Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: Please note: Due to the requirement for social distancing this meeting will not be held at its usual location. This will be a virtual meeting and Committee Members and Officers will be attending remotely. The meeting will be recorded for subsequent transmission via the Council’s internet site as soon as practicable after the meeting. If you have any queries regarding this, please contact cabinet_committee@bridgend.gov.uk or tel. 01656 643147 / 643148. 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

258.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Dim

259.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 425 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 18/06/2021

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Bod cofnodion cyfarfod 18 Mehefin 2021 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir

260.

Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf eicon PDF 208 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a roddodd ddiweddariad i’r Pwyllgor ar y Cofnod Gweithredu, a ddyfeisiwyd fel ffordd o olrhain y penderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau.

 

Dywedodd fod y Cofnod Gweithredu yn cael ei gyflwyno i bob cyfarfod o'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a'i fod ynghlwm yn Atodiad A i'r adroddiad eglurhaol.  Amlinellodd y camau a restrir yn yr Atodiad gyda'r cynnydd hyd yma ar bob un o'r rhain.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am yr adroddiad cynaliadwyedd ariannol gan Archwilio Cymru, a oedd i fod i gael ei ddwyn i gyfarfod mis Gorffennaf, a gofynnodd a oedd diweddariad ar hyn.  Dywedodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru fod sylwadau swyddogion wedi dod i law ar hyn a bod Archwilio Cymru yn y broses o ddelio â'r rhain.  Esboniodd fod yr adroddiad lleol a'r adroddiad cenedlaethol yn debygol o gael eu dwyn i gyfarfod mis Medi.  Gofynnodd y Cadeirydd a ellid diweddaru'r cofnod gweithredu i adlewyrchu hyn.

 

PENDERFYNWYD: Bod y pwyllgor wedi nodi'r adroddiad.

 

 

261.

Adroddiadau Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cymru pdf eicon PDF 268 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru adroddiad a roddodd ddiweddariad i’r pwyllgor ar y gwaith archwilio ariannol a pherfformiad a wnaed, ac sydd i fod i gael ei wneud, gan Archwilio Cymru.

 

Esboniodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru fod llawer o'r gwaith archwilio ariannol a restrwyd bellach wedi'i gwblhau ac y byddai'n cael ei drafod ar yr agenda yn y cyfarfod hwn.  Ychwanegodd fod y gwaith a wnaed ar Archwilio Ffurflenni 2020-21 ar gyfer Cydbwyllgor Amlosgfa Llangrallo hefyd wedi'i gwblhau ac y byddai'n cael ei ddwyn i'r pwyllgor hwnnw ym mis Medi.  Ychwanegodd y byddai Archwiliad o Grantiau a Ffurflenni 2020-21 y Cyngor yn cael ei gynnal o fis Hydref hyd at fis Rhagfyr eleni.

 

Esboniodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru fod gwaith Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn parhau am y cyfnod 2021-22, ond bod ymgynghori wedi digwydd gydag awdurdodau lleol a'r consensws oedd y dylai Archwilio Cymru integreiddio'r gwaith hwn â'r gwaith archwilio safonol. 

 

Esboniodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru fod y gwaith Sicrwydd ac Asesu Risg yn brosiect i nodi lefel y sicrwydd archwilio a/neu lle gallai fod angen gwneud gwaith archwilio pellach yn y blynyddoedd i ddod mewn perthynas â risgiau i'r Cyngor o roi trefniadau priodol ar waith i sicrhau gwerth am arian wrth ddefnyddio adnoddau.  Roedd y gwaith hwn yn parhau trwy gydol y flwyddyn.

 

Amlinellodd yr eitem Springing Forward - Examining the Building Blocks for a Sustainable Future ac esboniodd ei fod yn adolygiad thematig a oedd yn edrych ar bob awdurdod yng Nghymru a sut yr oeddent yn cryfhau eu gallu i drawsnewid, addasu a chynnal y modd y darperir gwasanaethau.  Ychwanegodd eu bod ar hyn o bryd yn cwmpasu'r gwaith a'i fod wedi'i gynllunio ar gyfer Hydref 2021 ymlaen, gydag arolwg yn cael ei gyhoeddi i swyddogion ac Aelodau ym mis Medi i nodi'r themâu allweddol i ganolbwyntio arnynt. 

 

Amlinellodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru yr adolygiad a oedd yn ymwneud â phartneriaeth iechyd Cwm Taf Morgannwg yn dilyn trosglwyddiad y Cyngor i'r bartneriaeth yn 2019.  Roedd y cwmpas i'w drafod gyda'r Cyngor o hyd ac roedd trafodaeth gr?p wedi'i threfnu ar gyfer 17 Awst 2021 i sefydlu hyn.  Mae’r gwaith ar hyn i fod i ddechrau yn Hydref 2021.

 

Esboniodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru fod adroddiad gwaith Archwilio Cymru yma bellach yn adroddiad chwarterol ond y byddai hefyd yn tynnu sylw at y gwaith gydag ESTYN ac Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW). 

 

Amlinellodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru hefyd yr adolygiad strategaeth ddigidol a gynhaliwyd yn 2018.  Ers hynny, mae’r Cyngor wedi mabwysiadu Strategaeth Ddigidol 2020-2024.  Cyflwynodd y meysydd allweddol y gallai'r Cyngor wella arnynt a'r modd o gyflawni hyn.  Rhestrwyd hyn yn Arddangosyn 1 yr adroddiad.

 

Roedd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid o’r farn fod canfyddiadau'r adolygiad gan Archwilio Cymru yn deg a bod nifer o feysydd i'w gwella ac, yn enwedig ers y pandemig, bu newidiadau yn y ffordd yr oedd CBSPAO yn gweithio ac roedd yn bwysig cymryd y rheini i ystyriaeth a dysgu oddi wrthynt wrth symud ymlaen gyda'r Strategaeth Ddigidol.  Ychwanegodd fod y bwrdd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 261.

262.

Datganiad o Gyfrifon 2020-21 pdf eicon PDF 301 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p Dros Dro - Prif Gyfrifydd adroddiad o'r Datganiad Cyfrifon archwiliedig ar gyfer 2020-21, a oedd i fod i gael ei ardystio gan ein harchwilwyr allanol, Archwilio Cymru, a Llythyr Cynrychiolaeth cysylltiedig y Cyngor.

 

Dywedodd fod Datganiad Cyfrifon archwiliedig diwygiedig 2020-21 ynghlwm yn Atodiad A. Roedd manylion yr holl newidiadau wedi'u cynnwys yn Adroddiad Archwiliad Cyfrifon yr Archwilydd yn Atodiad B. Roedd yr Archwilydd Penodedig angen Llythyr Cynrychiolaeth Terfynol gan y Cyngor i gwblhau'r broses a galluogi i'r cyfrifon gael eu cymeradwyo a oedd i'w gweld yn Atodiad C.

 

Esboniodd y Rheolwr Gr?p Dros Dro - Prif Gyfrifydd fod y Datganiad Cyfrifon 2020-21 nas archwiliwyd wedi'i lofnodi gan y swyddog ariannol cyfrifol ar 11 Mehefin 2021 a'i gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 18 Mehefin 2021 i'w nodi.  Yn y cyfamser, cynhaliwyd yr archwiliad allanol, gan arwain at wneud nifer o newidiadau i'r datganiadau ariannol, mae’r pwyntiau allweddol wedi’u rhestru yn 3.2 a 3.3 o'r adroddiad gyda'r manylion llawn yn Atodiad B.

 

Ychwanegodd, yn amodol ar gymeradwyaeth y Pwyllgor i'r datganiad cyfrifon a'r llythyr cynrychiolaeth, y rhagwelwyd y byddai'r archwilydd cyffredinol yn llofnodi'r cyfrifon archwiliedig ac yn dilyn hyn, byddem yn cyhoeddi'r cyfrifon archwiliedig terfynol yn unol â’r dyddiad cau statudol sef 31 Gorffennaf 2021.

 

Esboniodd y Rheolwr Archwilio - Archwilio Cymru fod pwysau Covid-19 wedi profi i fod yn anodd ond roedd cwblhau'r datganiad cyfrifon erbyn mis Gorffennaf yn orchest.  Diolchodd i'r tîm cyllid am eu gwaith caled yn cyflawni tasg o'r fath.

 

Dywedodd Rheolwr Archwilio - Archwilio Cymru nad oedd sicrwydd yn cael ei warantu ond eu bod yn gweithio i lefel o berthnasedd a oedd yn anelu at nodi a chywiro camddatganiadau a allai fel arall achosi i ddefnyddiwr y cyfrifon gael eu camarwain.  Mae Archwilio Cymru wedi gosod y lefel ar £4.8 miliwn ar gyfer archwiliad eleni.  Ychwanegodd fod y gwaith archwilio bellach wedi'i gwblhau ac roedd Archwilio Cymru yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon eleni unwaith y byddai'r Llythyr Cynrychiolaeth wedi'i ddarparu yn seiliedig ar yr hyn a nodir yn Atodiad 1.

 

Tynnodd Rheolwr Archwilio - Archwilio Cymru sylw at y materion sy'n codi o'r archwiliad fel y nodwyd ym mhwyntiau 11 i 14.

 

Adleisiodd y Cadeirydd ddiolch y Rheolwr Archwilio ond diolchodd hefyd i Archwilio Cymru am eu gwaith caled yn enwedig yn y flwyddyn ddiwethaf gyda phwysau'r pandemig.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn:

 

  • cymeradwyo Datganiad Cyfrifon archwiliedig 2020-21 fel y'i diwygiwyd (Atodiad A);

 

  • nodi Adroddiad Archwiliad Cyfrifon yr archwilwyr penodedig (Atodiad B);

 

  • nodi a chytuno ar y Llythyr Cynrychiolaeth Terfynol i Archwilio Cymru (Atodiad C).

 

263.

Ffurflen Dreth Harbwr Porthcawl 2020-21 Llythyr Archwilio Blynyddol pdf eicon PDF 222 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p Dros Dro - Prif Gyfrifydd adroddiad a'i bwrpas oedd cyflwyno Llythyr Archwilio Blynyddol 2020-21 yr Archwilydd Penodedig ar gyfer Harbwr Porthcawl, sydd ynghlwm fel Atodiad A, i'w nodi.

 

Esboniodd y Rheolwr Gr?p Dros Dro - Prif Gyfrifydd fod y Llythyr Archwilio Blynyddol 2020-21 sydd ynghlwm yn atodiad A ar gyfer Harbwr Porthcawl yn cadarnhau bod yr Archwilydd Penodedig yn bwriadu cyhoeddi tystysgrif archwilio ddiamod, gan gadarnhau ei fod yn cyflwyno golwg wir a theg o sefyllfa ariannol a thrafodiadau’r Harbwr. 

 

Cadarnhaodd y llythyr hefyd fod yr Archwilydd Penodedig yn fodlon na chanfuwyd unrhyw gamddatganiadau yn y Ffurflen Flynyddol ac nad oedd unrhyw faterion eraill yn effeithio ar eu barn archwilio.  Rhagwelwyd y bydd yr Archwilydd Penodedig yn ardystio'n ffurfiol bod yr archwiliad o'r cyfrifon wedi'i gwblhau, ar 23 Gorffennaf 2021.

 

PENDERFYNWYD: bod y Pwyllgor yn:

 

  • nodi'r Llythyr Archwilio Blynyddol 2020-21 yn Atodiad A

 

264.

Adroddiad Alldro Blynyddol Rheoli Trysorlys 2020-21 pdf eicon PDF 428 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar y sefyllfa alldro ar gyfer gweithgareddau rheoli trysorlys ar gyfer 2020-21, Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2020-21, gan dynnu sylw at gydymffurfio â pholisïau ac arferion y Cyngor. 

 

Dywedodd fod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, yn ystod blwyddyn ariannol 2020-21, wedi derbyn Adroddiad Alldro Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2019-20 ym mis Medi 2020, Adroddiad Hanner Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2020-21 ym mis Tachwedd 2020 a'r TMS 2021-22 ym mis Ionawr 2021.  Amlinellodd nifer o newidiadau a wnaed ers hynny a gyflwynwyd i'r pwyllgor yn y cyfarfod blaenorol.

 

Amlinellodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid y newidiadau economaidd a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod 2020-21 gan gynnwys cyfnod Pandemig Covid-19 a chyfnod pontio Brexit.  Ers dechrau'r pandemig Covid-19, mae Llywodraeth y DU a Chymru wedi cyhoeddi ystod eang o gynlluniau cymorth ariannol i geisio lliniaru'r effaith ar yr economi, busnesau ac unigolion.  Rhestrwyd y rhain yn adran 4.1.5 yr adroddiad.  Ychwanegodd fod crynodeb o'r gweithgareddau rheoli’r trysorlys ar gyfer 2020-21 ynghlwm yn Atodiad A.

 

Er mwyn tynnu sylw at rai meysydd allweddol, dywedodd nad oedd unrhyw fenthyca tymor hir wedi'i gymryd yn ystod 2020-21 ac nad oedd aildrefnu dyledion.  Mae llifau arian ffafriol wedi darparu cronfeydd dros ben ar gyfer buddsoddi a'r balans ar fuddsoddiadau ar 31 Mawrth 2021 oedd £51.55 miliwn, gyda chyfradd llog ar gyfartaledd o 0.21%.  Roedd gwybodaeth bellach yn 4.2.2 o'r adroddiad.

 

Amlinellodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid gyfanswm y benthyca allanol a oedd ychydig yn llai na £97 miliwn gyda chyfradd llog o 4.7% ar gyfartaledd.  Roedd gwybodaeth bellach yn 4.23 a 4.24 o'r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn:

 

  • Yn nodi gweithgareddau rheoli’r trysorlys blynyddol a Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2020-21.

 

265.

Cofrestr Risg Gorfforaethol pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad a roddodd ddiweddariad i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar y newidiadau i'r Asesiad Risg Corfforaethol, yn unol â llinell amser rheoli risg y Cyngor sydd wedi'i chynnwys ym Mholisi Rheoli Risg y Cyngor.

 

Dywedodd ei bod yn ofynnol i'r Cyngor ddatblygu prosesau rheoli risg effeithiol, gan gynnwys asesiad o risgiau corfforaethol ac roedd Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei gwneud yn ofynnol i'r Pwyllgor adolygu, craffu a chyhoeddi adroddiadau ac argymhellion ar briodoldeb rheolaeth risg y Cyngor, rheolaeth fewnol a threfniadau llywodraethu corfforaethol.  Ceir cefndir pellach yn adran 3.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod Gwasanaethau Archwilio Mewnol SWAP wedi cynnal yr archwiliad diweddar o wasanaethau rheoli risg ar ran Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol (RIAS) y Cyngor.  Er bod barn yr archwiliad yn darparu 'sicrwydd rhesymol' gwnaed nifer o argymhellion i gryfhau'r broses adrodd gan gynnwys yr angen i gyflwyno dogfen 'canllaw risg' ar wahân, gan ymgorffori prosesau i gryfhau'r cysylltiad rhwng y Gofrestr Risg Gorfforaethol (CRR) a'r risgiau a nodwyd yng Nghynlluniau Busnes y Cyfarwyddiaethau, a hefyd argymell newidiadau i fformat y CRR.

 

Ychwanegodd fod yr Asesiad Risg Corfforaethol wedi'i ddiwygio i gynnwys newid a argymhellwyd gan Wasanaethau Archwilio Mewnol SWAP, sy'n cyflwyno colofn newydd sy'n dangos y dyddiad y neilltuwyd y sgôr.  Roedd yr Asesiad Risg Corfforaethol wedi'i ddiweddaru yn Atodiad A, a oedd yn cynnwys 16 risg, 7 risg wedi'u sgorio'n uchel, 6 risg wedi'u sgorio'n ganolig, a 3 risg wedi'u sgorio'n isel.

 

Dywedodd fod un risg newydd - (Risg 16) “Mae risg y bydd System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) yn methu â gweithredu” - wedi’i ychwanegu a’i fod yn risg Uchel gyda sgôr o 15.  Dyma system TGCh sy'n dal holl gofnodion gofal cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac sy’n cael ei chefnogi gan gontractwr allanol.  Gan fod holl gofnodion a gwasanaethau gofal cymdeithasol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu cadw ar y system hon, pe bai'n methu, ni fyddai ymarferwyr gwaith cymdeithasol yn gallu gwirio cofnodion unigolion sy'n hysbys i'r gwasanaeth a gallai hyn achosi problemau diogelu.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod y sgoriau risg yn aros yr un fath ar wahân i Risg 8 - 'Methu denu, datblygu, neu gadw gweithlu sydd â'r sgiliau angenrheidiol i ateb y gofynion a roddir ar yr Awdurdod Lleol a'i wasanaethau'.  Mae elfen debygolrwydd y sgôr weddilliol wedi cynyddu o 3 i 4, gan arwain at sgôr risg uwch o 12 i 16, gan nad oedd y camau lliniaru ar hyn o bryd yn gallu lleihau'r risg o'r lefelau crai.

 

Gofynnodd yr Aelod Lleyg mewn perthynas â Risg 5, bod y risg fel petai'n ymwneud â'r bartneriaeth â Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn unig.  Gofynnodd beth oedd y risgiau gyda phartneriaid eraill CBSPAO.  Esboniodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid nad oedd y gofrestr risg yn sôn yn benodol am bartneriaethau eraill felly  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 265.

266.

Adroddiad Twyll Corfforaethol Blynyddol pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Ymchwilydd Twyll Adroddiad 2020-21 a oedd yn crynhoi'r camau a gymerwyd mewn perthynas â gwrth-dwyll ac yn rhoi diweddariad ar Ymarfer y Fenter Twyll Genedlaethol (NFI).

 

Dywedodd ei bod yn swyddogaeth graidd i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ystyried effeithiolrwydd trefniadau Rheoli Risg y Cyngor, yr amgylchedd rheoli a'r trefniadau gwrth-dwyll a llygredd cysylltiedig.

 

Amlinellodd yr Uwch Ymchwilydd Twyll feysydd allweddol y gwaith gwrth-dwyll a wnaed o fewn yr Awdurdod yn ystod 2020-21, a chrynhowyd hyn yn Atodiad A. Amlinellodd yr ymarfer paru data diweddaraf a oedd yn seiliedig ar ddata a dynnwyd ym mis Medi 2018.  Nodwyd cyfanswm o 431 achos o dwyll neu wallau sy'n cyfateb i £30,276.73 o gronfeydd adferadwy.  Arweiniodd yr ymarfer hefyd at ganslo 396 o fathodynnau glas, lle bu farw'r deiliad, gan gynhyrchu arbediad amcangyfrifedig o £227,700 i swyddfa'r cabinet.  Roedd canlyniadau manylach wedi’u cynnwys yn Atodiad 2 o Atodiad A. Dechreuodd yr ymarfer paru data dwyflynyddol nesaf yn 2020 gyda data wedi'i dynnu ym mis Hydref 2020 a dychwelwyd y manylion paru newydd yn Ionawr 2021.  Roedd gwaith ar y paru yma yn parhau.

 

Amlinellodd yr Uwch Ymchwilydd Twyll y trefniadau gweithio ar y cyd yn ogystal â'r astudiaethau cenedlaethol a gynhaliwyd.  Roedd y manylion yn adrannau 5 a 6 yn Atodiad A.

 

Gofynnodd yr Aelod Lleyg mewn perthynas â'r cynllun gweithredu, beth oedd yr amserlenni a ddisgwylid ar gyfer cwblhau'r gweithredoedd.  Esboniodd yr Uwch Ymchwilydd Twyll fod llawer o'r gweithredoedd yn ymddangos yn ôl yr angen, er enghraifft y camau hyfforddi ac ymwybyddiaeth, ond dylid cwblhau'r mwyafrif o gamau gweithredu o fewn y tair blynedd.

 

Gofynnodd yr Aelod Lleyg a oedd y risgiau sy'n ymwneud â seiber-dwyll yn cael eu hadlewyrchu yn y cynllun gweithredu a'r sefyllfa bresennol ar hyn.

 

Soniodd yr Uwch Ymchwilydd Twyll, yn dilyn sgyrsiau gyda Heddlu De Cymru, bod hyfforddiant pellach wedi’i drafod ddoe ar seiber-dwyll gan gr?p Tarian ymhlith yr holl uwch ymchwilwyr twyll ar draws awdurdodau lleol.  Ychwanegodd mai ei fwriad oedd darparu sesiwn hyfforddi i staff ond hefyd Aelodau.

 

Gofynnodd Aelod pa fath o dwyll a gyflawnwyd mewn perthynas â bathodynnau glas, a beth ellid ei wneud i gael system well fel y gellid atal y twyll hwn.

 

Esboniodd yr Uwch Ymchwilydd Twyll mai camddefnyddio'r bathodyn oedd y prif fathau o dwyll, h.y. pobl sy'n defnyddio bathodyn glas rhywun arall.  Y materion a wynebwyd oedd ei bod yn ofynnol gael presenoldeb yn yr ardaloedd hyn i ddelio â hyn.  Dywedodd fod bwriad i ymgyrch twyll debyg i flynyddoedd blaenorol fynd i'r afael â chamddefnyddio bathodynnau glas ond gyda'r pandemig a'r cyfyngiadau sydd ar waith roedd hyn yn anodd.

 

Ychwanegodd fod swyddogion gorfodi sifil wedi riportio camddefnyddio bathodynnau ond nad oeddent wedi'u hyfforddi'n ddigonol i ddelio ag achosion o gamddefnyddio, ac roedd yr hyfforddiant yr oedd ei angen wedi bod yn anodd ei drefnu gyda'r cyfyngiadau sydd ar waith oherwydd y pandemig.  Ei brif ffocws oedd darparu hyfforddiant pellach ac roedd awdurdodau cyfagos wedi cynnig rhannu costau hyn.  Credai y byddai presenoldeb pellach  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 266.

267.

Blaenraglen Waith Ddiwygiedig 2021-22 pdf eicon PDF 587 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro adroddiad, a'i ddiben oedd ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y Flaenraglen Waith ddiwygiedig arfaethedig ar gyfer 2020-21.

 

Dywedodd, er mwyn cynorthwyo'r Pwyllgor i sicrhau bod ystyriaeth ddyledus yn cael ei rhoi i bob agwedd ar eu swyddogaethau craidd, roedd y Flaenraglen Waith Ddiwygiedig arfaethedig ar gyfer 2021-22 ynghlwm yn Atodiad A.

 

Fel y gofynnwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 18 Mehefin 2021, bydd cyfarfod ychwanegol o'r Pwyllgor wedi'i drefnu ar gyfer 9 Medi 2021.  Dangosir isod yr eitemau y bwriedir eu cyflwyno yn y cyfarfod hwn.

 

 

 

Eitemau Agenda Arfaethedig - 9 Medi 2021

 

  1. Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
  2. Adroddiadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac Archwilio Cymru
  3. Proses Cwynion
  4. Adroddiadau Cynnydd Archwilio Mewnol
  5. Blaenraglen Waith Ddiwygiedig 2021-22

 

Ychwanegodd y gallai fod eitemau agenda ychwanegol yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor wrth i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ddod i rym, yn enwedig o ran cyfrifoldebau newydd y Pwyllgor mewn perthynas â pherfformiad a hunanasesu, a byddai'r rhain yn cael eu hychwanegu i'r Flaenraglen Waith yn ôl yr angen.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor wedi ystyried a chymeradwyo'r Flaenraglen Waith Ddiwygiedig arfaethedig ar gyfer 2021-22.

 

 

268.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z