu cyfarfod nesaf y Pwyllgor i drafod offeryn rhyngweithiol Archwilio Cymru ar gyfer craffu.

 

PENDERFYNWYD:              Bod y Pwyllgor wedi nodi'r Cofnod Gweithredu.   

185.

Adolygiad Dilynol Swyddfa Archwilio Cymru o drefniadau Corfforaethol ar gyfer Diogelu Plant pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ar ganlyniad adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru 2019 a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf ac Awst 2019 a'r cynigion a wnaed ar gyfer gwella, ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y camau a gymerwyd mewn ymateb i'r cynigion ar gyfer gwella. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles wrth y Pwyllgor fod adroddiad yr adolygiad a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2019 wedi canfod bod y ‘Cyngor, ar y cyfan, wedi bodloni'r argymhellion a'r cynigion ar gyfer gwella neu wedi’u cyflawni'n rhannol, a’u bod wedi nodi cynigion pellach ar gyfer gwella a fyddai’n cryfhau agweddau ar drefniadau diogelu corfforaethol y Cyngor’.  Dywedodd fod Swyddogion wedi ystyried y sylwadau a'r arsylwadau a amlinellir yn yr adroddiad a'u bod wedi llunio cynllun gweithredu o ran y naw cynnig ar gyfer gwella.  Tynnodd sylw at y cynnydd a wnaed gyda’r camau y cytunwyd arnynt, gan fod gwaith yn cael ei wneud mewn perthynas â Chynnig 5 i ystyried defnyddio darpariaethau diogelu mewn tendrau a chontractau.  Mewn perthynas â Chynnig 7, mae archwiliad o weithgarwch gwirfoddoli wedi'i gwblhau, ond nid oedd wedi'i adrodd i'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol eto oherwydd gofynion Covid-19.  Mewn perthynas â Chynnig 9, cynhaliwyd gweithdy i adolygu ymarferoldeb y Gr?p Diogelu Gweithredol Ardal ym mis Ionawr 2020, ond roedd y Gr?p Gorchwyl a Gorffen wedi'i ohirio oherwydd pwysau Covid-19.

 

PENDERFYNWYD:             Bod y Pwyllgor Archwilio wedi derbyn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ac wedi nodi'r camau a'r cynnydd a wnaed o ran y cynigion i wella.

186.

Diweddariad Pwyllgor Archwilio - Archwilio Cymru pdf eicon PDF 222 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd cynrychiolydd Archwilio Cymru ar y wybodaeth ddiweddaraf o ran y gwaith Archwilio Ariannol a Pherfformiad a wnaed, ac sydd eto i'w wneud, ganddynt yn ystod 2019-20 a 2020-21.

 

Dywedodd wrth y Pwyllgor fod y rhaglen waith yn cael ei gwneud i helpu'r Archwilydd Cyffredinol i gyflawni dyletswyddau o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Deddf 2004) a Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.  Gall hefyd lywio astudiaeth ar gyfer gwella gwerth am arian o dan adran 41 o Ddeddf 2004, a/neu archwiliad a gynhaliwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol o dan adran 15 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.  Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Archwilydd Cyffredinol gynnal Asesiad Gwella blynyddol i benderfynu a yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn debygol o gydymffurfio â gofynion Rhan 1 o'r Mesur.

 

Adroddodd cynrychiolydd Archwilio Cymru ar y gwaith ariannol a pherfformiad a wnaed yn y Cyngor gan, ac ar ran, yr Archwilydd Cyffredinol o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.  Hysbysodd y Pwyllgor am gwmpas y gwaith archwilio ariannol a'r gwaith archwilio perfformiad, darn allweddol o’r gwaith sy'n ymwneud â chynllunio adferiad ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.  Byddai'r gwaith cynaliadwyedd ariannol yn cael ei rannu'n ddau gam. Cam 1 fydd cynnal asesiad sylfaenol o effaith gychwynnol Covid-19 ar sefyllfa ariannol awdurdodau lleol, a bydd yn ystyried y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn 2019-20 yn ogystal â'r sefyllfa ar ddiwedd chwarter 1 2020-21.  Bydd cam 2 yn cael ei gynnal dros weddill 2020-21 a bydd yn defnyddio'r sefyllfa a'r themâu a nodwyd yn ystod cam 1 er mwyn gallu canolbwyntio ar gynllunio adferiad ariannol.  Bydd adroddiadau cryno cenedlaethol yn cael eu cynhyrchu ar ddiwedd pob cam. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid wrth y Pwyllgor fod cynnydd da wedi'i wneud gyda'r Datganiad o Gyfrifon ac y bydd y Datganiad Cyfrifon terfynol yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ym mis Medi 2020.

 

PENDERFYNWYD:             Bod y Pwyllgor wedi nodi Diweddariad Pwyllgor Archwilio Cymru.

   

187.

Cynllun Archwilio Blynyddol yr Archwiliad Allanol 2020 pdf eicon PDF 225 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd cynrychiolydd Archwilio Cymru ar Gynllun Archwilio Blynyddol 2020 yr Archwilydd Allanol, ynghyd â rhestr o lofnodwyr grantiau awdurdodedig ar gyfer y Cyngor. 

 

Eglurodd fod y Cynllun Archwilio Blynyddol wedi'i baratoi gan Archwilydd Allanol y Cyngor er mwyn bodloni gofyniad y safonau archwilio a'r arferion archwilio priodol, sy'n nodi'r gwaith yr Archwilydd Penodedig yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (y Mesur), Deddf Llywodraeth Leol 1999, a'r Cod Ymarfer Archwilio.  Tynnodd sylw at elfennau allweddol archwiliad yr Archwilydd Penodedig. 

 

Adroddodd fod elfen Archwiliad Ariannol 2019-20 y cynllun wedi'i pharatoi gan Archwiliad Cymru, a'i diben oedd nodi'r gwaith arfaethedig, pa bryd y caiff ei wneud, faint fydd ei gost, a phwy fydd yn ei wneud.  Roedd y Cynllun hefyd yn amlinellu’r Archwiliad Perfformiad, Ardystio Hawliadau Grant a Ffurflenni, a Gwaith Archwilio arall i'w wneud.  

 

 

Tynnodd cynrychiolydd Archwilio Cymru sylw'r Pwyllgor at grynodeb o'r risgiau archwilio datganiad ariannol allweddol a nodwyd yn ystod y cam cynllunio, yn enwedig effaith Covid-19 ar yr awdurdod a'r effaith y byddai'n ei gael ar y gwaith archwilio, archwilio ariannol, ac archwilio perfformiad Archwilio Cymru.   

  

Cyflwynwyd rhestr o'r llofnodwyr grantiau awdurdodedig arfaethedig i'r pwyllgor gytuno arnynt:

 

  • Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid, a Swyddog Adran 151
  • Dirprwy Bennaeth Cyllid, a Dirprwy Swyddog S151
  • Rheolwr Gr?p – Prif Gyfrifydd
  • Rheolwr Gr?p - Cynllunio Ariannol a Rheoli Cyllidebau

 

PENDERFYNWYD:            Bod y Pwyllgor wedi nodi cynnwys Cynllun Archwilio Blynyddol 2020 yr Archwilydd Allanol a chytuno ar y llofnodwyr grantiau awdurdodedig a amlinellir yn yr adroddiad.    

188.

Asesiad Cynaliadwyedd Ariannol Swyddfa Archwilio Cymru pdf eicon PDF 221 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd cynrychiolydd Archwilio Cymru ar Asesiad Cynaliadwyedd Ariannol Swyddfa Archwilio Cymru a gynhaliwyd i asesu cynaliadwyedd sefyllfa ariannol tymor byr a chanolig y cynghorau, roedd yn canolbwyntio ar strategaeth ariannol pob cyngor yn ogystal ag adolygu rhai dangosyddion ariannol allweddol o sefyllfa ariannol pob cyngor mewn perthynas â:

 

  • perfformiad yn erbyn y gyllideb;
  • cyflawni cynlluniau arbedion;
  • defnyddio cronfeydd wrth gefn;
  • y dreth gyngor; a
  • benthyca

 

Dywedodd cynrychiolydd Archwilio Cymru wrth y Pwyllgor ei fod wedi cynnal yr asesiad gan ei fod wedi nodi fod cynaliadwyedd ariannol yn risg i gynghorau wrth roi trefniadau priodol ar waith i sicrhau gwerth am arian wrth ddefnyddio ei adnoddau. Roedd hyn yn rhannol seiliedig ar brofiadau rhai o gynghorau Lloegr yn ddiweddar, ar wybodaeth am y sefyllfa ariannol yng Nghynghorau Cymru, a'r duedd gyffredinol o leihau adnoddau i lywodraeth leol, ynghyd â'r galw cynyddol am rai gwasanaethau.  Dywedodd wrth y Pwyllgor nad oedd gan Archwilio Cymru bryderon sylweddol am sefyllfa ariannol y Cyngor hwn a bod sefyllfa ariannol y Cyngor yn gryf, ond byddai rhai agweddau o’r cynllunio ariannol a'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn elwa o gael eu cryfhau. Roedd wedi dod i'r casgliadau canlynol:

 

·     Byddai Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor yn elwa o gael ei gryfhau mewn rhai meysydd pwysig.

·      Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r Cyngor wedi tanwario ei holl gyllidebau blynyddol ac mae hefyd yn disgwyl tanwario ei gyllideb ar gyfer 2019-20.

·     Mae gan y Cyngor hanes da o gyflawni'r rhan fwyaf o'i arbedion arfaethedig.

·         Mae gan y Cyngor lefel uchel o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio.

·         Mae gan y Cyngor hanes da o gasglu ei dreth gyngor.

·     Mae gan y Cyngor lefel gymharol isel o gostau benthyca a llog ac nid yw wedi ceisio unrhyw fenthyciadau hirdymor newydd ers 2012.

 

Dywedodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid wrth y Pwyllgor fod sefyllfa ariannol a chynaliadwyedd y Cyngor wedi newid yn fawr yn ystod y pandemig.  Mae hawliadau i Lywodraeth Cymru yn cael eu cyflwyno bob mis, gyda rhai hawliadau'n cael eu talu ar gyfradd o 50%, gyda'r Cyngor yn gorfod ariannu'r 50% sy'n weddill.  Roedd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet a oedd yn rhagweld gorwariant o £3m ar gyfer y chwarter cyntaf.  Dywedodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro wrth y Cabinet fod nifer o geisiadau am gostau ychwanegol a cholli incwm wedi'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru, er nad oedd yn hysbys a fyddai'r Cyngor yn cael ei ad-dalu am yr hawliadau a gyflwynwyd neu ddim.  Dywedodd fod incwm o barcio ceir a'r Dreth Gyngor wedi gostwng a bod mwy o geisiadau wedi dod i law am gymorth y Dreth Gyngor a Budd-dal Tai.  Dywedodd wrth y Pwyllgor ei bod yn anodd rhagweld yr effaith ariannol ar y Cyngor yn y dyfodol.

 

Dywedodd cynrychiolydd Archwilio Cymru wrth y Pwyllgor fod y darn hwn o waith wedi'i wneud cyn y pandemig ac y bydd gwaith pellach yn cael ei wneud ar gynaliadwyedd ariannol Cynghorau ac effaith y pandemig. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog –  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 188.

189.

Ymchwiliadau Twyll i Leihau'r Dreth Gyngor: Ebrill 2019 i Fawrth 2020 pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid ar y gweithgareddau a gynhaliwyd rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020 mewn perthynas â thwyll Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (CTR), ymchwiliadau Bathodynnau Parcio Pobl Anabl (Bathodyn Glas), yn ogystal â chrynodeb o ganlyniadau a gyflawnwyd yn ystod 2019/20 o gymharu â'r sefyllfa ar gyfer 2018/19.

 

Adroddodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y gwaith ymchwilio ar gyfer Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor wedi'i drosglwyddo i Wasanaeth Ymchwilio Twyll Sengl (SFIS) yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ar 1 Tachwedd 2015.

 

  Dywedodd wrth y Pwyllgor fod y Gwasanaeth Budd-daliadau, er mwyn cynnal gweithgareddau gwrth-dwyll effeithiol a gweithredol ar gyfer CTR, yn cyflogi Ymchwilydd Twyll i ymgymryd â'r canlynol yn bennaf:

 

  • Ymchwilio i honiadau o dwyll CTR, anghysondebau disgownt un person, a chamddefnyddio Bathodyn Glas.
  • Ymgymryd â gweithgareddau ymyrraeth sy'n seiliedig ar risg
  • Cynorthwyo SFIS i ddarparu gwybodaeth a/neu ddogfennaeth
  • Gwella ymwybyddiaeth a darparu hyfforddiant i staff mewn perthynas â thwyll, camdriniaeth, a cholled ariannol

 

Dywedodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid wrth y Pwyllgor fod yr Ymchwilydd Twyll wedi datblygu rhwydwaith o gysylltiadau gydag Ymchwilwyr Twyll eraill o fewn awdurdodau cyfagos, a bod swyddogion ledled Cymru yn cyfarfod bob chwarter i drafod twyll CTR, camddefnyddio Bathodynnau Glas, a materion twyll eraill, yn ogystal ag i rannu arfer gorau.  Dywedodd fod hyfforddiant ymwybyddiaeth o dwyll yn parhau i gael ei gynnal ar gyfer staff Budd-daliadau, Opsiynau Tai, y Dreth Gyngor, a'r Gwasanaeth Cwsmeriaid, yn ogystal â gydag asiantaethau allanol.   Mae ymwybyddiaeth o dwyll hefyd yn rhan o'r broses sefydlu ar gyfer yr holl staff Budd-daliadau newydd.  Dywedodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid hefyd wrth y Pwyllgor fod y Cyngor wedi ymrwymo i feithrin a chynnal diwylliant dim goddefgarwch o ran twyll a llygredd, gan ddatblygu modiwl e-ddysgu Atal Twyll i gefnogi'r polisïau atal Twyll, Llwgrwobrwyo, a Gwyngalchu Arian.  Bydd hyfforddi staff yn gwella eu dealltwriaeth o sut y gall twyll ddigwydd, yn gwella eu gallu i’w atal, yn hwyluso’r gwaith o adnabod gweithgareddau amheus, ac yn gymorth iddynt weithredu gydag uniondeb ac ymateb yn effeithiol i ddigwyddiadau.  Caiff y modiwl E-Ddysgu i'w ryddhau yn ystod haf 2020.

 

Adroddodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid ar y grynodeb o atgyfeiriadau twyll, sy'n dangos bod gostyngiad o 12.6% yn nifer yr atgyfeiriadau a dderbyniwyd ar draws pob ffynhonnell yn ystod 2019/20.

Fodd bynnag, nid oedd rheswm amlwg dros y gostyngiad cyffredinol, ond byddai hyn yn cael ei ymchwilio yn y dyfodol. Dywedodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid wrth y Pwyllgor fod dau ymchwiliad CTR a gynhaliwyd gan yr Ymchwilydd Twyll wedi arwain at erlyniadau llwyddiannus yn 2019/20. 

 

Adroddodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Cyngor, ym mis Gorffennaf 2019, wedi gweithio mewn partneriaeth â thîm arbenigol o

Gyngor Dinas Portsmouth i gymryd camau gorfodi o ran Bathodynnau Glas. Gan weithio mewn lleoliadau Bwrdeistref Sirol dethol, arweiniodd yr ymgyrch deuddydd at 68 o ymyriadau, ac roedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 189.

190.

Datganiad o Gyfrifon 2019-20 (heb eu harchwilio) pdf eicon PDF 299 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Interim y Gr?p – Prif Gyfrifydd adroddiad i gyflwyno'r Datganiad o Gyfrifon heb ei archwilio ar gyfer y cyfnod uchod er mwyn i'r Pwyllgor gael ei nodi.

 

Dywedodd fod paratoi Datganiad o Gyfrifon yn un o ofynion Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'i diwygiwyd yn 2018) a diffinnir ei gynnwys gan 'God Ymarfer y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ar Gyfrifyddu Awdurdodau Lleol yn y Deyrnas Unedig' (y Cod).

 

Yn unol â'r rheoliadau hyn, roedd angen i'r swyddog cyllid cyfrifol gymeradwyo a llofnodi'r Datganiad o Gyfrifon heb ei archwilio ar gyfer 2019-20 erbyn 15 Mehefin 2020, gan ardystio ei fod yn cyflwyno darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y Cyngor. Yna, rhaid i'r Pwyllgor Archwilio gymeradwyo'r Datganiad o Gyfrifon archwiliedig erbyn 15 Medi 2020 yn unol â Chylch Gorchwyl y Pwyllgor. Os na ellir llofnodi a chyhoeddi'r cyfrifon erbyn y dyddiad hwn yna rhaid i'r Cyngor gyhoeddi hysbysiad Rheoliad 10 sy'n nodi'r rhesymau pam.

 

Cadarnhaodd Rheolwr Interim y Gr?p – Prif Gyfrifydd nad oedd y Cyngor, o ganlyniad i'r pandemig Coronafeirws, wedi gallu bodloni'r dyddiad cau 15 Mehefin 2020 ac felly, yn unol â gofynion y Rheoliadau, cyhoeddodd hysbysiad yn rhoi gwybod am hyn. Llofnodwyd y cyfrifon heb eu harchwilio gan y swyddog cyllid cyfrifol ar 30 Mehefin 2020, a'u hanfon i Archwilio Cymru yr un diwrnod.

 

Atodir Datganiad Cyfrifon heb ei archwilio gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben 31 Mawrth 2020 yn Atodiad A i'r adroddiad.

 

Aeth ymlaen wedyn i roi cyflwyniad Powerpoint i’r Aelodau a oedd yn tynnu sylw at rywfaint o wybodaeth allweddol o Ddatganiad Cyfrifon 2019-20, er budd yr Aelodau, yn ogystal ag ymhelaethu ar rywfaint o'r wybodaeth ariannol allweddol a ddangoswyd yn y prif adroddiad.

 

Nododd Aelod ei bod yn ymddangos o’r adroddiad bod yr Awdurdod wedi bod yn tanwario o ran ei Gyllideb.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro fod adroddiadau Monitro chwarterol wedi'u cyflwyno fel rhan o'r Gyllideb Refeniw i Bwyllgorau'r Cabinet a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ac roedd y rhain yn nodi'r manylion mewn perthynas â phob un o'r Cyfarwyddiaethau a oedd yn rhan o'r Cyngor, gan amlinellu meysydd lle'r oedd gorwariant a thanwariant ym meysydd gwasanaeth y Cyngor cyfan a oedd yn cynnwys pob Cyfarwyddiaeth.

 

Cyflwynwyd adroddiad Alldro Ariannol i'r Cabinet ar 30 Mehefin 2020 ac o ran cyllidebau'r Cyngor cyfan, roedd yr adroddiad hwn yn adlewyrchu tanwariant sylweddol o tua £3m o gyllid nas rhagwelwyd ar gyfer pensiynau cyflog/pensiynau athrawon a phensiynau staff y Gwasanaeth Tân, a bod yr Awdurdod wedi'i gynnwys yn ei gyllideb ei hun. Fodd bynnag, cafodd y lefel hon o gyllid ei derbyn wedyn gan Lywodraeth Cymru.  Roedd £2m wedi'i ddyrannu i Gronfa Gyfalaf ar gyfer buddsoddi mewn cymunedau.

 

Gofynnodd Aelod i’r Swyddogion pa bryd yr oeddent yn credu y byddai'r setliad ar gyfer 2021-2022 yn dod, o gofio ei fod yn hwyr eleni.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro yr amcangyfrifwyd y byddai’n dod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 190.

191.

Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2019-20 pdf eicon PDF 217 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Interim y Gr?p – Prif Gyfrifydd adroddiad, a'i ddiben oedd cyflwyno Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2019-20 (AGS) i'w gymeradwyo a'i gynnwys yn Natganiad Cyfrifon 2019-20 sydd heb ei archwilio.

 

I egluro’r cefndir, dywedodd fod Rheoliad 5 (2) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gynnal, fel rhan o'i drefniadau ar gyfer llywodraethu corfforaethol, adolygiad blynyddol o lywodraethu ac adroddiad ar reolaeth fewnol.

 

Ychwanegodd Rheolwr Interim y Gr?p – Prif Gyfrifydd fod llywodraethu corfforaethol da yn gofyn am gyfranogiad gweithredol Aelodau a Swyddogion

ar draws y Cyngor. Adolygir y trefniadau hyn yn flynyddol a defnyddir y canfyddiadau i ddiweddaru'r AGS. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod diwylliant llywodraethu corfforaethol y Cyngor yn gwella'n barhaus. Roedd cynnwys yr AGS yn y Datganiad o Gyfrifon hefyd yn darparu arfarniad cyffredinol o'r rheolaethau a oedd ar waith i reoli risgiau allweddol y Cyngor ac yn nodi lle mae angen gwneud gwelliannau.

 

Adolygwyd drafft o AGS 2019-20 gan y Bwrdd Rheoli Corfforaethol (CMB) a'r Cabinet. Amgaewyd y ddogfen yn Atodiad A i'r adroddiad.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 219 o'r AGS a rôl Cynghorwyr fel cyfeillion beirniadol llywodraethu corfforaethol. Nododd, oherwydd Covid-19 a chau Swyddfeydd y Cyngor yn ei sgil, fod yn rhaid canslo cyfarfodydd Pwyllgor hyd nes y byddent yn ail-gychwyn o bell drwy Skype.

 

Gofynnodd i gynrychiolwyr Archwilio Cymru beth oedd eu canfyddiad o drefniadau llywodraethu CBSP (o'i gymharu ag awdurdodau cyfagos eraill) drwy gydol argyfwng Covid-19, yn enwedig mewn perthynas â pharhau i gynnal cyfarfodydd o bell a rôl Aelodau ym mhrosesau penderfynu'r Cyngor. Gofynnodd hyn gan fod y pandemig wedi rhoi heriau ychwanegol i awdurdodau lleol a bod dyletswydd ar Aelodau i ymateb iddynt.

 

Dywedodd cynrychiolydd o Swyddfa Archwilio Cymru fod Covid-19 a’r cyfnod clo wedi arwain at ganslo cyfarfodydd ers peth amser gan fod Swyddfeydd y Cyngor wedi gorfod cau oherwydd ymbellhau cymdeithasol ac er mwyn lleihau lledaeniad y feirws.

 

Ychwanegodd fod pob Cyngor yng Nghymru bellach wedi dechrau cynnal cyfarfodydd Pwyllgor o bell, ar adegau gwahanol, a bod pob un bellach yn cynnull cyfarfodydd drwy Skype neu Microsoft Teams. Nid oedd o'r farn bod CBSP wedi bod yn araf i weithredu yn hyn o beth, o'i gymharu ag awdurdodau eraill yng Nghymru.

 

Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol fod CBSP, mewn perthynas â chynnal Pwyllgorau Archwilio ers y cyfnod clo fel y cyfeiriodd yr Aelod ato, wedi dechrau cynnal cyfarfodydd y Pwyllgor hwn cyn unrhyw un o'r awdurdodau lleol eraill a oedd yn rhan o'r Gwasanaeth a Rennir.

 

PENDERFYNWYD:              Fod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r drafft o Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol 2019-20, gyda mân ddiwygiad i gynnwys cyfeiriad at reoliadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chyfarfodydd rhithwir yn Atodiad A yr adroddiad, a chytunwyd i'w gynnwys o fewn Datganiad o Gyfrifon 2019-20 sydd heb ei archwilio.

192.

Ffurflen Dreth Harbwr Porthcawl 2019-20 (heb ei harchwilio) pdf eicon PDF 283 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Interim y Gr?p – Prif Gyfrifydd adroddiad, a'i ddiben, oedd cyflwyno Datganiad Harbwr Porthcawl 2019-20 heb ei archwilio fel bo modd i’r Pwyllgor Archwilio ei gymeradwyo.

 

Atodir Datganiad heb ei archwilio gan y Cyngor mewn perthynas ag Harbwr Porthcawl, hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol ar 31 Mawrth 2020, yn Atodiad A i'r adroddiad.

 

Eglurodd i'r Aelodau fod yr Harbwr mewn sefyllfa gytbwys ar 31 Mawrth 2020. Cynhyrchodd £262,599 mewn ffioedd, yn bennaf ar gyfer angorfeydd cychod. Y prif eitemau gwariant yw costau staffio (£92,426) a dibrisiant asedau'r Harbwr (£113,518). Gwerth yr Harbwr ac asedau cysylltiedig, gan gynnwys y ciosg a'r llithrfa, ar 31 Mawrth 2020 oedd £3,170,299.

 

Gofynnodd Aelod, o ran angori cychod yn yr harbwr, pe caniateid i'r perchnogion breswylio'n llawn ar y cychod a llongau eraill yno.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro na fyddai Cyllid yn gallu ateb y cwestiwn hwn, er y gallai'r Aelod ddymuno annerch Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol ynghylch hyn y tu allan i'r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:                      Cymeradwyodd yr Aelodau ffurflen Harbwr Porthcawl heb ei archwilio 2019-20 yn Atodiad A i'r adroddiad.

193.

Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol 2019-20 pdf eicon PDF 86 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol adroddiad a ddarparodd Farn Flynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol ar amgylchedd rheoli'r Cyngor mewn perthynas â llywodraethu, rheoli risg, a rheolaeth fewnol, ac a oedd yn hysbysu'r Pwyllgor Archwilio o waith a pherfformiad Archwilio Mewnol ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2019-20.

 

Mae Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i'r Pennaeth Archwilio Mewnol ddarparu Adroddiad Blynyddol i gefnogi'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Dylai'r adroddiad gwmpasu'r 5 pwynt bwled fel y'u rhestrir ym mharagraff 3.1 o'r adroddiad

 

Cyflwynwyd Cynllun Archwilio Mewnol 2019-20 i'r Pwyllgor Archwilio ei

ystyried a’i gymeradwyo ar 18 Ebrill 2019 a nodwyd gwaith archwilio a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn benodol honno.

 

Roedd Adroddiad Blynyddol yr Archwiliad Mewnol yn Atodiad A i'r adroddiad, ac roedd yn crynhoi'r adolygiadau a gynhaliwyd yn ystod 2019-20 gan gynnwys unrhyw waith gwrth-dwyll, yr argymhellion a wnaed, ac unrhyw faterion rheoli a nodwyd. Cwblhawyd cyfanswm o 35 o adolygiadau gyda barn archwilio, a gwnaed cyfanswm o 103 o argymhellion canolig ac uchel. Mae dadansoddiad manwl wedi'i gynnwys yn Annex 1 o'r atodiad.

 

Mae’r cynnydd yn erbyn Cynllun seiliedig ar Risg 2019-20 wedi’i atodi i Annex 2 yr adroddiad, a dangosodd fod y rhan fwyaf o'r adolygiadau archwilio arfaethedig wedi'u cynnal yn ystod 2019-20, er gwaethaf yr adnoddau staffio is.

 

Gan ystyried canlyniadau'r adolygiadau archwilio mewnol a gwblhawyd yn ystod 2019-20, yr argymhellion a wnaed, a’r ffynonellau eraill o sicrwydd, barn flynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol y Cyngor ar gyfer 2019-20 oedd bod sicrwydd rhesymol. Ni nodwyd unrhyw faterion rheoli trawsbynciol sylweddol a fyddai'n effeithio ar amgylchedd rheoli cyffredinol y Cyngor ac mae'r gwendidau a nodwyd yn benodol i'r gwasanaeth.

 

Yna, er budd yr Aelodau, aeth Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol drwy rai o'r meysydd gwaith allweddol a geir yn Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol 2019/2020, a atodir i'r adroddiad eglurhaol.

 

Gofynnodd Aelod, mewn perthynas ag Adran 3 o'r Atodiad lle nodwyd barn sicrwydd gyfyngedig, a ellid darparu gwybodaeth ychwanegol i'r Pwyllgor.  Yn benodol, o ran Rheoli Contractau, gofynnodd yr Aelod a ellid darparu gwybodaeth am y Contractau dan sylw, ynghyd â gwybodaeth ariannol a'r materion a nodwyd i'r Aelodau.

 

Daeth y Cadeirydd â’r ddadl ar yr eitem i ben drwy gynghori Swyddogion fod y newid i'r ffordd yr oedd y Cyngor yn gweithio yn sgil y pandemig ac ati yn golygu fod angen i ymgysylltu rhagweithiol barhau rhwng adrannau a meysydd gwasanaeth yr Awdurdod ac Archwilio Mewnol o ran rheolaethau mewnol ac arferion gwaith. Gellid rhannu hyn wedyn ag Aelodau fel y bo'n briodol.

 

PENDERFYNWYD:                       (1) Bod yr Aelodau yn rhoi ystyriaeth briodol i'r Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2019-20, gan gynnwys Barn Flynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol ar amgylchedd rheoli'r Cyngor mewn perthynas â llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol.

 

                                            (2) Bod y Pennaeth Archwilio Mewnol yn rhoi manylion i'r Aelodau mewn perthynas â'r adroddiad Rheoli Contractau.

194.

Siarter Cydwasanethau yr Archwiliad Mewnol Rhanbarthol 2020-21 pdf eicon PDF 73 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Rhanbarthol adroddiad er mwyn rhannu Siarter Cydwasaethau’r Archwiliad Mewnol Rhanbarthol ar gyfer 2020/21 gyda'r Pwyllgor, a oedd yn cwmpasu pob un o'r pedwar awdurdod lleol a oedd yn rhan o’r Gwasanaeth a Rennir.

 

Rhoddodd yr adroddiad rywfaint o wybodaeth gefndirol, ac yn dilyn hynny cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol at baragraff 3.7 o'r adroddiad a gadarnhaodd fod y Siarter wedi'i rhannu'n adrannau canlynol:-

 

1. Diben, Awdurdod a Chyfrifoldeb;

2. Annibyniaeth a gwrthrychedd;

3. Hyfedredd a gofal proffesiynol dyladwy;

4. Rhaglen sicrhau a gwella ansawdd;

 

Aeth ymlaen drwy gadarnhau bod y PSIAS yn ei gwneud yn ofynnol i'r Pennaeth Archwilio Mewnol adolygu'r siarter o bryd i'w gilydd, er mai'r Pwyllgor Archwilio oedd yn gyfrifol am gymeradwyaeth derfynol.

 

Mae'r Siarter Gwasanaeth a Rennir Archwilio Mewnol Rhanbarthol ar gyfer 2020-21 wedi'i hatodi yn Atodiad A i'r adroddiad. Roedd hyn wedi'i adolygu a'i ddiweddaru, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i adlewyrchu gofynion y PSIAS a'i fod yn berthnasol i'r holl Gynghorau a oedd yn rhan o’r Gwasanaeth a Rennir.

 

PENDERFYNWYD:                             Bod yr Aelodau wedi ystyried a chymeradwyo Siarter Cydwasanaethau'r Archwiliad Mewnol Rhanbarthol ar gyfer 2020/21 fel yr atodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad.

195.

Blaen Raglen Waith 2020-21 pdf eicon PDF 246 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid adroddiad er mwyn ceisio cymeradwyaeth i’r Flaen Raglen Waith arfaethedig ar gyfer 2020-21.

 

Eglurodd fod Pwyllgorau Archwilio effeithiol yn helpu i godi proffil materion rheolaeth fewnol, materion rheoli risg, a materion adrodd ariannol mewn sefydliad, yn ogystal â darparu fforwm ar gyfer trafod materion a godwyd gan archwilwyr mewnol ac allanol. Roedd y prosesau hyn yn gwella ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd ym maes llywodraethu ariannol Awdurdodau.

 

Roedd paragraff 4.2 o'r adroddiad yn rhestru'r eitemau arfaethedig ar yr agenda a drefnwyd ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 10 Medi 2020.

 

Dangosodd yr Atodiad i'r adroddiad restr bellach o eitemau agenda i’w cynnig i’w cyflwyno i'r ddau gyfarfod nesaf a drefnwyd ar ôl y cyfarfod ar 10 Medi 2020.

 

Nododd y Cadeirydd mai un o'r eitemau ar gyfer Pwyllgor mis Medi oedd Asesiad Risg Corfforaethol 2020-21. Nododd fod cryn dipyn wedi digwydd oherwydd y Coronafirws, felly gofynnodd i Swyddogion a fyddai'r adroddiad hwn yn crynhoi'r holl risgiau ychwanegol a oedd wedi codi oherwydd Covid-19, gan gynnwys y rhai a oedd wedi rhoi baich ariannol ychwanegol ar yr Awdurdod.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid Dros Dro, Perfformiad a Newid fod y Cabinet/CMB wedi cyflwyno cyfarfodydd gorchymyn Aur ers y pandemig a’r cyfnod clo, er mwyn edrych ar ei effaith ar y Cyngor o ran risgiau a heriau ariannol cynyddol.

 

Roedd hon wedi bod yn sefyllfa frys ers peth amser, ac roedd y cyfarfodydd hyn wedi'u cynnull yn rheolaidd iawn.

 

Roedd yr Awdurdod bellach yn adeiladu cynllun adfer ac ni chynhelir y cyfarfodydd hyn mor aml, felly roedd yn fwy o fater o fonitro risgiau, gan gynnwys rhai fesul Cyfarwyddiaeth, wrth symud ymlaen.

 

Ychwanegodd Aelod fod angen edrych ar amcanion lefel is yr Awdurdod yn ogystal â’r rhai lefel uwch wrth baratoi'r adroddiad Asesu Risg.

 

Atebodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod tri phrif ddarn o waith yr oedd angen i'r Cyngor ganolbwyntio arnynt wrth symud ymlaen, sef ei gynaliadwyedd ariannol, cyflawni Amcanion Corfforaethol y Cyngor fel yr amlinellir yn ei Gynllun Corfforaethol, a risgiau a blaenoriaethau pwysicaf y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:                        Bod yr Aelodau wedi ystyried ac wedi cymeradwyo'r Flaenraglen Waith arfaethedig ar gyfer 2020-21.    

196.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z